Arweiniad i ddarparwyr gwasanaeth
Canllaw i ddarparwyr gwasanaeth am eu hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Mae’r canllaw hwn yn un o gyfres a ysgrifennwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i egluro eich hawliau o dan y gyfraith ar gydraddoldeb. Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi ’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf hon yn cyfuno llawer o gyfreithiau cydraddoldeb gwahanol, y bu llawer ohonynt gennym ers amser maith. Trwy wneud hyn, mae’r Ddeddf yn gwneud y gyfraith ar gydraddoldeb yn symlach ac yn haws i’w deall.
Canllaw Craidd:Darparwyr Gwasanaeth
Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach
- Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu i’ch cymdeithas, clwb neu grŵp chi
- Beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu i'ch busnes pan fyddwch yn darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i'r cyhoedd
- Dehongliad o gyfraith cydraddoldeb i’ch mudiad yn y sector gwirfoddol a chymunedol (gan gynnwys elusennau a sefydliadau crefydd a chred)
- Cyflenwi gwasanaethau: staff, mannau, hysbysebion a marchnata, deunydd ysgrifenedig, gwefannau, gwasanaethau ffôn a chanolfannau galwadau.
- Pan fyddwch chi’n gyfrifol am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud
- Y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn cael gwared â rhwystrau i bobl anabl
- Beth i’w wneud os bydd rhywun yn dweud y gwahaniaethwyd yn eu herbyn
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach