Gwneud penderfyniadau ariannol teg
Gyda gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus, mae gofyn i sefydliadau ym Mhrydain Fawr wneud penderfyniadau ariannol anodd. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus i ddangos eu bod yn gwneud penderfyniadau ariannol mewn ffordd deg, dryloyw ac atebol, gan ystyried anghenion a hawliau aelodau gwahanol eu cymuned. Cyflawnir hyn drwy asesu’r effaith y gallai newidiadau i bolisïau ac ymarferion ei gael ar grwpiau gwarchodedig gwahanol.
Nid yw’r ddyletswydd yn atal awdurdodau cyhoeddus rhag gwneud penderfyniadau anodd, megis ad-drefnu ac ail-leoli, colli swyddi a lleihau gwasanaethau, nag atal awdurdodau cyhoeddus rhag gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar un grŵp yn fwy na grŵp arall.
Nid yw asesu effaith ar gydraddoldeb newidiadau arfaethedig i bolisïau, gweithdrefnau ac ymarferion yn rhywbeth y mae’r gyfraith yn gofyn amdano yn unig, mae’n gyfle positif i awdurdodau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Nid oes rhaid i’r asesiad o angenrheidrwydd fod mewn ffurf dogfen dan yr enw Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ond gallwch ddewis ei wneud felly os bydd yn ddefnyddiol i chi. Bydd yn eich helpu i ddangos eich bod yn cydymffurfio os wnewch chi sicrhau:
- Bod gennych gofnod ysgrifenedig o’r ystyriaethau cydraddoldeb a gafodd eu hystyried gennych
- Eich bod, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried y camau y byddai’n helpu i osgoi neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar grwpiau gwarchodedig penodol.
- Eich bod yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth
- Yn gwneud eich proses gwneud penderfyniadau yn dryloyw
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn rhwymedigaeth gyfreithiol ac mae angen i awdurdodau cyhoeddus gyflawni gofynion y ddyletswydd, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd anodd. Gallai awdurdodau cyhoeddus fod yn agored i heriau cyfreithiol costus a niweidiol o ran amser ac enw da o fethu â chyflawni’r ddyletswydd cydraddoldeb.
Lawr lwytho copi gweithredol o ‘Gwneud penderfyniadau ariannol teg’
Gweler hefyd
Beth mae’r gyfraith yn gofyn i chi ei wneud
Last Updated: 03 Gorff 2014