Defnyddio’ch Hawliau Dynol
Os ydych yn teimlo y bod eich hawliau hwyrach wedi cael eu torri mewn sefyllfa arbennig, gall yr adran hon eich helpu i asesu’r sefyllfa a’ch opsiynau posibl – yn y llysoedd neu beidio fel ei gilydd.
Beth allwch ei wneud amdano?
Hwyrach y byddwch yn gallu datrys y broblem heb ddefnyddio’r gyfraith: mae amrywiaeth o gamau eraill i’w hystyried yn gyntaf i’ch helpu i ddatrys problemau. Yn y rhan hon o’r wefan, cewch ganfod am sefydliadau eraill y bydd hwyrach yn gallu eich helpu, yn ogystal â gweithrediadau ymarferol y gallwch eu cymryd.
Os gwahaniaethir yn eich erbyn, hwyrach y byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol i weithredu, neu i gryfhau’ch achos.
Nid oes un ffordd sengl o ddelio â cham posibl yn erbyn hawliau dynol: mae’n dibynnu ar y cyd-destun ac ar eich amgylchiadau neilltuol. Fel rheol, hwyrach y bydd yn ddefnyddiol i chi ystyried y camau canlynol fel canllawiau i ddelio â’ch problem.
Mynd i’r cam nesaf, Cael help a chyngor.
Nodiadau pwysig
Ym mhob achos, mae cyfyngiadau amser sy’n golygu y bydd hwyrach angen i chi ddefnyddio’r gyfraith yn eithaf cyflym i chi beidio â cholli eich hawliau. Gall gyfyngiadau amser fod yn gymhleth ond gall olygu y bydd rhaid i chi hwyrach i ‘ddwyn achos’ yn y llysoedd o fewn tri mis mewn rhai achosion.
Dim ond trosolwg cyffredinol yn unig y cewch yn yr adran hon o’r hyn i wneud os ydych yn teimlo y bod gennych achos hawliau dynol i’w gyflwyno: rydym yn eich argymell yn fawr i ymgynghori â chyfreithiwr neu gynghorydd hawliau dynol cyfrifol cyn mynd ymlaen i ddwyn achos.
Cydnabyddiaeth
Hoffem ddiolch i Sefydliad Hawliau Dynol Prydain am ei ganiatâd i ni seilio peth o’r deunydd hyn ar ei gyfres o ganllawiau o’r enw 'Your Human Rights'.
Last Updated: 06 Awst 2014