Pan mae darparwr gwasanaethau yn gyfrifol am yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud
Nid yn unig y bobl sy’n gyfrifol am sefydliadau sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd neu sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ddylai osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu ac erledigaeth.
Os yw unigolyn arall sy’n:
- cael ei gyflogi gan ddarparwr gwasanaethau, neu’n
- cyflawni cyfarwyddiadau darparwr gwasanaethau i wneud rhywbeth (yr hyn mae’r gyfraith yn ei alw’n asiant y darparwr gwasanaethau)
yn gwneud rhywbeth sy’n wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu neu erlid, gellir dal y darparwr gwasanaethau yn gyfrifol o dan y gyfraith am yr hyn y maent wedi’i wneud.
Mae rhan hon y canllaw yn egluro:
- Pryd y gellir dal darparwr gwasanaethau yn gyfrifol o dan y gyfraith am wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu neu erlid gan rywun arall
- Sut y gall darparwr gwasanaethau leihau’r risg y’i delir yn gyfrifol o dan y gyfraith
- Pryd y gall gweithwyr a gyflogir gan y darparwr gwasanaethau neu gan asiantiaid y darparwr gwasanaethau fod yn atebol yn bersonol
- Beth sy’n digwydd os yw unigolyn yn cyfarwyddo i rywun arall wneud rhywbeth sydd yn erbyn cyfraith cydraddoldeb
- Beth sy’n digwydd os yw unigolyn yn helpu rhywun arall i wneud rhywbeth sydd yn erbyn cyfraith cydraddoldeb
- Beth sy’n digwydd os yw darparwr gwasanaethau yn ceisio atal cyfraith cydraddoldeb rhag bod yn berthnasol i sefyllfa.
Mae darparwr gwasanaethau yn gyfrifol dan y gyfraith am weithredoedd gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid a wneir gan weithwyr a gyflogir ganddynt yn ystod eu cyflogaeth.
Bydd darparwr gwasanaethau hefyd yn gyfreithiol gyfrifol fel y ‘pennaeth’ am weithredoedd eu hasiantiaid a wneir â’u hawdurdod. Eu hasiant yw rhywun y mae darparwr gwasanaethau wedi’i gyfarwyddo i wneud rhywbeth ar eu rhan, hyd yn oed os nad oes ganddynt gontract ffurfiol gyda nhw.
Ar yr amod:
- bod y gweithiwr yn gweithredu wrth gyflawni eu cyflogaeth – mewn geiriau eraill, tra roeddent yn gwneud eu gwaith, neu
- bod yr asiant yn gweithredu o fewn cwmpas cyffredinol awdurdod eu pennaeth – mewn geiriau eraill, tra roeddent yn cyflawni cyfarwyddiadau’r darparwr gwasanaethau
- nid yw’n bwysig a oedd y darparwr gwasanaethau neu nad oedd y darparwr gwasanaethau
- yn gwybod am, neu
- yn cymeradwyo
yr hyn a wnaeth eu gweithiwr neu’r asiant.
Er enghraifft:
- Mae cynorthwyydd siop yn gwahardd rhywun y maen nhw’n gwybod eu bod yn hoyw o’r siop maen nhw’n gweithio ynddi oherwydd rhagfarn yn erbyn pobl hoyw. Gall y sawl a waharddwyd gyflwyno achos yn y llys am wahaniaethu anghyfreithiol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn erbyn y cynorthwyydd siop a’r unigolyn neu gwmni sy’n berchen ar y siop.
- Mae mudiad cymunedol yn llogi ymgynghorydd i baratoi cynllun newydd ar gyfer sut mae’r mudiad yn darparu ei wasanaethau. Mae’r ymgynghorydd yn gweithredu ar ran y mudiad ac yn ei enw, wrth ddelio â staff mewnol ac wrth ddelio â mudiadau allanol. Swm a sylwedd cynllun yr ymgynghorydd yw atal rhai pobl a chanddynt nodwedd warchodedig rhag defnyddio ei wasanaethau. Mae defnyddiwr gwasanaethau a chanddynt y nodwedd honno yn cwyno am wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithiol, gan ddweud fod y ffordd newydd o weithio yn cael effaith waeth arnyn nhw a phobl eraill sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig. Ni all y mudiad gynnig cyfiawnhad gwrthrychol dros y drefn a awgrymir. Byddai’r ymgynghorydd a wnaeth y penderfyniad a arweiniodd at wahaniaethu anuniongyrchol yn atebol, ac felly hefyd y pennaeth (sef yn y cyswllt hwn y mudiad), a fyddai’n atebol am yr hyn a wnaeth eu hasiant (yr ymgynghorydd).
Fodd bynnag, ni fydd darparwr gwasanaethau yn cael eu dal yn gyfrifol o dan y gyfraith os gallant ddangos:
- eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i rwystro gweithiwr a gyflogir ganddynt rhag gweithredu’n anghyfreithiol
- fod asiant wedi gweithredu y tu allan i gwmpas eu hawdurdod (mewn geiriau eraill, eu bod wedi gwneud rhywbeth mor wahanol i’r hyn y gofynnodd y darparwr gwasanaethau iddynt ei wneud fel na ellid meddwl amdanynt bellach fel rhywun a oedd yn gweithredu ar ran y darparwr gwasanaethau).
Gall darparwr gwasanaethau leihau’r risg y byddant yn cael eu dal yn gyfrifol o dan y gyfraith am ymddygiad eu gweithwyr neu eu hasiantiaid os dywedant wrthynt sut i ymddwyn fel eu bod yn osgoi gwahaniaethu, aflonyddu neu erlid anghyfreithiol.
Mae hyn yn wir nid yn unig am sefyllfaoedd ble mae darparwr gwasanaethau a’u staff yn delio gyda chi wyneb yn wyneb, ond hefyd am y ffordd maen nhw’n cynllunio eu gwasanaethau.
Pan yw darparwr gwasanaethau yn cynllunio eu gwasanaethau, mae angen iddynt ofalu nad yw eu penderfyniadau, eu rheolau na’u ffyrdd o wneud pethau’n
- wahaniaethu uniongyrchol, neu’n
- wahaniaethu anuniongyrchol na allant ei gyfiawnhau’n wrthrychol, neu’n
- wahaniaethu sy’n deillio o anabledd na allant ei gyfiawnhau’n wrthrychol, neu’n
- aflonyddu,
a’u bod wedi gwneud addasiadau rhesymol ichi os ydych yn unigolyn anabl, y gallwch ddarllen rhagor amdanynt yma.
Gall gweithiwr neu asiant fod yn gyfrifol yn bersonol am eu gweithredoedd eu hunain o wahaniaethu, aflonyddu neu erlid a wneir yn ystod eu cyflogaeth neu tra’n gweithredu ag awdurdod eu pennaeth. Mae hyn yn berthnasol ble naill ai:
- mae’r darparwr gwasanaethau hefyd yn atebol fel eu cyflogwr neu eu pennaeth, neu
- byddai’r darparwr gwasanaethau yn gyfrifol ond maent yn dangos:
- eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i rwystro’r gweithiwr rhag gwahaniaethu yn eich erbyn, eich aflonyddu neu eich erlid, neu
- bod eu hasiant wedi gweithredu y tu allan i gwmpas eu hawdurdod.
Er enghraifft:
Heb yn wybod i’w cyflogwr, mae’r derbynnydd mewn arwerthwyr tai yn gwrthod rhoi manylion tai i’w rhentu i gleient a chanddynt gyflwr iechyd meddwl. Mae’r arwerthwr tai wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i’w staff am eu cyfrifoldebau o dan gyfraith cydraddoldeb, mae wedi darparu hyfforddiant cydraddoldeb, ac mae’n gwirio’n rheolaidd fod staff yn cydymffurfio â’r gyfraith. Mae’n debygol fod y derbynnydd wedi gweithredu’n anghyfreithiol ond y bydd gan eu cyflogwr amddiffyniad.
Ond mae eithriad i hyn. Ni fydd gweithiwr neu asiant yn gyfrifol os yw eu cyflogwr neu eu pennaeth wedi dweud wrthynt nad oes dim o’i le gyda’r hyn maent yn ei wneud ac mae’r gweithiwr neu’r asiant yn credu’n rhesymol bod hyn yn wir.
Mae’n dramgwydd troseddol, y gellir ei gosbi â dirwy, i gyflogwr neu i bennaeth wneud datganiad ffug y mae gweithiwr a gyflogir ganddynt neu eu hasiant yn dibynnu arno i gyflawni gweithred anghyfreithiol.
Ni ddylai cyflogwr neu bennaeth gyfarwyddo, achosi neu ysgogi gweithiwr a gyflogir ganddynt neu eu hasiant i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid ymgeisydd am swydd, na cheisio gwneud hynny.
Gall ‘achosi’ neu ‘ysgogi’ rhywun i wneud rhywbeth gynnwys sefyllfaoedd ble y gorfodir rhywun i wneud rhywbeth neu y’u perswadir i’w wneud, hyd yn oed os nas cyfarwyddwyd i’w wneud yn uniongyrchol.
Mae gan yr
- unigolyn sy’n derbyn y cyfarwyddyd neu a achosir neu a ysgogir i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid, a’r
- unigolyn sy’n dioddef y gwahaniaethu, yr aflonyddu neu’r erlid
ill dau hawliad yn erbyn yr unigolyn sy’n rhoi’r cyfarwyddiadau os ydynt yn dioddef colled neu niwed oherwydd y cyfarwyddo neu achosi neu ysgogi’r gwahaniaethu, yr aflonyddu neu’r erlid.
Mae hyn yn berthnasol os gweithredir y cyfarwyddyd ai peidio.
Ni ddylai unigolyn helpu rhywun arall i gyflawni gweithred y mae’r unigolyn sy’n helpu yn gwybod ei bod yn anghyfreithiol o dan gyfraith gydraddoldeb.
Sut bynnag, os dywedwyd wrth yr unigolyn sy’n helpu gan yr unigolyn y mae’n ei helpu fod y weithred yn gyfreithlon a’u bod yn credu’n rhesymol fod hyn yn wir, ni fyddant yn gyfrifol o dan y gyfraith.
Mae’n dramgwydd troseddol, y gellir ei gosbi â dirwy, i wneud datganiad ffug y mae unigolyn arall yn dibynnu arno i helpu cyflawni gweithred anghyfreithiol.
Ni all darparwr gwasanaethau atal cyfraith cydraddoldeb rhag gweithredu mewn sefyllfa os yw hi mewn gwirionedd yn gweithredu. Er enghraifft, nid oes diben i ddarparwr gwasanaethau wneud datganiad mewn contract gyda chwsmer, cleient neu ddefnyddiwr gwasanaethau nad yw cyfraith cydraddoldeb yn berthnasol. Ni fydd y datganiad yn cael unrhyw effaith gyfreithiol. Hynny yw, ni fydd yn bosibl i’r darparwr gwasanaethau orfodi neu ddibynnu ar amod mewn contract sy’n ceisio gwneud hyn. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r unigolyn arall wedi datgan eu bod wedi deall yr amod a/neu eu bod wedi cytuno ag ef.
Er enghraifft:
- Mae busnes yn rhoi contract ysgrifenedig i gleient ei lofnodi sy’n cynnwys amod yn dweud na allant gyflwyno hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r busnes yn tynnu’r gwasanaeth yn ôl o dan amgylchiadau sy’n gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithiol. Nid yw’r amod yn y contract yn atal y cleient rhag cyflwyno hawliad mewn llys.
Rhagor o wybodaeth
- Canllaw o arfer dda o ran y Ddeddf Cydraddoldeb i’w lawr lwytho
- Diffiniadau o nodweddion a ddiogelir
- Rhestr termau
- Codau ymarfer
- Bwrw golwg ar y canllaw a’r wybodaeth bresennol i ddefnyddwyr gwasanaeth
- Eich cyfrifoldebau o ran ymddygiad staff
Last Updated: 28 Hyd 2014