Beth mae’r gyfraith cydraddoldeb yn ei ddweud am ddarparu gwasanaethau
Staff, lleoedd, hysbysebion a marchnata, deunyddiau ysgrifenedig, gwefannau, gwasanaethau ffôn a chanolfannau galwadau
Pan mae unigolyn neu sefydliad yn darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau ar eich cyfer, mae’r ffordd y maen nhw’n darparu eu gwasanaethau yn bwysig.
Mae hyn yn wir os ydych yn delio â busnes, sefydliad sector cyhoeddus, mudiad sector gwirfoddol neu gymunedol, neu gymdeithas neu glwb.
Mae’n rhaid i bobl a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau, gan gynnwys nwyddau a chyfleusterau, (darparwyr gwasanaethau) ofalu eu bod yn gwneud yr hyn y mae cyfraith cydraddoldeb yn ei ddweud y mae'n rhaid iddynt ei wneud o ran:
- ymddygiad staff sy’n delio â chi fel cwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaethau, aelod o glwb, aelod cyswllt neu westai, neu sy’n gwneud y penderfyniadau am sut maen nhw’n darparu eu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd
- yr adeilad neu le arall y darperir y gwasanaethau ynddynt, os yw hwn yn agored i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd
- hysbysebion a marchnata
- deunyddiau ysgrifenedig, er enghraifft, taflenni gwybodaeth y mae’r unigolyn neu sefydliad yn eu darparu fel rhan o’u gwasanaeth
- gwefannau a gwasanaethau rhyngrwyd
- cysylltiadau ffôn a chanolfannau galwadau.
Rhagor o wybodaeth
- Canllaw o arfer dda o ran y Ddeddf Cydraddoldeb i’w lawr lwytho
- Am ragor o gyngor a chymorth
- Diffiniadau o nodweddion a ddiogelir
- Rhestr termau
- Codau ymarfer
- Bwrw golwg ar y canllaw a’r wybodaeth bresennol i ddefnyddwyr gwasanaeth
- Eich cyfrifoldebau o ran ymddygiad staff
Last Updated: 27 Hyd 2014