Trefn lywodraethol

Cymeradwywyd Fframwaith Trefn Lywodraethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan y Bwrdd ar 31 Mis Ionawr 2013, a chaiff ei adolygu’n ffurfiol yn flynyddol.

Cafodd y Fframwaith Trefn Lywodraethol ei baratoi yn unol â chanllawiau Swyddfa’r Cabinet, gan gymryd i gyfrif natur unigryw rôl y Comisiwn. Mae’n ceisio:

  • gosod allan rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd, Pwyllgorau a’r Uwch Dîm Rheoli
  • sicrhau bod Comisiynwyr, Aelodau Pwyllgor a Staff yn gweithredu yn unol ag arfer dda ac mewn ffordd sy’n sicrhau hyder y cyhoedd; ac yn hybu pum egwyddor graidd ymagwedd y Comisiwn i drefn lywodraethol dda:
    • Effeithlonrwydd - parhau i wireddu arbedion yng nghostau corfforaethol y Comisiwn fel y gallwn ganolbwyntio ar gyflenwi deilliannau gwell i’r cyhoedd.
    • Effeithiolrwydd – sicrhau cyflawniad uchel drwy ddirprwyo penderfyniadau i’r lefel mwyaf priodol yn y Comisiwn, a grymuso ein staff i wneud penderfyniadau amserol, ymatebol a gwybodus.
    • Tryloywder – cynyddu tryloywder i’n staff a’r cyhoedd am y penderfyniadau gwybodus y gwna’r Comisiwn.
    • Ymrwymiad - cymryd ymagwedd weithredol ac sydd wedi ei chynllunio i ymgysylltu â’r Senedd ac i fod yn atebol iddi a’r cyhoedd, ac i’n cyfrifoldebau o ran ein staff - yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
    • Gwelliant parhaus – datblygu gallu ein Bwrdd, Pwyllgorau ac Uwch Dîm Rheoli, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth i berfformio’n dda.

Lawr lwytho : Y Framwaith Trefn Lywodraethol (PDF)

Dogfen Fframwaith y Comisiwn

Cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddogfen fframwaith newydd sydd yn gosod allan ei berthynas â’r llywodraeth a sut mae’n gweithredu fel Corff Hyd Fraich annibynnol.

Lluniwyd y ddogfen fframwaith ar y cyd â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Fe’i datblygwyd i fod yn gyson â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2006, sy’n ymgorffori annibyniaeth weithredol y Comisiwn.

Mae’r ddogfen yn manylu ar sut mae’r Comisiwn yn gweithredu mewn meysydd megis rheolau gwariant, recriwtio ac ateb cwestiynau seneddol mewn modd sy’n sicrhau ei fod yn gallu cyflawni ei swyddogaethau statudol wrth aros yn gwbl atebol dros ei gyflawniad corfforaethol a’i ddefnydd o arian cyhoeddus.

Darllen y ddogfen fframwaith (yn Saesneg)

Darllen y ddogfen ar yr egwyddorion cyffredinol (yn Saesneg)

Darllen llythyr y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb (yn Saesneg)

Last Updated: 22 Meh 2015