Ymchwiliadau Ffurfiol

Wrth wneud defnydd grymus ac a dargedwyd o’n pwerau ni, gan gyfuno cyngor gyda chymod a, lle mae angen, cyfreithia rydym yn helpu pobl i gyflawni newid cymdeithasol a sicrhau y bod sefydliadau’n gallu ateb eu cyfrifoldebau moesol a chyfreithiol o dan ddeddfwriaeth gydraddoldeb a’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Ymchwiliad i farwolaethau annaturiol pobl â chyflyrau iechyd meddwl dan ofal y wladwriaeth:

Bydd yr ymchwiliad hwn yn edrych ar farwolaethau annaturiol pobl â chyflyrau iechyd meddwl wedi'u cadw gan y wladwriaeth mewn ysbytai seiciatrig, yn y carchar ac yn nalfa'r heddlu. Y nod yw nodi pam fod methiannau yn dal yn digwydd ac adnabod yr hyn y gellir ei wneud i helpu i atal rhagor o drasiedïau. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar dystiolaeth bresennol o'r cyfnod 2010 i 2013 ar draws y tri sector. Bydd yn ystyried pa mor dda mae sefydliadau yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i ddiogelu hawl pobl i fywyd. Bydd hefyd yn ystyried a yw ethnigrwydd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn gysylltiedig â marwolaethau annaturiol. Bydd yr ymchwiliad yn nodi materion a allai fod yn achosi i bobl golli eu bywydau ac i wneud argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Canfyddwch ragor am yr ymchwiliad.

Ymchwiliad i recriwtio a chyflogaeth yn y sector prosesu cig a dofednod

Mae tasglu a sefydlwyd gan y Comisiwn wedi helpu’r diwydiant prosesu cig a dofednod i wireddu gwelliannau nodedig yn y ffordd y caiff gweithwyr asiantaeth Prydeinig a mudol eu trin. Fe grëwyd y tasglu dwy flynedd yn ôl yn dilyn ymchwiliad eang y Comisiwn i arferion recriwtio a chyflogaeth yn y sector. Datgelodd yr ymchwiliad honiadau difrifol o gamdriniaeth a gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr asiantaeth, a menywod beichiog yn enwedig. Gwnaeth yr ymchwiliad hefyd amlygu tensiynau rhwng pobl o genedligrwydd gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd yn y sector. Yn 2012, cyhoeddodd y Comisiwn adolygiad sydd yn cynnwys set o argymhellion i daclo’r materion hyn a mwy, a bydd y Comisiwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau prosesu, darparwyr llafur, archfarchnadoedd a rheolyddion eraill i sicrhau y trinnir pob gweithiwr yn deg. Darllen am yr Ymchwiliad.

Ymchwiliad i arferion recriwtio a phenodi ar fyrddau cwmnïau

Bydd yr ymchwiliad hwn yn bwrw golwg ar arferion recriwtio a phenodi’r 350 o gwmnïau rhestredig mwyaf ar lefel bwrdd. Y nod yw nodi arferion recriwtio sy’n gwneud gwahaniaeth ac sy’n cyflenwi penodiadau sy’n deg ac yn agored ar sail teilyngdod. Caiff y casgliadau eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2015 a’u defnyddio i lunio canllaw arfer orau. Darganfyddwch ragor am yr ymchwiliad.

Ymchwil i ofal cartref pobl hŷn

Edrychodd ein hymchwil ar effeithioldeb system gofal a chymorth Lloegr wrth ddiogelu a hybu hawliau dynol pobl hŷn sydd angen neu’n cael gofal a chymorth yn eu cartrefi. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hadroddiad terfynol sydd yn datgan tystiolaeth sydd yn peri pryder bod triniaeth sâl llawer o bobl hŷn yn mynd yn groes i’w hawliau dynol a bod diffyg diogelwch gan gannoedd ar filoedd o bobl hŷn o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Canfod rhagor am yr ymchwiliad gofal cartref.

Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd

Mae ein hymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yn bwrw golwg ar lwyddiant cyrff cyhoeddus o fynd i’r afael â’r problemau. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hadroddiad terfynol sydd yn datgelu cannoedd ar filoedd o bobl anabl sy’n dioddef trais a bwlio yn rheolaidd, llawer ohono heb ei nodi gan awdurdodau cyhoeddus. Canfod am yr Ymchwiliad.

Casgliadau Ymchwiliad: Mae menywod mewn cwmnïau cyllid blaenllaw yn derbyn tua 80 y cant yn llai o ran bonwsau

Mae canlyniadau’n Hymchwiliad ar wahaniaethu ar sail rhyw yn y sector cyllid wedi’u cyhoeddi erbyn hyn, gan ddangos anghysondebau mawr mewn cyflog ar sail perfformiad rhwng cydweithwyr benywaidd a gwrywaidd. Mae’r gwahaniaeth yn ffactor bwysig y tu ôl i’r bwlch cyflog enfawr yn y sector cyllid. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion i wella cydraddoldeb ar sail rhyw yn y sector cyllid.

Cewch fanylion llawn ar yr Ymchwiliad Cyllid a darllen yr adroddiad yma.

Casgliadau Ymchwil: Mae angen i'r diwydiant adeiladu wneud mwy i ddenu gweithwyr ethnig lleiafrifol

Mae canlyniadau’n Hymchwiliad ni ar wahaniaethu hiliol yn y diwydiant adeiladu wedi’u cyhoeddi, gan ddangos arferion recriwtio sâl sy’n atal lleiafrifoedd ethnig rhag mynediad i’r diwydiant. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion i wella tegwch a chynyddu cynrychiolaeth.

Cewch fanylion llawn o’r Diwydiant Adeiladu a darllen yr adroddiad yma.

Last Updated: 23 Chwef 2015