Gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu’n eich erbyn oherwydd

  • eich bod yn heterorywiol, hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol.
  • bod rhywun yn meddwl bod cyfeiriadedd rhywiol penodol gennych. Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw hyn.
  • eich bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â chyfeiriadedd rhywiol penodol. Gwahaniaethu drwy gydgysylltiad yw hyn.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys sut rydych yn dewis mynegi’ch cyfeiriadedd rhywiol, megis drwy eich diwyg neu’r lleoedd rydych yn ymweld â nhw.


Beth yw gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol?

Pan rydych yn cael eich trin yn wahanol oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol mewn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai’r driniaeth fod yn rhywbeth unwaith-ac-am-byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon, ac fe’i heglurir isod.


Mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa gyffelyb oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol.

  • Er enghraifft, mewn cyfweliad swydd, mae menyw yn cyfeirio at ei chariad benywaidd. Mae’r cyflogwr yn penderfynu peidio â chynnig y swydd iddi, er mai hi yw’r ymgeisydd gorau y maent wedi’i gyfweld.
  • Er enghraifft, mae perchennog gwesty yn gwrthod darparu ystafell ddwbl i ddau ddyn.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo gan sefydliad bolisi penodol neu ffordd o weithio sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl o’ch cyfeiriadedd rhywiol chi o dan anfantais.

Gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos fod rheswm da am y polisi. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Aflonyddu

Mae aflonyddu yn y gweithle yn digwydd pan fo rhywun wedi’ch cywilyddio, wedi’ch tramgwyddo neu’ch diraddio.

  • Er enghraifft, cydweithwyr yn dal yn cyfarch gweithiwr gwrywaidd â fersiwn benywaidd ei enw er iddo ofyn iddynt i ddefnyddio ei enw priodol. Dywed y cydweithwyr mai cellwair yn unig yw ond mae’r gweithiwr wedi’i gynhyrfu a’i sarhau ganddo.

Ni ellir fyth cyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth a allai i atal ei weithwyr rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch ddwyn hawliad o aflonyddu yn ei erbyn, er gallech ddwyn hawliad yn erbyn yr aflonyddwr.

Y tu allan i’r gweithle, os cewch eich aflonyddu neu eich trin yn dramgwyddus oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd ichi wneud achwyniad o dan y Ddeddf Cydraddoldeb o gael eich gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Gall ddigwydd hefyd pan rydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud achwyniad o dan y Ddeddf o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.

  • Er enghraifft, mae gweithiwr hoyw yn cwyno bod ei reolwr yn erbyn ei ddymuniad wedi datgelu ei fod yn hoyw ac mae ei gyflogwr yn ei ddiswyddo.

Amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon

Gallai gwahaniaeth o ran triniaeth fod yn gyfreithiol os:

  • yw perthyn i gyfeiriadedd rhywiol penodol yn hanfodol i’r swydd. Gofyniad galwedigaethol yw hyn. Er enghraifft, mae cyflogwr am recriwtio gweithiwr cynghori sydd â phrofiad o ddatgelu’i gyfeiriadedd rhywiol ar gyfer llinell gymorth LGBT i bobl ifanc. Gall y cyflogwr nodi fod rhaid i’r ymgeiswyr fod yn lesbiaidd neu hoyw.
  • yw sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu feithrin pobl hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol i gymryd rhan mewn rôl neu weithgaredd.
  • Mae’r driniaeth gan gyflogwr neu sefydliad yn perthyn i un o’r eithriadau sy’n caniatáu i bobl gael eu trin yn wahanol ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, gall elusen ddarparu budd i lesbiaid a dynion hoyw’n unig mewn rhai amgylchiadau.
  • Mae sefydliad crefyddol neu gred yn gwahardd unigolion o gyfeiriadedd rhywiol penodol rhag ymaelodi iddo neu rhag cymryd rhan yn ei weithgareddau, neu’i ddarpariaeth o nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hyn yn berthnasol yn unig i sefydliadau sy’n arfer, hyrwyddo neu ddysgu crefydd neu gred, ac nad masnach yw eu hunig bwrpas. Mae rhaid i’r cyfyngiadau maent yn eu gosod fod yn angenrheidiol i naill ai gydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad, neu i osgoi gwrthdaro gydag ‘argyhoeddiadau crefyddol cryf eu harddeliad’ dilynwyr y grefydd.

Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi’ch trin yn annheg ac am gyngor pellach gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb the Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennwch atynt yn

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi cynhyrchu ystod o ganllawiau cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb y gallwch ddod o hyd iddynt yma.

Last Updated: 19 Hyd 2015