Beth yw’r Ddeddf Cydraddoldeb?

Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dod â dros 116 o ddarnau deddfwriaeth gwahanol at ei gilydd yn un Ddeddf sengl. Wedi’u cyfuno, maent yn gwneud Deddf newydd sydd yn darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r Ddeddf yn symleiddio, cyfnerthu ac yn cysoni’r ddeddfwriaeth gyfredol i ddarparu Prydain â chyfraith gwahaniaethu newydd sy’n diogelu unigolion rhag triniaeth annheg ac yn hybu cymdeithas decach a mwy cyfartal.

Y naw prif ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'u cyfuno yw:

  • Deddf Cyflog Cyfartal 1970
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
  • Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Crefydd neu Gred) 2003
  • Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
  • Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Oed) 2006
  • Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007

Bwrw golwg ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei chyfanrwydd ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Cynnydd

Mae elfennau pellach yn y Ddeddf na ddaeth i rym ym mis Hydref 2010, ond gallent wneud yn y dyfodol. Rydym yn aros am ddiweddariadau oddi wrth y Llywodraeth ar y datblygiadau hyn. Enghreifftiau yw:

  • Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i ddarnau cyffredin prydles ac eiddo daliadaeth ar y cyd a rhannau cyffredin yn yr Alban
  • Darpariaethau yn gysylltiedig â chymhorthion ategol yn yr ysgol
  • Pleidiau gwleidyddol yn adrodd ar amrywiaeth
  • Darpariaethau yn ymwneud â hygyrchedd tacsis
  • Gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed ym maes gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
  • Partneriaethau sifil ar eiddo crefyddol

Elfennau’r Ddeddf na fydd yn dod i rym:

  • Gwahaniaethu deublyg: penderfynodd y llywodraeth i beidio â dod â hwn i rym fel ffordd o leihau cost rheoliadau i fusnesau.
  • Anghydraddoldeb cymdeithasol economaidd o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau (a78). Dywedodd y Llywodraeth na fyddai’n gweithredu’r mesurau adrodd ar gyflog y rhywiau yn adran 78 y Ddeddf wrth weithio gyda busnes ar sut i gefnogi orau fwy o dryloywder ar sail wirfoddol. Bydd y Llywodraeth yn adolygu’r ymagwedd hon yn flynyddol, er mwyn asesu a yw’r ymagwedd hon yn llwyddiannus a bwrw golwg dros amser p’un ai a oes gofyn am ymagweddau gwahanol, gan gynnwys defnyddio ymagwedd orfodol drwy adran 78 y Ddeddf Cydraddoldeb.

Canllaw Deddf Cydraddoldeb

Rydym wedi cyhoeddi canllaw i helpu cyflogwyr, gweithwyr, darparwyr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr addysg ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb.

Canllaw ac arfer dda i gyflogwyr

Cyngor a hawliau i weithwyr

Canllaw ac arfer dda i ddarparwyr gwasanaeth

Cyngor a hawliau i ddefnyddwyr gwasanaeth

Canllaw i ddarparwyr addysg: ysgolion

Canllaw i ddarparwyr addysg: addysg bellach ac uwch

Last Updated: 16 Rhag 2014