Diogelu pobl sy’n agored i drais

Crime scene

Bob dydd, ar hyd ac ar led Prydain, mae pobl yn dioddef trais ac aflonyddu sydd wedi’u targedu am y rheswm syml o bwy ydynt. Mae pobl anabl, plant mewn gofal a phlant nad ydynt fel ei gilydd, menywod, pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, pobl drawsryweddol a llawer eraill yn destun i driniaeth ddiraddiol, aflonyddu a thrais ac efallai yn byw mewn ofn. I ddiogelu’r grwpiau bregus hyn a sicrhau bod ganddynt yr hawl i fyw yn rhydd ac yn saff rhag niwed, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y diogelwch yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei gymhwyso’n briodol ac wedi’i integreiddio i bob cam y system cyfiawnder droseddol a phob gwasanaeth cyhoeddus perthnasol arall. Mae’n rhaid ei integreiddio o’r eiliad gyntaf o ofn hyd dan y broses erlyn a thuag at atal trais sydd wedi’i dargedu.

Er enghraifft:

  • Mae 3 miliwn o fenywod ym Mhrydain yn cael eu treisio’n rhywiol, eu cam-drin adref, yn dioddef ystelcian neu drais arall bob blwyddyn, ond eto nid yw 25% o ranbarthau awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cefnogol, arbenigol yn eu hardaloedd i fenywod sy’n dioddef trais¹.
  • Roedd 19% o oedolion anabledd yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef troseddau dros y 12 mis diwethaf². Dros Brydain, awgryma hyn fod 1.9miliwn o oedolion anabl wedi dioddef troseddau y llynedd³.
  • Yn 2010, cafodd 47,229 o droseddau casineb eu hadrodd wrth yr heddlu, ac roedd 11% o’r bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol a oedd wedi adrodd am helyntion troseddol wedi dioddef bygythiadau treisiol, o’i gymharu â 4% o bobl heterorywiol4.
  • Ar ddiwedd mis Mawrth 2010, roedd 35,700 o blant a oedd yn destun cynllun diogelu plant; adroddodd cynifer â 47% o bobl ifanc yn Lloegr eu bod wedi dioddef bwlio pan oeddent yn 14 oed5.

Ond er maint ac effaith y trais a’r aflonyddu y mae llawer o bobl ledled Prydain yn eu dioddef, mae’n glir nad yw llawer o awdurdodau cyhoeddus yn gweithredu o’u herwydd:

  • Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus wedi adrodd y bod angen iddynt helpu pobl i adrodd am drais wedi’i dargedu, nid oedd bron i bumed ran ohonynt yn meddwl y dylent gymryd rhan i’w atal6.
  • Nid oedd 15% o’r 213 o awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys yr heddlu, cynghorau a landlordiaid cymdeithasol) yn sylweddoli bod ganddynt ran i’w chwarae i helpu dioddefwyr trais wedi’i dargedu7.
  • Canfu’r Comisiynydd Dioddefwyr a thystion nad oedd y gwasanaeth i ddefnyddwyr yn ddigon da mewn gwirionedd er y bwriadau da yn y mentrau a’i fod yn amrywio gan anghysondebau o ran ei gyflenwi i ddioddefwyr a thystion a’u helpu8.
  • O ran teuluoedd a oedd yn galaru oherwydd lladdiad canfu’r Comisiynydd Dioddefwyr nad oedd y cod ymarfer cyfredol i ddioddefwyr trosedd yn bodloni disgwyliadau cyfreithlon presennol teuluoedd y byddant yn cael rhywfaint o gydnabyddiaeth briodol yn y broses gyfreithiol9.
  • Canfu Cefnogaeth i Ddioddefwyr fethiant eang i fodloni gofynion y cod ymarfer, diffyg gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr, gan beri trallod a diffyg hyder yn y system gan y dioddefwyr10.

Fodd bynnag, er y bylchau hyn, nid oes yr un drefn ar gyfer diogelwch pobl bregus yn y Deyrnas Unedig y gellir ei gorfodi’n gyfreithiol. Mae’n hanfodol i lenwi’r bylchau hyn i sicrhau y bod y sawl sydd fwyaf tebygol o ddioddef trais ac aflonyddu yn ein cymdeithas yn cael y diogelwch a’r cymorth sydd ei angen arno.

Gan gydnabod pwysigrwydd y mater hwn wrth ddiogelu cydraddoldeb, hawliau dynol a pherthynas dda, mae’r Comisiwn, drwy ei ymchwiliadau a’i waith ymchwil, wedi rhoi blaenoriaeth i ddealltwriaeth a chau’r bylchau o ran diogelu grwpiau sy’n agored i niwed.

Canfod mwy:

  1. Map of Gaps 2; Coy, Kelly a Ford, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  2. Dadansoddiad heb ei gyhoeddi ar Arolwg Troseddau ym Mhrydain 2009/10, wedi’i ddarparu gan Raglen Arolygon Troseddau y Swyddfa Gartref a’i ailgynyrchu ar ganiatad.
  3. ODI, Disability prevalence estimates 2008/09. Gwelwyd 2 Awst 2011.
  4. Datganiad i'r wasg: Commission publishes research on targeted crime
  5. Public authority commitment and action to eliminate targeted harassment and violence (Adroddiad ymchwil y Comisiwn 74, tud 17)
  6. Datganiad i'r wasg: Commission publishes research on targeted crime
  7. Public authority commitment and action to eliminate targeted harassment and violence gan Neil Chakraborti (Prifysgol Caerlŷr); David Gadd (Prifysgol Keele); Paul Gray, Sam Wright & Marian Duggan (ARCS (UK) Ltd)
  8. Comisiynydd Dioddefwyr a Thystion : y berthynas dlawd, dioddefwyr yn y system cyfiawnder droseddol Gorffennaf 2010
  9. Review into the needs of families bereaved by homicide, Comisiynydd Dioddefwyr Gorffennaf 2011
  10. Victim Support : left in the dark Gorffennaf 2011

Last Updated: 23 Hyd 2014