Sylwad achos: Hurley & Ors v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau [2015] EWHC 3382 (Gweinyddiaeth)

Dyfarnodd yr Uchel Lys yn Lloegr yn ddiweddar fod cynnwys y Lwfans Gofalwr yn y cap ar fudd-daliadau yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol ac yn anghyfreithlon yn erbyn pobl anabl.

Ffeithiau

Cyfyngiad yw’r cap ar fudd-daliadau ar y cyfanswm budd-daliadau y gall unigolyn oedran gweithio ei gael. Yn sgil y cap, os yw maint y budd-daliadau y mae unigolyn yn ei gael yn fwy na’r cap, caiff ei Fudd-dal Tai neu’i Gredyd Cyffredinol ei ostwng gan y swm sydd dros y cap.

Roedd yr achos hwn yn ymwneud ag a oedd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnwys y Lwfans Gofalwr yn y cyfrifiadau ar gyfer penderfynu swm y budd-daliadau y gall unigolyn ei gael yn gwahaniaethu yn erbyn 1) y gofalwyr a 2) y bobl anabl sydd angen y gofal hwn.

Mae rhai pobl sy’n cael budd-daliadau wedi’u heithrio rhag y cap, yn enwedig pobl yn byw ar aelwydydd gyda rhywun sy’n cael y Lwfans Byw i Bobl Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Bersonol. Gallai gofalwr amser llawn i berson anabl gael y Lwfans Gofalwr. Os yw’r gofalwr yn byw ar yr un aelwyd â’r person y mae’n gofalu amdano ac mae’r person hwnnw’n gymwys i Lwfans Byw i Bobl Anabl / Taliadau Annibyniaeth Bersonol, yna ni chynhwysir y Lwfans Gofalwr wrth gyfrifo’r cap.

Fodd bynnag, mae llawer o bobl anabl yn cael eu gofalu amdanynt, yn llawn amser, gan aelodau teuluol nad ydynt yn byw gyda nhw. Yn yr amgylchiadau hyn, mae hawl gan y gofalwr i’r Lwfans Gofalwr, a chaiff ei gynnwys wrth gyfrifo’r cap. Roedd dau o’r hawlwyr yn yr achos hwn yn perthyn i’r categori hwn ac, o ganlyniad, cafodd eu Budd-daliadau Tai eu gostwng. Maent oll yn byw yn Llundain ac yn wynebu’r posibilrwydd o orfod symud i rywle lle bo’r costau rhent yn is, ond mae hyn yn golygu na fyddant mwyach yn gallu darparu gofal amser llawn. Felly, mae gan effaith y penderfyniad i beidio ag eithrio’r Lwfans Gofalwr, ar y cyfan, effaith ar ofalwyr ac ar y bobl anabl sy’n cael eu gofalu amdanynt. Yn adlewyrchu hyn, roedd trydydd hawliwr yn yr achos hwn, mam-gu un o’r hawlwyr eraill, a oedd yn wynebu’r posibilrwydd o golli’i gofalwr ac, o ganlyniad, yn gorfod symud i ofal preswyl.

Ymyriad y Comisiwn

Ymyrrodd y Comisiwn yn yr achos, gan ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol. Ffocws ein hymyriad oedd hawliau pobl anabl sydd angen y gofal hwn, fel y’i hamlinellwyd yn Erthygl 8 (bywyd preifat a theuluol) ac Erthygl 14 (dim gwahaniaethu) y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Chonfensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

O dan Erthygl 14 rhaid sicrhau pob hawl y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol heb wahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu arall, gwreiddiau cenedlaethol neu gymdeithasol, cymdeithas â lleiafrifoedd cenedlaethol, eiddo neu unrhyw statws arall.

Pobl anabl dan ofal

Dyfarnwyd fod hawliau Erthygl 8 yr hawliwr anabl wedi’u cynnwys a bod y dymuniad i fod dan ofal aelod teuluol bob amser yn debygol o berthyn i Erthygl 8.

Roedd y barnwr, Mr Ustus Collins, wedi’i foddhau hefyd fod y bobl anabl a gafodd eu heffeithio gan y penderfyniad i beidio ag eithrio’r Lwfans Gofalwr yn wynebu triniaeth wahaniaethol o fewn cwmpas Erthygl 14. Roedd hyn oherwydd eu bod ar hyn o bryd yn cael eu gofalu gan aelod teuluol, a ystyrir yn hanfodol ac a ymddiriedir ynddo/i, ac mai effaith cynnwys y Lwfans Gofalwr yn y cap ar fudd-daliadau yw na allant barhau i gael y gofal hwnnw. Mae pobl anabl eraill, sy’n wahanol ac nid ydynt yn y sefyllfa honno. Dibynnodd ar ymagwedd y Goruchaf Lys yn Mathieson v SSWP [2015], lle derbyniwyd fod Erthygl 14 yn cael ei chynnwys pan fo gwahaniaethu rhwng pobl anabl gwahanol sydd ag anghenion gwahanol.

Dyfarnwyd fod y driniaeth wahaniaethol yn anghyfreithlon oherwydd, pan gyflwynodd y Llywodraeth y cap, methodd ag ystyried yr effaith ar bobl anabl sy’n dibynnu ar y gofal hwn.

Gofalwyr

Cafodd ei dderbyn gan bob parti fod gostwng budd-daliadau gofalwyr yn cynnwys eu hawliau o dan Erthygl 1, Protocol 1 (A1P1) y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (yr hawl i fwynhau eiddo’n heddychlon), oherwydd bod yr hawl i gael budd-dal y wladwriaeth yn eiddo o fewn ystyr yr A1P1.

Penderfynodd Mr Ustus Collins nad oedd angen iddo, oherwydd ei fod yn hapus bod y gwahaniaethu, yn erbyn y bobl anabl a gafodd eu heffeithio arnynt, yn anghyfreithlon, benderfynu a ddylid ystyried y gofalwyr eu hunain yn destun gwahaniaethu. Soniodd am ei farn, fodd bynnag, fod gan y gofalwyr statws o dan Erthygl 14 oherwydd yr ymagwedd a gymerwyd yn Mathieson.

Dolen i'r dyfarniad

Last Updated: 21 Ion 2016