Cyfreitha Strategol
Mae gan y Comisiwn Gyfarwyddiaeth Gyfreithiol o gyfreithwyr a gweithwyr achos gyda phrofiad eang o gyfraith hawliau dynol a gwahaniaethu sy’n rhedeg achosion prawf ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r gwaith hwn yn cwmpasu gamwt cyfan o les cymdeithasol a materion cyfreithiol cysylltiedig megis mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, tai, trafnidiaeth, addysg, mewnfudo ac ati, ac nid cyfraith cyflogaeth yn unig.
Mae gan y Comisiwn bŵer i gymryd achosion adolygu barnwrol ar sail achosion torri’r Ddeddf Hawliau Dynol, neu mewn perthynas ag unrhyw fater mewn cysylltiad â swyddogaeth y Comisiwn - hynny yw ei fandadau cydraddoldeb, hawliau dynol a pherthynas dda. Nid oes angen i’r Comisiwn gyflawni’r gofyniad ‘dioddefwr’ er mwyn gwneud felly. Am fanylion pellach gweler ein tudalen ar bwerau cyfreithiol hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn hefyd yn ymyrryd mewn achosion hawliau dynol a chydraddoldeb y cymera eraill, yn enwedig ar lefel apeliadol (gan gynnwys yn Llys Hawliau Dynol Ewrop). Mae’r Comisiwn yn ymyrryd mewn achosion o ddiddordeb i’r cyhoedd lle y creda y gall ychwanegu gwerth i’r llys a helpu i wireddu cynnydd ym maes datblygu neu ddehongli hawliau dynol neu gyfraith cydraddoldeb.
Gwybodaeth bellach
Crynodeb o ymyriadau'r Comisiwn sydd wedi'u dyfarnu arnynt (taenlen excel)
Crynodeb o ymyriadau'r Comisiwn sy'n mynd rhagddynt (taenlen exel)
- Gweler hefyd y newyddion diweddaraf ar rai o'n achosion.
O ran materion hawliau dynol yn yr Alban, mae’r Comisiwn yn rhannu ei gylch gwaith â Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban a rhaid trafod materion a goda gyda nhw cyn gweithredu.
Mae diddordeb gan y Comisiwn i glywed gan gyfreithwyr, cynghorwyr, Sefydliadau Anllywodraethol Cenedlaethol ac eraill sy’n dwyn achosion cydraddoldeb y gallai fod o bwysigrwydd strategol. Byddwn yn asesu a wnawn gymryd rhan mewn achos neu beidio yn unol â’n polisi cyfreitha strategol. Os penderfynwn roi cymorth cyfreithiol, gallwn wneud felly drwy ddarparu cymorth cyfreithiol mewnol neu arian ar gyfer cymorth cyfreithiol allanol.
Mae diddordeb gan y Comisiwn i glywed gan gyfreithwyr, cynghorwyr, Sefydliadau Anllywodraethol Cenedlaethol ac eraill sy’n dwyn achosion y gallai’r Comisiwn ymyrryd ynddynt ac am achosion neu faterion y gallem ymgymryd â nhw. Rydym yn edrych am bolisïau neu arferion sy’n mynd yn gyffredinol groes neu’n mynd yn ddifrifol groes i gyfreithiau cydraddoldeb neu’r Ddeddf Hawliau Dynol. Yn wahanol i gyfreithwyr mewn practis preifat a Sefydliadau Anllywodraethol Cenedlaethol nid oes arnom angen i hawliwr unigol ddod atom i ddwyn achos; gall y Comisiwn ddwyn yr achos yn ei enw ei hunan. Byddwn yn asesu a fyddwn yn ymgymryd ag achos neu beidio yn unol â’n blaenoriaethau strategol cyffredinol a’n gwaith achos a strategaeth cyfreitha.
Hyd yn oed os na allwn gynorthwyo neu ymyrryd yn eich achos penodol fe wnawn ddefnyddio’r holl wybodaeth a anfonwyd atom i lywio ein blaenoriaethau yn y dyfodol ar gyfer gwaith cyfreitha a gorfodi. Felly, er enghraifft, os wnawn ni gael nifer o geisiadau o ffynonellau gwahanol ar faterion cysylltiedig a allai ein harwain i gynnal ymchwiliad i broblem arbennig mewn sector arbennig.
Rydym yn fwy tebygol o ystyried i ddwyn achosion yn ein henw ein hunain mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft:
- Pan gynigir newid yn y gyfraith (neu’n hytrach pan fo newydd ddod i rym) lle gallai her gynnar atal troseddau gwirioneddol
- Pan fo pwnc yr achos yn un ble mai’r Comisiwn yw’r sefydliad gorau i ddwyn yr achos, oherwydd ei hanes, dyletswyddau statudol neu arbenigedd arbennig
- Pan fo ystod eang o ddioddefwyr y gellir defnyddio eu profiad i ddangos problem ond pan na fyddai hawliad sydd yn cael ei ddwyn gan unrhyw un ohonynt yn dweud y story gyfan.
- Pan na fo gan y dioddefwyr gwirioneddol neu bosibl fynediad at gyfreithwyr, neu ni allant ariannu hawliad eu hunain.
Gofyn am gymorth neu ymyrraeth gan y Comisiwn
Os hoffech gysylltu â’r Comisiwn ynglŷn ag achos neu broblem yr ydych yn meddwl y gallai fod o ddiddordeb i ni, ac rydych chi’n gyfreithiwr neu mae gennych ddiddordeb proffesiynol arall yn y mater, cysylltwch â ni:
- Lloegr - [email protected]
- Yr Alban - [email protected]
- Cymru - [email protected]
Os oes unrhyw ymholiadau eraill gennych, cysylltwch â [email protected].
Nid oes proses ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad gan y Comisiwn i wrthod cymorth ariannol ar gyfer achos. Fodd bynnag, os ydych yn rhywun a fyddai wedi elwa’n uniongyrchol gan benderfyniad i roi cymorth cyfreithiol ar gyfer achos, ac rydych o’r farn ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir, gallwch ofyn i ni ymgymryd ag adolygiad. Gallwch hefyd ofyn am adolygiad os ydych wedi gwneud cwyn am rywun arall (er enghraifft, corff cyhoeddus neu fusnes) ac nid ydych yn hapus gyda’n ymateb.
Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn gymwys i benderfyniad gan y Comisiwn:
- a) i wrthod cymorth cyfreithiol o dan Adran 28 Deddf Cydraddoldeb 2006.
- b) i beidio â mynd ar ei drywydd - neu i beidio â mynd ar ei drywydd mwyach - cwyn honedig am drydydd parti yn peidio â chydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys o ran Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Caiff penderfyniad ei adolygu’n unig os:
- bod tystiolaeth neu wybodaeth newydd ac arwyddocaol (gan gynnwys datblygiadau cyfreithiol) sy’n berthnasol i’r mater ac sydd wedi dod i olau dydd ers penderfyniad y Comisiwn;
A/neu
- mewn perthynas â (b) uchod, rydych yn gallu rhoi rhesymau pam yr ydych yn ystyried bod y penderfyniad yn methu â bodloni un neu fwy o’r egwyddorion sy’n sylfaen i rôl reoleiddiol y Comisiwn: cymesuredd, atebolrwydd/tryloywder, a chysondeb.
Proses
- Mae rhaid i chi wneud cais yn ysgrifenedig, gan roi rhesymau llawn a darparu unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth newydd y gofynnir i’r Comisiwn ei ystyried.
- Yn arferol, rhaid cael y cais ar gyfer adolygiad cyn pen un mis i’r dyddiad y cafodd y penderfyniad dan sylw ei wneud.
- Bydd y Comisiwn yn cydnabod derbyn y cais ar gyfer adolygiad o fewn pum diwrnod gwaith.
- Bydd uwch gyfreithiwr yn nhîm cyfreithiol y Comisiwn, na fu’n rhan o’r mater dan sylw hyd yn hyn, yn asesu p’un ai a gafodd un neu ddau o’r meini prawf adolygu eu bodloni.
- Cyn gwneud yr asesiad hwn, gallai’r uwch gyfreithiwr yn gyntaf ysgrifennu atoch i ofyn am fwy o wybodaeth i ategu’r cais am adolygiad, neu am eglurhad o’r dystiolaeth neu’r wybodaeth newydd a ddarparwyd eisoes.
- Bydd yr uwch gyfreithiwr yn ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cafwyd y cais am adolygiad neu cyn pen 10 diwrnod o gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, p’un bynnag yw’r hwyraf.
- Os yw’r uwch gyfreithiwr yn ystyried nad yw’r amodau ar gyfer adolygiad wedi’u bodloni, cewch eich hysbysu am hyn gan yr uwch gyfreithiwr a bydd y penderfyniad yn derfynol.
- Os bydd yr uwch gyfreithiwr yn penderfynu nad yw’r amodau ar gyfer adolygiad wedi’u bodloni, bydd yn drafftio adroddiad ac argymhelliad ar gyfer cyfarfod nesaf Panel Gwneud Penderfyniadau Rheoleiddiol y Comisiwn (RDMP) a’ch hysbysu pan fydd hwnnw wedi’i gynnal, gan fynegi hefyd ddyddiad ar gyfer yr ymateb terfynol.
- Cyn pen pum diwrnod o gyfarfod y RDMP, bydd yr uwch gyfreithiwr yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysebu am benderfyniad y RDMP, y’i cofnodir yng nghofnodion y RDMP a bydd yn derfynol.
Cyfle cyfartal
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a’n nod yw gwneud y polisi adolygu hwn yn un hawdd ei ddefnyddio. Byddwn yn cymryd camau i wneud unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i’ch galluogi i gael mynediad at y broses adolygu, megis darparu gohebiaeth mewn fformatau amgenach a/neu ddarparu pa bynnag gymorth y gallech yn rhesymol ei angen.
Os byddai’n well gennych siarad â thîm cyfreithiol y Comisiwn ynglŷn ag achos neu broblem y byddai, yn eich tyb chi, o ddiddordeb i ni, ac rydych chi’n gyfreithiwr neu mae gennych ddiddordeb proffesiynol arall yn y mater, ffoniwch ein Llinell gymorth atgyfeiriadau cyfreithwyr. Y manylion cyswllt yw:
- Atgyfeiriadau cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr: 0161 829 8407 (Dydd Mawrth i ddydd Iau, 10am i 1pm)
- Atgyfeiriadau cyfreithwyr yn yr Alban: 0141 228 5951 (Dydd Llun i ddydd Gwener)
Bydd ein staff profiadol yn gallu trafod â chi p’un ai a yw eich achos yn ymwneud â mater a allai berthyn i flaenoriaethau strategol y Comisiwn. Byddant hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol neu ymyrraeth gan y Comisiwn os oes gennych achos sydd o ddiddordeb inni.
(Nodwch fodd bynnag na fyddwn yn gallu darparu cyngor cyfreithiol ar y llinell gymorth atgyfeiriadau hwn. At hynny, ni allwn drafod atgyfeiriadau posibl gan neb heblaw cynghorwyr neu gynrychiolwyr profesiynol megis cyfreithwyr neu fargyfreithwyr).
Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
Nodwch y dylai hawlwyr ac unigolion eraill a hoffai gyngor a gwybodaeth ar wahaniaethu a materion hawliau dynol gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae EASS yn derbyn galwadau gan unigolion ac yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau cynghori a sefydliadau eraill sy’n anfon atgyfeiriadau ato. Mae’n darparu gwybodaeth, cynhorthwy a chymorth (ond nid cyngor neu gynrychioliad cyfreithiol) i unigolion ledled Prydain ynglŷn â gwahaniaethu a materion hawliau dynol a’r gyfraith berthnasol.
Manylion cyswllt EASS yw:
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
Gwefan: //www.equalityadvisoryservice.com/
Post: FREEPOST Equality Advisory Support Service FPN4431
Oriau ar agor:
09:00 i 20:00 Dydd Llun i ddydd Gwener
10:00 i 14:00 Sadwrn
Ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau’r Banc
Siaradwyr gwadd
Gall y Comisiwn hefyd ddarparu siaradwyr gwadd i gynadleddau a digwyddiadau eraill o’n timau cyfreithiol i egluro am y mathau o achosion yr ydym yn edrych amdanynt ac i egluro ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Last Updated: 25 Tach 2015