Ein hymrwymiadau rhyngwladol

Cyflawni Egwyddorion Paris

Rhagair

Human Rights Report

Chwe deg o flynyddoedd yn ôl siaradodd Eleanor Roosevelt ynghylch pwysigrwydd gwneud y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn ‘ddogfen fyw, rhywbeth nad yw yn eiriau ar bapur yn unig, ond rhywbeth yr ydym mewn gwirionedd yn ymdrechu i’w ddwyn i fywydau pawb’.

Yn y Brydain sydd ohoni heddiw, dyma gyfrifoldeb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: i roi sylwedd i hawliau dynol.

Ein nod yw sicrhau bod pawb, pwy bynnag ydynt, yn cael eu trin yn weddus, gydag urddas a pharch. Gydag amrywiaeth o bwerau a roddwyd i’n gofal gan y senedd, gallwn archwilio gweithrediadau'r llywodraeth, addysgu darparwyr gwasanaeth cyhoeddus, annog cwmnïau preifat a rhoi’r grym i unigolion.

Mae’r ddogfen hon yn gosod allan y ffordd y mae’r Comisiwn wedi defnyddio’r pwerau hynny ers i ni ennill statws 'A' fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol achrededig y CU ym mis Ionawr 2009. Mae’n cynnwys llawer o lwyddiannau, a dylai galonogi pawb sy’n credu mewn pwysigrwydd hawliau dynol. Ond gwyddom mai dyma ddechreuad ein cenhadaeth yn unig.

Wrth i ni fyw trwy amgylchiadau economaidd digyffelyb, wrth i’r cynnydd mewn technoleg ofyn cwestiynau newydd am breifatrwydd a rhyddid, ac wrth i bolisi cyhoeddus sy’n datblygu ailddiffinio’r berthynas rhwng unigolyn a gwladwriaeth, mae’n dal yn hanfodol i ddiogelu a hybu gwerthoedd craidd hawliau dynol. Dyna’n union y mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i wneud. Prin yw’r gorchwylion a allai fod yn fwy pwysig neu fuddiol, a gwnawn ein gorau glas i ymgymryd ag ef gyda’r arddeliad pennaf.

Trevor Phillips
Cyn Cadeirydd
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Lawr lwytho’r adroddiad cyfan: 'Fulfilling the Paris Principles' (PDF)

Last Updated: 12 Rhag 2014