Rhestr termau
lleoliad hygyrch
Adeilad a adeiladwyd a/neu a newidiwyd i sicrhau y gall pobl, gan gynnwys pobl anabl, fynd i mewn iddo a symud o gwmpas yn rhydd a manteisio ar ei ddigwyddiadau a’i gyfleusterau.
Deddf
Deddf neu ddarn o ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi ac y cytunwyd arni gan y Goron, sydd wedyn yn dod yn rhan o gyfraith statudol (hy mae’n cael ei deddfu)
gweithredu cadarnhaol
Camau cadarnhaol a gymerir i gynyddu cyfranogiad gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y gweithle. Gallai gynnwys ymadroddion fel gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol. Nid yw’r ymadrodd, sy’n deillio o Unol Daleithiau America, yn cael ei ddefnyddio yn y Ddeddf Cydraddoldeb.
oedran
Mae hyn yn cyfeirio at berson yn perthyn i grŵp oed arbennig, a allai olygu pobl o’r un oed (e.e. rhai 32 oed) neu ystod o oedrannau (e.e. rhai 18-30 oed, ‘pobl ganol oed’ neu bobl dros 50).
asiant
Person sydd ag awdurdod i weithredu ar ran un arall (‘y pennaeth’) ond nad yw’n gyflogai nac yn weithiwr a gyflogir gan y cyflogwr.
fformat amgen
Fformatau cyfryngau sy’n hygyrch i bobl anabl gyda namau penodol, er enghraifft Braille, disgrifiad sain, is-deitlau a Darllen Hawdd.
lluoedd arfog
Mae hyn yn cyfeirio at bobl o fewn y gwasanaeth milwrol.
cysylltiedig â
Defnyddir hyn mewn sefyllfa lle nad y rheswm y mae ymgeisydd am swydd neu weithiwr yn un y gwahaniaethir yn ei erbyn yw oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig yn arbennig, ond oherwydd ei fod yn ‘gysylltiedig â’ pherson arall sydd â’r nodwedd warchodedig honno ei hun, e.e y person arall yw ei ffrind neu berthynas. Er enghraifft, mae cyflogwr yn penderfynu peidio â recriwtio gweithiwr nad yw’n anabl oherwydd mae ganddynt blentyn anabl. Cyfeirir at hyn weithiau fel gwahaniaethau ‘drwy gysylltiad’.
cysylltiad, drwy
Fel yn ‘gwahaniaethu drwy gysylltiad’. Gweler cysylltiedig â.
cymorth cynorthwyol
Darn arbennig o offer fel arfer i wella hygyrchedd.
gwasanaeth cynorthwyol
Gwasanaeth i wella mynediad at rywbeth sy’n aml yn cynnwys darparu cynorthwyydd
rhwystrau
Yn y canllaw hwn, mae’r gair hwn yn cyfeirio at rwystrau a ddaw i atal cydraddoldeb i weithwyr anabl, a gweithwyr eraill yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd eu nodweddion gwarchodedig. Oni bai y nodir yn benodol, nid yw ‘rhwystrau’ yn golygu rhwystrau corfforol yn unig. I gael mwy am rwystrau mewn perthynas â gweithwyr anabl, gweler y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.
Mesur
Deddf ddrafft, nad yw wedi ei phasio gan y Senedd.
bwydo o’r fron
Pan mae menyw yn bwydo ei baban â llaeth o’r fron. Caiff bwydo o’r fron ei warchod yn benodol am y 26 wythnos gyntaf ar ôl geni gan y darpariaethau beichiogrwydd a mamolaeth o ran achosion heb fod yn rhai gwaith.
baich y profi
Mae hyn yn cyfeirio at ai mater i’r gweithiwr, mewn Tribiwnlys Cyflogaeth, yw profi bod gwahaniaethu wedi digwydd neu ai mater i’r cyflogwr ei wrthbrofi. A siarad yn fras, rhaid i weithiwr brofi ffeithiau sydd, os nad ydynt wedi’u hegluro, yn arwydd o wahaniaethu. Mae baich y profi yn symud wedyn at y cyflogwr i brofi na fu unrhyw wahaniaethu. Os na all y cyflogwr brofi wedyn y bu unrhyw wahaniaethu, bydd y gweithiwr yn ennill ei achos.
elusen
Corff (corfforaethol neu ddim) sydd i bwrpas elusennol statudol ac sy’n darparu budd i’r cyhoedd.
Cod Ymarfer
Dogfen ganllaw statudol y mae’n rhaid ei chymryd i ystyriaeth gan lysoedd a thribiwnlysoedd wrth gymhwyso’r gyfraith ac a all gynorthwyo pobl i ddeall a chydymffurfio gyda’r gyfraith.
cymharydd
Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan mae cyflogwr yn trin ymgeisydd am swydd neu weithiwr yn llai ffafriol nag y mae’n trin neu y byddai’n trin gweithiwr arall mewn amgylchiadau tebyg oherwydd nodwedd warchodedig. Gelwir y gweithiwr y mae’r ymgeisydd am swydd neu’r gweithiwr yn cymharu eu triniaeth ag ef yn ‘gymharydd’. Weithiau nid oes cymharydd, ond gallai’r gweithiwr ddal i honni y byddai gweithiwr arall heb ei nodwedd warchodedig, wedi cael ei drin yn well gan y cyflogwr. Mae hyn yn gymharydd ‘damcaniaethol’.
gweithiwr contract
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae gan hyn ystyr arbennig. Mae’n golygu person a anfonir gan ei gyflogwr i wneud gwaith i rywun arall (y ‘pennaeth’) o dan gontract rhwng y cyflogwr a’r pennaeth. Er enghraifft, gallai person a gyflogir gan asiantaeth i weithio i rywun arall (‘defnyddiwr yn y pen draw’) neu berson a gyflogir gan gwmni wedi’i breifateiddio i weithio ar wasanaethau wedi’u contractio allan i awdurdod cyhoeddus, fod yn weithiwr contract. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn anghyfreithlon i’r pennaeth wahaniaethu yn erbyn y gweithiwr contract.
diogelu data
Gwneir darpariaeth ar gyfer rhagofalon ynghylch data personol mewn statud, Deddf Diogelu Data 1998 yn bennaf.
gwahaniaethu uniongyrchol
Trin person yn llai ffafriol o’i gymharu â pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig. Gallai hon fod eu nodwedd warchodedig efei hun, neu nodwedd warchodedig rhywun arall, e.e rhywun y maent yn gysylltiedig ag ef. Mae trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd bod y cyflogwr yn tybio’n anghywir bod ganddynt nodwedd warchodedig yn wahaniaethu uniongyrchol hefyd.
anabledd
Mae gan berson anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a thymor hir ar allu’r person hwnnw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
person anabl
Rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a thymor hir ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
anfantais
Niwed neu nam – rhywbeth y gallai’r unigolyn yr effeithir arno ystyried yn rhesymol sy’n newid ei sefyllfa er gwaeth.
gwahaniaethu yn deillio o anabledd
Pan mae person yn cael ei drin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n codi o ganlyniad i’w anabledd, e.e. mae cyflogwr yn diswyddo gweithiwr oherwydd hyd yr
amser y mae wedi bod ar absenoldeb salwch. Y rheswm y mae’r gweithiwr wedi bod i ffwrdd yn sâl yw oherwydd ei anabledd. Os gellir cyfiawnhau yn wrthrychol trin person yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n codi o’i anabledd, yna ni fydd y driniaeth yn anghyfreithlon. Mae’n annhebygol o fod yn rhywbeth y gellir ei gyfiawnhau os nad yw’r cyflogwr yn gyntaf wedi gwneud unrhyw addasiadau rhesymol.
anghymesur o isel
Mae hyn yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle mae pobl sydd â nodwedd warchodedig yn cael eu tangynrychioli o’i gymharu â’u niferoedd yn y boblogaeth neu yn y gweithle perthnasol.
amrywiaeth
Tueddir i ddefnyddio hyn i gyfeirio at grŵp o bobl gyda llawer o fathau gwahanol o nodweddion gwarchodedig, e.e. pobl o bob oed, crefydd, cefndir ethnig ac ati.
dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
Mae’r ddyletswydd hon yn codi lle mae
-
nodwedd ffisegol o’r gweithle neu
-
ddarpariaeth, maen prawf, neu arfer a gymhwysir gan gyflogwr
yn rhoi gweithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd o dan anfantais sylweddol o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Mae hefyd yn berthnasol lle byddai gweithiwr neu ymgeisydd am swydd yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol pe na bai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu. Mae gan y cyflogwr ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i osgoi’r anfantais honno drwy (i) newid darpariaethau, meini prawf neu arferion, (ii) newid, dileu neu ddarparu dull arall rhesymol o osgoi nodweddion ffisegol, a (iii) darparu cymhorthion ychwanegol. Mewn llawer o sefyllfaoedd, rhaid i gyflogwr drin y gweithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd yn fwy ffafriol nag eraill fel rhan o’r addasiad rhesymol. Cyflwynir mwy o fanylion am y gyfraith ac enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn isadran 3 y canllaw hwn.
sefydliadau addysgol
Ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch.
cyflogai
Yn y canllaw hwn, defnyddir y gair ‘cyflogai i gyfeirio at y diffiniad yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn unig, h.y. person sy’n gweithio o dan gontract cyflogaeth. Mae’r diffiniad hwn yn weddol gyfyngedig. Dim ond cyflogeion yn yr ystyr hwn sydd â rhai hawliau, e.e. i gael datganiad ysgrifenedig o fanylion cyflogaeth; i ddefnyddio’r weithdrefn ffurfiol i ofyn am weithio hyblyg; ac i hawlio diswyddiad annheg.
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn defnyddio’r gair ‘cyflogai yn fwy eang, i gynnwys person sy’n gweithio ar gontract cyflogaeth neu gontract prentisiaeth neu gontract yn bersonol i wneud gwaith; neu berson sy’n cyflawni gwaith i’r Goron neu i aelod perthnasol o staff Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi. I osgoi dryswch gyda’r diffiniad culach o ‘gyflogai’ sy’n berthnasol o dan y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth, mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at rywun yn y dosbarth ehangach hwn o weithwyr yr ymdrinnir â nhw gan gyfraith cydraddoldeb fel ‘gweithiwr’. Gweler gweithiwr.
cyflogwr
Person sy’n sicrhau bod gwaith ar gael o dan gontract cyflogaeth, contract gwasanaeth, contract prentisiaeth, y Goron neu aelod perthnasol o staff Tŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi.
darparwr gwasanaeth cyflogaeth
Person sy’n darparu hyfforddiant a chanllawiau galwedigaethol a gwasanaethau gyrfaoedd ac a allai gyflenwi gweithwyr i gyflogwyr.
gwasanaethau cyflogaeth
Hyfforddiant a chanllawiau galwedigaethol, canfod gwaith i bobl, cyflenwi gweithwyr i gyflogwyr.
Tribiwnlys Cyflogaeth
Gwrandawir ar achosion o wahaniaethu mewn sefyllfaoedd gwaith (yn ogystal â diswyddo annheg a’r rhan fwyaf o hawliau cyfraith cyflogaeth) gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth. Caiff Gwrandawiad llawn ei drin fel arfer gan banel gyda thri pherson arno – Barnwr a dau aelod heb fod o’r maes cyfreithiol.
archwiliad cyflog cyfartal
Ymarferiad i gymharu cyflog merched a dynion sy’n gwneud gwaith cyfartal mewn sefydliad, ac ymchwilio i achosion unrhyw fylchau a nodir mewn cyflog; sy’n cael ei alw hefyd yn ‘adolygiad cyflog cyfartal’. Mae’r darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflog cyfartal yn cyfeirio at gydraddoldeb rhyw ond gellid cymhwyso archwiliad cyflog cyfartal at nodweddion eraill a warchodir i helpu cyflogwr i sicrhau bod eu busnes yn cydymffurfio o ran cydraddoldeb.
gwaith cyfartal
Mae gwaith merch yn gyfartal i waith dyn yn yr un gwaith (ac i’r gwrthwyneb) os yw yr un fath neu yn debyg yn fras; os yw’n cael ei ddisgrifio fel gwaith cyfatebol i’w waith ef o dan gynllun gwerthuso swyddi neu os gallai hi ddangos bod ei gwaith hi o werth cyfartal i’w waith ef yn nhermau’r gofynion a wneir arni hi.
cymal cydraddoldeb
Caiff cymal cydraddoldeb rhyw ei gynnwys o fewn contract cyflogaeth person fel lle ceir amod sy’n llai ffafriol na’r un a fwynheir gan rywun o’r rhyw arall sy’n gwneud gwaith cyfartal, bydd yr amod honno yn cael ei diwygio i ddarparu amodau cyfartal.
polisi cydraddoldeb
Datganiad o ymrwymiad sefydliad i’r egwyddor o gyfle cyfartal yn y gweithle.
hyfforddiant cydraddoldeb
Hyfforddiant ynghylch cyfraith cydraddoldeb ac arferion effeithiol o ran cydraddoldeb.
TC
Talfyriad am Tribiwnlys Cyflogaeth.
eithriadau
Lle, mewn amgylchiadau a nodir, nad yw un o ddarpariaethau’r Ddeddf yn berthnasol.
gweithio hyblyg
Patrymau gwaith amgen, fel gweithio oriau gwahanol neu gartref, gan gynnwys i ymdrin ag anabledd neu ymrwymiadau gofal plant. Gweler hefyd Hawl i ofyn am weithio hyblyg
ailbennu rhywedd
Y broses o newid o un rhyw i un arall. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn person sy’n bwriadu mynd drwy, neu sy’n mynd drwy neu wedi mynd drwy broses, neu ran o broses, er mwyn ailbennu ei rywedd. Gweler hefyd person trawsrywiol.
tystysgrif adnabod rhyw
Tystysgrif a gyhoeddir o dan y Ddeddf Adnabod Rhywedd i berson trawsrywiol sydd wedi, neu sydd wedi cael
dysfforia rhyw, sydd wedi byw yn y rhyw a gafaelwyd trwy gydoly ddwy flynedd flaenorol, ac sy’n bwriadu parhau i fyw
yn y rhyw a gafaelwyd hyd ei farwolaeth.
cynllun cyfweliad gwarantiedig
Mae hwn yn gynllun i bobl anabl sy’n golygu y bydd ymgeisydd yn cael ei wahodd i gyfweliad os yw’n bodloni’r gofynion hanfodol a nodwyd ar gyfer y swydd.
aflonyddu
Ymddwyn tuag at rywun arall mewn modd sy’n amharu ar ei urddas, neu yn creu amgylchedd diraddiol, gwaradwyddus, gelyniaethus, brawychus neu dramgwyddus iddo.
aflonyddwch
Ymddygiad digroeso sy’n amharu ar urddas rhywun neu yn creu amgylchedd diraddiol, gwaradwyddus, gelyniaethus, brawychus neu dramgwyddus iddo. Gweler hefyd aflonyddu rhywiol
nam
Cyfyngiad gweithredol a allai arwain at ddiffinio person fel rhywun anabl yn ôl y diffiniad o dan y Ddeddf. Gweler hefyd anabledd.
gwahaniaethu anuniongyrchol
Lle byddai cyflogwr yn cymhwyso (neu y byddai yn cymhwyso) arfer, darpariaeth neu faen prawf a allai fod yn niwtral sy’n rhoi pobl gyda nodwedd warchodedig arbennig o dan anfantais o’i gymau ag eraill nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno, oni bai y gall y cyflogwr gyfiawnhau cymhwyso’r arfer, darpariaeth neu faen prawf yn wrthrychol.
cyfarwyddyd i wahaniaethu
Pan mae rhywun sydd mewn sefyllfa i wneud hynny yn gofyn i rywun arall wahaniaethu yn erbyn trydydd parti. Er enghraifft, pe bai Meddyg Teulu yn gofyn i’r derbynnydd beidio â chofrestru rhywun y gallai fod angen cymorth cyfieithydd arno, bydd hyn yn gyfystyr â chyfarwyddyd i wahaniaethu.
cynllun gwerthuso swydd
Gweler astudiaeth gwerthuso swydd
astudiaeth gwerthuso swydd
Astudiaeth yw hon a wneir i asesu gwerth cymharol gwahanol swydd o fewn sefydliad, gan ddefnyddio ffactorau fel ymdrech, sgil a llunio penderfyniadau. Gall hyn sefydlu a yw’r gwaith a wneir gan wraig a dyn yn gyfartal, i ddibenion cyflog cyfartal. Gweler hefyd gwaith cyfartal.
adolygiad barnwrol
Gweithdrefn lle mae’r Uchel Lys yn arolygu’r modd y mae grym awdurdod cyhoeddus yn cael ei ymarfer i sicrhau ei fod yn parhau o fewn ffiniau’r hyn sy’n gyfreithiol.
llai ffafriol
Gwaeth - felly mae ‘triniaeth lai ffafriol’ yn golygu’r un fath â ‘thriniaeth waeth’.
atebolrwydd
Cyfrifoldeb cyfreithiol. Mae cyflogwr yn gyfrifol yn gyfreithlon am wahaniaethu a gyflawnir gan weithwyr a gyflogir gennych chi neu gan eich asiantau, oni bai eich bod wedi cymryd pob cam ataliol rhesymol
gwaith tebyg
Gweler gwaith cyfartal.
priodas a phartneriaeth sifil
Diffinnir priodas fel ‘uniad rhwng dyn a dynes’. Gall cyplau o’r un rhyw gael eu perthnasau wedi’u cydnabod yn gyfreithlon fel ‘partneriaethau sifil’. Ni ddylid trin partneriaid sifil yn llai ffafriol na chyplau priod.
mamolaeth
Gweler beichiogrwydd a mamolaeth.
absenoldeb mamolaeth
Absenoldeb y gallai dynes ei gymryd pan mae hi’n feichiog ac ar ôl geni ei phlentyn. Rhennir absenoldeb mamolaeth statudol yn absenoldeb mamolaeth gorfodol, cyffredin ac ychwanegol. Bydd faint o absenoldeb y mae gan ddynes hawl iddo, a faint ohono sy’n cael ei dalu, yn amrywio, ond mae gan bob gwraig sy’n gyflogai hawl i 52 wythnos.
monitro
Monitro am ddata cydraddoldeb i wirio a yw pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cymryd rhan ac yn cael eu trin yn gyfartal. Er enghraifft, monitro sut mae merched, neu bobl anabl yn cael eu cynrychioli yn y gweithlu neu ar lefelau uwch o fewn sefydliadau.
ffurflen fonitro
Ffurflen y mae sefydliadau yn ei defnyddio i gasglu data monitro cydraddoldeb – er enghraifft oddi wrth ymgeiswyr am swydd neu ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae’n cofnodi gwybodaeth am ryw, oed, anabledd, hil, crefydd neu duedd rywiol person. Fe’i cedwir ar wahân oddi wrth unrhyw wybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl i adnabod y person.
mwy ffafriol
Trin rhywun yn well na rhywun arall. Mae hyn yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf os yw oherwydd nodwedd warchodedig ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn. Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr wneud addasiadau rhesymol i berson anabl i ddileu unrhyw anfantais a achosir gan ei anabledd, ac mae hyn yn aml yn ei gwneud yn ofynnol iddynt eu trin yn fwy ffafriol. Gall cyflogwr hefyd ddewis trin gweithiwr anabl yn fwy ffafriol mewn ffyrdd eraill, e.e. drwy eu rhoi ar restr fer yn awtomatig am swydd, hyd yn oed os nad ydynt o dan anfantais arbennig ar yr achlysur perthnasol. Gall y ddeddf ei gwneud yn ofynnol i weithwyr beichiog hefyd gael eu trin yn fwy ffafriol mewn rhai amgylchiadau.
diogelwch cenedlaethol
Diogelwch y genedl a’i gwarchodaeth rhag bygythiadau allanol a mewnol, yn arbennig rhag gweithgareddau fel terfysgaeth a bygythiadau gan genhedloedd eraill.
oed ymddeol arferol
Dyma’r oed ymddeol y byddai disgwyl i weithwyr mewn swydd a gweithle arbennig ymddeol fel arfer. Gall oed ymddeol arferol fod yn wahanol i’r oed ymddeol cytundebol. Os yw o dan 65, rhaid ei gyfiawnhau yn wrthrychol.
cyfiawnhad gwrthrychol
Gweler cyfiawnhawyd yn wrthrychol.
cyfiawnhawyd yn wrthrychol
Mae’r ymadrodd hwn yn ffordd law-fer o gyfeirio at y prawf cyfreithiol o gyfiawnhad gwrthrychol, h.y. fod yn rhaid i driniaeth y cyflogwr o’r gweithiwr fod yn ddull cymesur o gyflawni nod cyfreithiol. Mae’r Ddeddf yn defnyddio’r prawf hwn mewn nifer o sefyllfaoedd. Er enghraifft, unwaith y mae gweithiwr wedi profi bod y cyflogwr wedi’i drin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n codi o’i anabledd, neu fod y cyflogwr wedi gwahaniaethu yn anuniongyrchol yn ei erbyn neu fod y cyflogwr wedi gwahaniaethu yn uniongyrchol yn ei erbyn oherwydd oedran, gallai’r cyflogwr amddiffyn yr hawl drwy brofi bod ei driniaeth (i) er mwyn cyflawni nod cyfreithlon, a (ii) yn gymesur, h.y. yn briodol ac yn angenrheidiol. Os oes ffordd llai gwahaniaethol o gyflawni’r un nod, dylid ei mabwysiadu. Gweler hefyd cymesur.
iechyd galwedigaethol
Nid oes gan iechyd galwedigaethol unrhyw ystyr cyfreithlon yng nghyd-destun y Ddeddf Cydraddoldeb, ond gellir ei ddefnyddio i gyfeirio at y gwaith parhaus o gynnal a hyrwyddo lles ffisegol, meddyliol a chymdeithasol i bob gweithiwr. Defnyddir yr ymadrodd yn aml fel ffordd law-fer o gyfeirio at wasanaethau iechyd galwedigaethol a ddarperir gan y cyflogwr.
ymarferydd iechyd galwedigaethol
Swyddog iechyd proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
gwasanaeth iechyd
Mae hyn fel arfer yn cyfeirio at feddygon neu nyrsys a galwedigaethol gyflogir yn fewnol gan gyflogwr neu drwy ddarparwr allanol y gallai’r cyflogwr ofyn iddynt weld gweithwyr a rhoi cyngor meddygol am eu hiechyd pan mae problemau’n codi yn y gweithle.
pensiwn galwedigaethol
Pensiwn y gall gweithiwr ei dderbyn ar ôl ymddeol fel budd cytundebol.
gofyniad galwedigaethol
Gall cyflogwr wahaniaethu yn erbyn gweithiwr mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn lle mae’n ‘ofyniad galwedigaethol’ bod â nodwedd warchodedig arbennig a bod cymhwyso’r gofyniad yn un y gellir ei gyfiawnhau yn wrthrychol. Mae dau eithriad arbennig ynghylch gofyniad galwedigaethol lle mae cyflogaeth i bwrpas crefydd gyfundrefnol neu mae gan y cyflogwr ethos yn seiliedig ar grefydd neu gred, ond mae angen cyflawni gofynion penodol iawn.
deiliaid swyddi
Ceir swyddi personol a chyhoeddus. Swydd bersonol yw swydd daledig y penodir person yn bersonol iddi o dan gyfarwyddyd rhywun arall. Penodir person i swydd gyhoeddus gan aelod o’r llywodraeth, neu argymhellir y penodiad ganddyn nhw, neu gellir gwneud y penodiad ar argymhelliad neu gyda chymeradwyaeth Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, Senedd yr Alban neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
palandeipydd
Gelwir hwn hefyd yn ‘Ohebydd Lleferydd i Destun’ Mae palandeipydd yn atgynhyrchu lleferydd i fformat testun ar sgrin gyfrifiadurol ar gyflymder siarad i bobl fyddar neu drwm eu clyw ei ddarllen.
anabledd yn y gorffennol
Person sydd wedi bod ag anabledd fel y diffinnir hynny gan y Ddeddf Cydraddoldeb.
canfyddiad
Mae hyn yn cyfeirio at gred bod gan rywun nodwedd warchodedig, p’un ai a oes ganddynt un ai peidio. Mae gwahaniaethu ar sail nodwedd warchodedig dybiedig yn anghyfreithlon. Ni chyfeirir yn benodol at y syniad o wahaniaethu ar sail canfyddiad yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ond mae’n cael ei gynnwys oherwydd y modd y mae’r diffiniad o wahaniaethu uniongyrchol wedi’i eirio.
rhwystrau ffisegol
Nodwedd ffisegol adeilad neu eiddo sy’n rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o’i gymhau â phobl nad ydynt yn anabl wrth gyrchu at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu waith. Gweler hefyd nodweddion ffisegol.
nodweddion ffisegol
Unrhyw beth sy’n ffurfio rhan o ddyluniad neu adeiladwaith lle gwaith, gan gynnwys unrhyw ddarnau gosod, fel drysau, grisiau ac ati. Nid yw nodweddion ffisegol yn cynnwys dodrefn, eitemau dodrefnu, deunyddiau, offer neu eiddo arall o fewn neu ar yr eiddo.
gweithredu cadarnhaol
Os yw cyflogwr yn meddwl yn rhesymol bod pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig arbennig yn dioddef anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno neu fod ganddynt anghenion gwahanol, neu os yw eu cyfranogiad mewn gwaith neu weithgaredd arall yn anghymesur o isel, gall cyflogwr gymryd unrhyw gamau (a fyddai fel arall yn wahaniaethu yn erbyn pobl eraill) sy’n ddull cymesur o alluogi neu o annog y bobl hynny i oresgyn eu hanfantais neu sicrhau ei fod cyn lleied â phosibl neu o gymryd rhan mewn gwaith neu weithgareddau eraill neu o fodloni eu hanghenion. Er enghraifft, gallai cyflogwr ddarparu cyrsiau hyfforddi yn arbennig i weithwyr gyda nodwedd warchodedig arbennig. Ni chaniateir i gyflogwr roi ffafriaeth i weithiwr wrth recriwtio neu ddyrchafu oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig.
gwahaniaethu cadarnhaol
Trin rhywun gyda nodwedd warchodedig yn fwy ffafriol i wrthweithio effeithiau gwahaniaethu yn y gorffennol. Yn gyffredinol nid yw hyn yn gyfreithiol, er y caniateir trin gweithwyr yn fwy ffafriol oherwydd eu hanabledd os yw’r cyflogwr yn dymuno hynny. Ymhellach, gallai’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr drin gweithiwr yn fwy ffafriol os oes angen hynny i osgoi anfantais.
ymholiadau cyn cyflogi am anabledd ac iechyd
Yn gyffredinol,ni ddylai cyflogwr ofyn am anableddau nac am iechyd ymgeisydd am swydd cyn iddynt gael cynnig y swydd. Os yw’r cyflogwr yn gofyn cwestiynau o’r fath ac yna yn methu â chynnig y swydd i’r ymgeisydd, bydd y ffaith fod y cyflogwr wedi gwneud ymholiadau o’r fath yn symud baich y prawf os yw’r ymgeisydd yn dod â hawl am wahaniaethu ar sail anabledd. Gallai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyflogwr os gwneir ymholiadau o’r fath yn anghywir. Cyflwynir mwy o fanylion yn y canllaw, ‘Yr hyn mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu i chi fel cyflogwr: pan ydych yn recriwtio rhywun i weithio i chi’.
ymholiadau am anabledd cyn cyflogi
Gweler ymholiadau am iechyd cyn cyflogi
beichiogrwydd a mamolaeth
Beichiogrwydd yw’r cyflwr o fod yn feichiog neu yn disgwyl babi. Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod ar ôl y geni, ac mae’n gysylltiedig ag absenoldeb mamolaeth yn y cyd-destun cyflogaeth lle mae gwarchodaethau arbennig yn berthnasol.
pennaeth
Yng nghyd-destun gweithiwr contract, mae hwn yn rhywun sy’n sicrhau bod gwaith ar gael i weithiwr a gyflogir gan rywun arall ac a gyflenwir gan y cyflogwr hwnnw o dan gontract rhwng y cyflogwr a’r pennaeth. Gweler gweithiwr contract
caffaeliad
Y gair a ddefnyddir mewn perthynas â’r ystod o nwyddau a gwasanaethau y mae corff neu awdurdod cyhoeddus yn eu comisiynu a’u dosbarthu. Mae’n cynnwys dod o hyd i a phenodi darparwr gwasanaethau a rheoli’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir yn dilyn hynny.
cymesur
Mae hyn yn cyfeirio at fesurau neu gamau sy’n briodol ac yn angenrheidiol. Bydd a yw rhywbeth yn gymesur o dan yr amgylchiadau yn gwestiwn o ffaith a bydd yn cynnwys pwyso effaith wahaniaethol y weithred yn erbyn y rhesymau amdani, a gofyn a oes unrhyw ffordd arall o gyflawni’r nod.
nodweddion gwarchodedig
Dyma’r rhesymau pam fod gwahaniaethu yn anghyfreithlon. Y nodweddion yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
cyfnod gwarchodedig
Mae hyn yn cyfeirio at yr amser mewn cyd-destun gwaith pan mae’r gwaharddiad penodol yn erbyn trinaieth anffafriol ar famau sy’n disgwyl a mamau newydd yn berthnasol. Mae’r cyfnod yn dechrau ar ddechrau beichiogrwydd gwraig ac yn parhau tan ddiwedd ei habsenoldeb mamolaeth.
darpariaeth, maen prawf neu ymarfer
Mae nodi darpariaeth, maen prawf neu arfer yn allweddol i sefydlu gwahaniaethu anuniongyrchol. Gall gynnwys, er enghraifft, unrhyw bolisïau ffurfiol neu anffurfiol, penderfyniadau, rheolau, arferion, trefniadau, meini prawf, amodau, rhagofynion neu gymwysterau.
awdurdod cyhoeddus
I ddibenion y Canllaw hwn mae ‘awdurdod cyhoeddus’ yn golygu: adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, llysoedd a thribiwnlysoedd, awdurdodau iechyd ac ysbytai, ysgolion, carchardai a’r heddlu.
Nodwch mai dim ond yr awdurdodau cyhoeddus hynny a restrir yn Atodlen19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ddarostyngedig iddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
cyrff cyhoeddus
At ddibenion y Canllaw hwn mae ‘cyrff cyhoeddus’ yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus (fel yr uchod) yn ogystal â sefydliadau sydd â rôl ym mhrosesau llywodraethau cenedlaethol ond nad ydynt yn adran o’r llywodraeth nac yn rhan o un. Maent yn gweithredu i raddau mwy neu lai hyd braich oddi wrth Weinidogion – corff o fewn adran o’r llywodraeth neu arolygiaeth. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
swyddogaethau cyhoeddus
‘Swyddogaeth gyhoeddus’ at ddibenion y Canllaw hwn yw unrhyw weithred neu weithgareddau o natur gyhoeddus a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus neu gorff cyhoeddus neu gan y sectorau preifat neu wirfoddol nas ymdrinnir â nhw yn barod gan adrannau eraill y Ddeddf sy’n ymdrin â gwasanaethau, tai, addysg a chyflogaeth. Yn benodol, mewn perthynas â’r sectorau preifat a gwirfoddol, mae’n unrhyw weithred neu weithgareddau a gyflawnir ar ran y wladwriaeth.
Mae enghreifftiau o swyddogaethau cyhoeddus yn cynnwys: penderfynu ar fframweithiau ar gyfer hawl i fudd-daliadau neu wasanaethau; gorfodi’r ddeddf; derbyn rhywun i’r carchar neu gyfleuster i gadw mewnfudwyr; rheoli cynllunio; trwyddedu; rheolaethau parcio; safonau masnach; iechyd yr amgylchedd; swyddogaethau rheoleiddiol; ymchwilio i gwynion; amddiffyn plant. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Unrhyw weithred neu weithgaredd a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â chyflenwi gwasanaeth cyhoeddus neu gyflawni dyletswyddau o natur gyhoeddus e.e. darparu plismona a gwasanaethau carchar, gan gynnwys llunio polisi’r llywodraeth neu wasanaethau cynllunio awdurdodau lleol.
dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Y ddyletswydd ar awdurdod cyhoeddus wrth gyflawni ei swyddogaethau i roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddwch, meithrin perthnasau da a hybu cyfle cyfartal.
cyrff cymwysterau
Awdurdod neu gorff a allai gyflwyno cymwysterau.
holiadur
Gweler gweithdrefn cwestiynau.
gweithdrefn cwestiynau
Gweithdrefn yn ymwneud â deddf gwahaniaethu lle’r anfonir cwestiynau at yr ymatebydd cyn gweithredu, h.y. y person neu’r sefydliad y gellir gwneud hawl am wahaniaethu yn ei erbyn. Rhoddir y cwestiynau fel arfer ar ffurf ysgrifenedig safonol a elwir yn aml yn ‘holiadur’.
hil
Mae’n cyfeirio at nodwedd warchodedig hil. Mae’n cyfeirio at grŵp o bobl a ddiffinnir yn ôl eu lliw, cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) tarddiadau ethnig neu genedlaethol.
a ddisgrifir fel cyfwerth
Cysyniad yn ymwneud â chyflog cyfartal – gweler gwaith cyfartal.
addasiad rhesymol
Gweler y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
rheoliadau
Deddfwriaeth eilaidd a lunnir o dan Ddeddf Seneddol (neu ddeddfwriaeth Ewropeaidd) sy’n cyflwyno materion atodol sy’n cynorthwyo i weithredu’r Ddeddf.
crefydd neu gred
Ystyr crefydd yw’r ystyr a roddir iddi fel arfer ond mae cred yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol gan gynnwys diffyg cred (e.e. anffyddiaeth). Yn gyffredinol, dylai cred effeithio ar eich dewisiadau mewn bywyd neu ar y modd yr ydych yn byw iddo gael ei gynnwys yn y diffiniad.
sefydliadau crefydd neu gred
Sefydliad a sylfaenwyd ar ethos yn seiliedig ar grefydd neu gred. Mae ysgolion ffydd yn un enghraifft o
sefydliad crefydd neu gred. Gweler hefyd crefydd neu gred.
sefydliad crefyddol
Gweler sefydliadau crefydd neu gred.
oed ymddeol
Yr oed y mae gweithiwr yn ymddeol neu y disgwylir iddo ymddeol. Gallai hyn fod yr oed ymddeol diofyn sef 65 (hyd nes y caiff ei ddiddymu ar 1 Hydref 2011), neu oed a osodir yng nghontract gwaith y gweithiwr neu’r oed ymddeol arferol yn y gwaith hwnnw. Gallai’r cyflogwr hefyd osod oed ymddeol ar weithwyr nad ydynt yn gyflogeion, ond rhaid i hyn gael ei gyfiawnhau yn wrthrychol hyd yn oed os yw yn 65 oed neu drosodd.
hawl i ofyn am weithio hyblyg
Mae gan weithwyr sydd gydag o leiaf 26 wythnos o wasanaeth yr hawl i ofyn am weithio hyblyg o dan weithdrefn ffurfiol er mwyn gofalu am blant neu rai perthnasau sy’n oedolion. Y cyfan yw hyn yw hawl i fynd drwy weithdrefn ffurfiol i gael y cais wedi’i ystyried mewn cyfarfod ac i dderbyn rhesymau ysgrifenedig am unrhyw wrthodiad. Mae’r hawl gwirioneddol i gael caniatâd i weithio’n hyblyg am resymau gofal yn fwy cyffredin ar gyfer gweithwyr ac ymdrinnir ag ef gan gyfraith gwahaniaethu ar sail rhyw o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
yr un gyflogaeth
Cysyniad yn ymwneud â chyflog cyfartal (gweler gwaith cyfartal). Yn gyffredinol, gallai merched a dynion gymharu eu cyflog ac amodau eraill gyda’r rhai hynny a ddefnyddir gan yr un cyflogwr neu gyflogwr cysylltiedig.
cwyn am wasanaeth
Lle digwyddodd y gwahaniaethu pan oedd y gweithiwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, ni all tribiwnlys cyflogaeth benderfynu ar yr hawl oni bai bod y gweithiwr wedi gwneud cwyn am wasanaeth am y mater na chafodd ei dynnu’n ôl.
darparwr gwasanaeth
Rhywun (gan gynnwys sefydliad) sy’n darparu gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd.
rhyw
Mae hon yn nodwedd warchodedig. Mae’n cyfeirio at p’un ai yw person yn ddyn neu yn ferch (o unrhyw oed).
aflonyddu rhywiol
Unrhyw ymddygiad o natur rywiol nad yw’r sawl sy’n ei dderbyn yn ei groesawu, gan gynnwys ymddygiad llafar, heb fod yn llafar a chorfforol, ac ymddygiad sy’n amharu ar urddas y dioddefwr ac sy’n creu amgylchedd brawychus, gelyniaethus, diraddiol neu dramgwyddus iddynt.
cyfeiriadedd rhywiol
P’un a yw atyniad rhywiol person tuag at ei ryw ei hun, y rhyw arall neu at y ddeuryw.
cyfleusterau un rhyw
Cyfleusterau sydd ar gael i ddynion neu i ferched yn unig, y gall eu darparu fod yn gyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
rhanddeiliaid
Pobl sydd â diddordeb mewn pwnc neu fater sy’n debygol o gael ei effeithio gan unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud ag ef a/neu sydd â chyfrifoldebau yn ymwneud ag ef.
sylweddol
Mae’r gair hwn yn tueddu i ymddangos mewn cysylltiad â’r diffiniad o anabledd a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr anabl. Y cyfan a ddywed y Ddeddf Cydraddoldeb yw bod ‘sylweddol’ yn golygu mwy na mân neu ddibwys. Golyga hyn nad oes angen i weithwyr anabl gael eu rhoi o dan anfantais enfawr cyn bod dyletswyddau cydraddoldeb cyflogwr yn cael eu sbarduno.
telerau cyflogaeth
Darpariaethau contract cyflogaeth person, p’un a ddarperir ar eu cyfer yn benodol yn y contract ei hun neu eu bod yn cael eu hymgorffori drwy statud, arfer a defod neu ddeddf gyffredin ac ati.
ffôn testun
Math o deleffon i bobl fyddar neu drwm eu clyw a atodir wrth fysellfwrdd a sgrin y dangosir y negeseuon a anfonir ac a dderbynnir arno.
aflonyddu trydydd parti
Dyma lle yr aflonyddir ar weithwyr gan aelodau’r cyhoedd (fel cwsmeriaid) neu gan bobl eraill nad yw’r cyflogwr yn eu cyflogi (fel cyflenwyr). Os yw cyflogwr yn ymwybodol fod un o’i weithwyr wedi dioddef aflonyddu gan drydydd parti ar o leiaf ddau achlysur, bydd y cyflogwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw aflonyddwch pellach gan drydydd parti oni bai bod y cyflogwr yn cymryd pob cam rhesymol i’w atal.
undebau llafur
Mae’r rhain yn fudiadau a ffurfir i gynrychioli hawliau a buddiannau gweithwyr i’w cyflogwyr, er enghraifft er mwyn gwella amodau gwaith, cyflogau neu fuddion. Maent hefyd yn eiriol yn ehangach ar ran buddiannau eu haelodau ac yn gwneud argymhellion i’r llywodraeth, cyrff diwydiant a llunwyr polisi eraill.
person trawsrywiol
Mae hyn yn cyfeirio at berson sydd â’r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd. Gall y person fod yn wraig sydd wedi trawsnewid neu sydd yn trawsnewid i fod yn ddyn, neu yn ddyn sydd wedi trawsnewid neu sydd yn trawsnewid i fod yn wraig. Nid yw’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i berson gael triniaeth feddygol i gael ei gydnabod fel person trawsrywiol. Cyn gynted ag y mae person trawsrywiol wedi cael tystysgrif cydnabyddiaeth rhyw, mae’n debyg y dylid ei drin yn gyfan gwbl fel y rhyw y mae’r person hwnnw wedi ei chaffael.
tribiwnlys
Gweler Tribiwnlys Cyflogaeth
symbol y tic dwbl
Arwydd a ddyfernir gan y Ganolfan Byd Gwaith i gyflogwyr sy’n gadarnhaol ynghylch cyflogi pobl anabl ac sydd wedi ymrwymo i gyflogi, cadw a datblygu staff anabl.
Gwasanaeth Cyfnewid Testun y DU
Mae Text Relay yn wasanaeth ffôn cenedlaethol i bobl fyddar, pobl a fyddarwyd, pobl trwm eu clyw, pobl ddall a byddar a rhai gyda nam ar eu lleferydd. Mae’n gadael iddynt ddefnyddio ffôn testun i gyrchu at unrhyw wasanaethau sydd ar gael ar systemau ffôn safonol.
anffafriol
Defnyddir yr ymadrodd (yn lle llai ffafriol) lle nad oes angen cymharydd i ddangos bod rhywun wedi dioddef colled neu anfantais o ganlyniad i nodwedd warchodedig – er enghraifft mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, neu wahaniaethu yn deillio o anabledd.
atebolrwydd dirprwyol
Defnyddir yr ymadrodd hwn weithiau i ddisgrifio’r ffaith bod cyflogwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am wahaniaethu a gyflawnir gan ei weithwyr. Gweler hefyd atebolrwydd.
erledigaeth
Darostwng person i niwed oherwydd eu bod wedi cyflawni gweithred warchodedig neu y credir eu bod wedi cyflawni gweithred warchodedig h.y. dod ag achos o dan y Ddeddf Cydraddoldeb; rhoi tystiolaeth neu wybodaeth mewn cysylltiad ag achos o dan y Ddeddf; gwneud unrhyw beth arall i bwrpas neu mewn cysylltiad â’r Ddeddf; gwneud honiad bod person wedi mynd yn groes i’r Ddeddf; neu wneud datgeliad perthnasol am dâl.
erlid
Y weithred o erledigaeth.
gwasanaeth galwedigaethol
Ystod o wasanaethau i alluogi pobl i gadw ac ennill gwaith taledig ac addysg prif ffrwd.
hyfforddiant galwedigaethol
Hyfforddiant i wneud swydd neu dasg arbennig.
gwaith o werth cyfartal
Gweler gwaith cyfartal.
WORKSTEP
Mae rhaglen gyflogaeth WORKSTEP yn rhoi cymorth i bobl anabl sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gael swydd a’i chadw. Mae hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i gyflogwyr.
gweithiwr
Yn y canllaw hwn, defnyddir ‘gweithiwr’ i gyfeirio at unrhyw berson sy’n gweithio i gyflogwr, p’run ai a yw yn cael ei gyflogi ar gontract cyflogaeth (h.y. ‘cyflogai’) neu ar gontract yn bersonol i wneud gwaith, neu yn fwy cyffredinol fel gweithiwr contract. Mewn cyfraith cyflogaeth, mae gan y gair ‘gweithiwr’ ystyr tebyg i’r bobl hynny yr ymdrinnir â nhw gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Ond nid yw’n union yr un fath â hynny ac mae ganddo ei ddiffiniad ei hun. Defnyddir y gair, er enghraifft, i gyfeirio at bobl yr ymdrinnir â nhw gan y Rheoliadau Amser Gwaith a’r gyfraith ynghylch yr isafswm cyflog.
Last Updated: 29 Gorff 2014