Achosion cyfreithiol hawliau dynol

1. Eweida & Chaplin v UK

Yn unol ag ymyriad y Comisiwn gerbron y Llys Ewropeaidd, dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod hawl Nadia Eweida i ryddid crefyddol wedi’i thorri.

Roedd anrhefn posibl i gyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd yn dilyn y dyfarniad, oherwydd y ffaith fod y Llys wedi dyfarnu fod Eweida wedi dioddef gwahaniaethu ond nad oedd hynny’n wir i geisydd arall, Chaplin.

Felly cyhoeddodd y Comisiwn ganllaw ar y mater hwn i gyflogwyr a chyflogeion i’w helpu i osgoi anrhefn pellach a chyfreitha costus posibl. Mae ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ymchwil i alluogi’r llywodraeth i ystyried p’un ai i newid y gyfraith.

2. Letts v Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Dyfarnodd yr Uchel Lys fod canllaw’r Arglwydd Ganghellor ar gymorth cyfreithiol i gynrychioliadau mewn cwestai yn ymgorffori camgymeriad cyfreithiol ac hefyd yn darparu argraff camarweiniol sylweddol o’r hyn yw’r gyfraith. Methodd y canllaw â chydnabod y byddai angen cynnwys aelodau teuluoedd yr ymadawedig yn awtomatig wrth ymchwilio i rai marwolaethau. Yn sgil hynny, gallai cymorth cyfreithiol gael ei wrthod ar gam, ac mae angen ei ddiwygio.

3. Moore a Coates v Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol

Dyfarnodd yr Uchel Lys fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol wedi gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn hawlwyr Sipsiwn a Theithwyr, gan fynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Erthygl 6 ill dau trwy benderfynu adfer apêl cynllunio’r ddau hawliwr ar gyfer safle llain unigol i deithwyr yn y Llain Las. Dyfarnodd y Llys fod adferiad yr Ysgrifennydd Gwladol o bob un o apeliadau cynllunio Sipsiwn a Theithwyr yn anghyfreithlon ac yn anghymesur a bu oedi anrhesymol yn ei sgil wrth benderfynu apeliadau o’r fath.

Mae’r Comisiwn wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ond heb gael ymateb boddhaol ganddo ac mae bellach yn gwneud cais i ymyrryd mewn achos unigol gan Deithiwr y mae ei apêl cynllunio wedi cael ei oedi, i sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu yn unol â dyfarniad y llys.

4. Bracking ac eraill v Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Ymyrrodd y Comisiwn yn llwyddiannus mewn Adolygiad Barnwrol yn ymwneud â’r Gronfa Byw’n Annibynnol. Cafodd penderfyniad y llywodraeth i gau’r Gronfa Byw’n Annibynnol (ILF), cronfa ddewisol o arian i ategu pecynnau gofal i helpu pobl anabl i fyw’n annibynnol, ei wrthdroi gan y Llys Apêl. Dyfarnodd y llys fod y penderfyniad i gau’r ILF wedi’i gymryd heb gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED).

Ar ôl y dyfarniad, ailgymerodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau’r penderfyniad i ddileu arian yr ILF, ac er i ni ymyrryd eto i herio’r penderfyniad newydd, cafodd y cais ar gyfer adolygiad barnwrol ei wrthod.

Fodd bynnag, mae gofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar gyrff cyhoeddus wrth iddynt wneud penderfyniadau, y cyflawnom ni yn yr achos gwreiddiol ac y cafodd ei fabwysiadu yn nyfarniad y llys, wedi gosod y meincnod i achosion mwy diweddar ar b’un ai a yw corff cyhoeddus wedi cydymffurfio â’r PSED.

5.T v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref

Roedd T yn unarddeg pan gafodd dau rybudd gan Heddlu Manceinion Fwyaf ar ôl cael ei ddal gyda dau feic a oedd wedi’u dwyn. Rhagdybiodd T, a oedd am fod yn athro chwaraeon, fod y rhybuddion hyn wedi dod i ben, ond codon nhw nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach pan ymgymerodd cyflogwr posibl a phrifysgol â gwiriad cofnodion troseddol.

Dyfarnodd y Goruchaf Lys na ddylai oedolion gael eu haflonyddu gan dramgwyddau cymharol bitw a gyflawnwyd ganddynt pan oeddent yn blant gan y byddai hyn yn torri eu hawliau dynol ac y gallai effeithio ar eu gobeithion cyflogaeth.

Yn sgil yr achosion sy’n parhau gweithredodd y llywodraeth i unioni’r problemau a nodwyd yn Neddf yr Heddlu 1997.

6. Detention Action v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref

Daeth yr elusen Detention Action â hawliad cyffredinol i herio cyfreithlondeb polisi ac arfer a gafodd eu cymhwyso gan y diffynnydd wrth weithredu’r Detained Fast Track, DFT. Ymyrrodd y Comisiwn i gyflwyno bod y DFT yn torri hawliau dynol y sawl a oedd yn destun i’r DFT yn gyffredinol a’i fod yn effeithio’n arbennig ar rai grwpiau a fyddai’n ei chael yn anodd iawn i grynhoi a rhoi eu tystiolaeth. Cefnogodd y Comisiwn gyflwyniadau Detention Action, ac ychwanegodd gyflwyniadau ar Erthyglau 3 a 5, ac Erthyglau 13 a 14, yn arbennig yr un olaf.

Bu’r hawliad yn rannol lwyddiannus ar y sail nad ellid cyfiawnhau’r ‘cyfnod o anweithgarwch’ a fu rhwng y cyfnod sefydlu i’r DFT a dyrannu’r cyfreithwyr. O ganlyniad nid oedd gan y cyfreithiwr cydwybodol yr amser i baratoi’n briodol yr hyn y byddai efallai angen iddo ei wneud. Y canlyniad oedd bod y DFT yn cario risg annhegwch annerbyniol o uchel, yn enwedig i geiswyr bregus, y gellid ei ddileu gan gyfarwyddyd cynharach gan gyfreithwyr.

7. Smith v Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Roedd yr achos ynghylch a ddylai’r Wladwriaeth ddanfon milwyr i’r gad gydag offer llai safonol; cododd faterion ynglŷn â’r diogelwch a roddwyd gan y Wladwriaeth (DU) i ddinasyddion Prydeinig wrth iddynt wasanaethu mewn rhyfel.

Dyfarnodd yr Uchel Lys fod milwyr Prydeinig a fu farw wrth wasanaethu yn Irac yn dal o dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig ac felly roedd ganddynt hawl i gael eu diogelu i’r graddau a oedd yn rhesymol ac nad oedd yn tarfu ar alwadau cyfnod eu gwasanaeth.

8. NS v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, Llys Apêl

Ymyrrodd y Comisiwn yn y Llys Apêl a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd.

Eglurodd dyfarniad y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd nad all system lloches yr Undeb Ewropeaidd weithredu ar sail ‘rhagdybiaeth bendant’ bod pob un o Wladwriaethau Aelod yr Undeb Ewropeaidd yn “glynu wrth hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd”. Ni allai’r Gwladwriaethau Aelod, gan gynnwys y llysoedd cenedlaethol, drosglwyddo ceisiwr lloches i’r ‘Wladwriaeth Aelod sy’n gyfrifol amdano’ o dan gytundeb Dublin II lle na allant heb fod yn gwybod am y ffaith bod diffygion systemig yn y weithdrefn lloches ac mewn cyflyrau derbyn ceiswyr lloches yn y Wladwriaeth Aelod honno yn gyfystyr â seiliau sylweddol am gredu y byddai’r ceisiwr lloches yn wynebu risg go iawn o ddioddef triniaeth annynol a diraddiol o fewn ystyr Erthygl 4 Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.

9. Burnip v Cyngor Dinas Birmingham a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Yn ymwneud ag effaith wahaniaethol rheolau (sydd wedi’u diddymu’n rhannol) a oedd yn atal i lwfans tai lleol gael ei dalu yng nghyswllt ystafell wely gofalwr.

Ymyrrodd y Comisiwn yng nghymhwysiad yr egwyddor ‘Thlimmenos’: yr angen i achosion annhebyg i gael eu trin yn wahanol. Sefydlodd y bod rhaid i fudd daliadau tai ystyried anghenion ychwanegol plant ac oedolion anabl.

10. R v (1) L (2) HVN(3) THN(4) T

Ymyrrodd y Comisiwn mewn apêl yn erbyn collfarn T, bachgen Fietnamaidd 14 oed, a oedd yn gweithio dan orfod mewn ffatri canabis ar ôl gael ei fasnachu i Loegr yng nghefn lorri reweiddiedig. Cyflwynodd y Comisiwn fod Erthygl 4 a chyfraith y Cenhedloedd Unedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddioddefwyr masnachu sy’n blant gael cymorth, cynhorthwy a diogelwch yn hytrach na chael eu herlyn ymhellach.

Dileodd y Llys Apêl gollfarn T a chollfarnau tri dioddefwr arall y cafodd eu hachosion eu clywed gyda’i gilydd. Derbyniodd y Llys gyflwyniad y Comisiwn fod baich trwm ar yr awdurdodau i archwilio honiadau o fasnachu pobl yn drylwyr, fel na fo erlyniadau diangen yn digwydd. Adlewyrchodd ei ddyfarniad yn bellach ddadlau’r Comisiwn fod gan y llysoedd y grym i atal achosion erlyn rhag digwydd pan nad oedd tystiolaeth ddigonol wedi’i gyflwyno iddynt ynglŷn ag oedran y diffynnydd ac a oedd yn ddioddefwr masnachu pobl.

Last Updated: 20 Awst 2015