Cyflwyniad i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref i Ailffurfio Organau Rhywiol Menywod

Yn ôl safbwynt diamwys a chadarn y Comisiwn, mae Ailffurfio Organau Rhywiol Menywod (FGM) yn gyfystyr â phoenydio ac yn peryglu iechyd a bywydau merched a menywod. Mae’r arfer barhaus o FGM ym Mhrydain felly yn ymyriad clir yn erbyn hawliau merched a menywod, ac mae’r diffyg diogelwch effeithiol yn erbyn y drosedd hon yn torri rhwymedigaethau cyfreithiol cenedlaethol y Wladwriaeth. Nid yw’r ffaith bod cyfraith ddomestig yn gwahardd FGM yn gwbl ryddhau’r Wladwriaeth o’i rhwymedigaethau; mae’r Wladwriaeth o dan ddyletswydd bositif i sicrhau bod gan y rhai sydd mewn perygl ddiogelwch effeithiol. Mae sensitifrwydd diwylliannol amhriodol tuag at gymunedau sy’n arfer FGM yn achosi niwed i ferched a menywod ac yn methu diogelu eu hawliau dynol.

Argymhellion

Yn gryno, mae’r Comisiwn yn argymell:

  • Dylai’r Llywodraeth roi strategaeth gynhwysfawr yn ei lle sydd wedi’i chydlynu ar draws y Deyrnas Unedig i daclo FGM, gan gydnabod y ddeddfwriaeth, polisïau a systemau adrodd a chymorth gwahanol yn eu lle ar draws y gwledydd. Dylai’r strategaeth fod ag arweinyddiaeth glir, nodau, ffurfiau effeithiol o atebolrwydd sydd wedi ei dargedu ac adnoddau digonol.
  • Dylid ffocysu mwy o adnoddau ar ataliad drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau yr effeithir arnynt, gyda’r nod o newid agweddau at FGM.
  • Dylai gweithwyr proffesiynol gael hyfforddiant gorfodol am FGM.
  • Dylai awdurdodau perthnasol ei wneud yn glir mai camdriniaeth plant yw FGM ac o’r herwydd yn ddarostyngedig i ofynion adrodd gorfodol sydd eisoes yn bodoli.
  • Dylid atgoffa pob gweithiwr proffesiynol perthnasol am eu dyletswydd i adrodd am gamdriniaeth plant, gan gynnwys FGM, o dan weithdrefnau diogelu sydd eisoes yn bodoli.
  • Mae angen gwaith pellach i sefydlu’r ymagwedd gywir ar gyfer adrodd mewn achosion lle mae’r goroeswr FGM dan sylw yn oedolyn ac am i’r drosedd yn ei herbyn i beidio â chael ei grybwyll wrth yr heddlu, gan ystyried hawliau Erthygl 8 i breifatrwydd ac unrhyw risgiau cynyddol i blant.

Lawr lwytho'r cyflwyniad llawn (Word) (yn Saesneg)

Last Updated: 08 Gorff 2014