Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010

Sesiwn tystiolaeth lafar y Comisiwn gyda’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010

Gorffennaf 2015

Rhoddodd y Farwnes O'Neill o Bengarve, Cadeirydd, yr Arglwydd Holmes o Richmond, Comisiynydd Anabledd, a Rebecca Hilsenrath, Prif Swyddog Cyfreithiol (bellach yn Brif Weithredwr) y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’u hymchwiliad i ystyried effaith Deddf Cydraddoldeb 2010 ar bobl ag anableddau ac adrodd arno.

Darllen y trawsysgrifiad

Tystiolaeth ysgrifenedig atodol y Comisiwn i’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010

Awst 2015

Yn ystod sesiwn tystiolaeth lafar y Comisiwn gyda’r pwyllgor, ymgymeron i ddarparu tystiolaeth bellach yn ysgrifenedig ar nifer o faterion:

  1. Rhai cymariaethau o gyllidebau ac effeithiolrwydd y Comisiwn Hawliau Anabledd (cyn 2007) gyda’r gyllideb bresennol a gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  2. Bylchau yn y gyfraith – gwelliannau arfaethedig y Comisiwn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys rhai sylwadau ar ddarpariaethau a gafodd eu deddfu ond heb eu rhoi mewn grym
  3. Sylwadau ar drafodaethau ar Godau Ymarfer Statudol arfaethedig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  4. Rhai cymariaethau rhwng gofynion ac effeithiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  5. Rhai sylwadau ar effeithiau dileu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan bobl yn y Gweithgor yn ymwneud â Gwaith
  6. Crynodeb o ddeilliannau diweddaraf ein Hymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd
  7. Enghreifftiau o achosion cyfreithiol y mae’r Comisiwn wedi ymyrryd ynddynt neu’u cefnogi sydd wedi effeithio’n arwyddocaol ar bobl anabl

Darllen ein cyflwyniad ysgrifenedig

Tystiolaeth ysgrifenedig y Comisiwn i'r Pwyllgor

Medi 2015

Darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth ysgrifenedig ar y cwestiynau a amlinellwyd yng ngalwad y Comisiwn am dystiolaeth ysgrifenedig. Yn y cyflwyniad hwn, amlinella’r Comisiwn y gwaith a gyflawnodd wrth gefnogi amcanion Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys cyfreitha strategol a llunio canllawiau. Mae’r Comisiwn yn amlygu sut y gellir gweithredu’r Ddeddf yn well, yn benodol drwy weithredu’i darpariaethau’n llawn ac ailosod darpariaethau a gafodd eu diddymu. Mae’r Comisiwn yn galw ar ddwyn bob agwedd o gydraddoldeb a hawliau dynol dan awdurdodaeth adran sengl y llywodraeth; pwerau newydd a fyddai’n galluogi’r Comisiwn i orfodi’r Ddeddf yn fwy effeithiol, ac adolygiad cynhwysfawr o fynediad at gyfiawnder mewn achosion gwahaniaethu.

Darllen ein cyflwyniad ysgrifenedig llawn.

Llythyr y Comisiwn i’r Pwyllgor Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010

Rhagfyr 2015

Croesawodd y Comisiwn y cyfle i ymateb i faterion a godwyd gyda’r pwyllgor drwy gydol ei sesiwn tystiolaeth. Mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y Pwyllgor Anabledd, y llinell gymorth ac asesiadau effaith cronnus.

Darllen llythyr y Comisiwn i'r Pwyllgor

Last Updated: 13 Ion 2016