Hawliau Dynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Nid her arall yw hawliau dynol i sector iechyd a gofal cymdeithasol, sydd dan bwysau mawr, i’w ateb. Os ymwreiddir hawliau dynol mewn polisïau ac arferion sydd eisoes yn bodoli, gallant wella profiadau i bawb - o ddefnyddwyr gwasanaeth, i weithwyr, i gomisiynwyr a darparwyr gwasanaeth. Mae hawliau dynol yn fodd o ddarparu ethos moesegol, fel y’i hargymhellwyd gan adolygiadau cyhoeddus megis Ymchwiliad Francis ac Adolygiad Cavendish.
I helpu gwireddu hyn, sefydlodd y Comisiwn, Hawliau Dynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Prosiect dwy flynedd yw, a sefydliwyd yn nyddiau cynnar 2014, i gynorthwyo sector iechyd a gofal cymdeithasol Lloegr i gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998. Nod y prosiect yw cyflawni’r deilliannau a ganlyn:
- Gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu gwell yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol i’r diben o gyflawni ei ddyletswyddau statudol i barchu, amddiffyn a hybu hawliau dynol, gan gynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldeb;
- Gwybodaeth, dealltwriaeth a gallu cynyddol ar ran darparwyr a chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i droi cysyniadau ac amddiffynion hawliau dynol i gynllunio a chyflenwi gwasanaeth o ansawdd uwch; a
- Profiadau gofal gwell i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a gofalwyr drwy ymwreiddio ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol i gyflenwi gwasanaeth.
Wrth geisio’r deilliannau hyn, mae’r Comisiwn yn cyflenwi:
- Tudalen arwyddbost sy'n caniatáu mynediad ichi at adnoddau addysgol newydd ac sydd eisoes yn bodoli i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, o un lleoliad canolog. Caiff y banc adnoddau hwn ei ddatblygu trwy gydol hynt y prosiect.
- Cyfres o adnoddau newydd, yn darparu dysg hawliau dynol drosglwyddadwy, well ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
- Digwyddiadau hyfforddi wedi’u hanelu at ystod eang o weithwyr proffesiynol a chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflenwi dysg a negeseuon allweddol ar ymwreiddio hawliau dynol mewn polisïau ac ar waith.
- Deunyddiau hyfforddi i aelodau etholedig - Comisiynu dros hawliau dynol ym maes gofal cartref i bobl hŷn - yr hyn mae angen i aelodau etholedig ei wybod
Cadwch i fyny gyda’r newyddion diweddaraf drwy ymweld â’n tudalennau yn rheolaidd, a chanfod yr hyn y gall hawliau dynol ei wneud i chi.
Last Updated: 06 Maw 2015