Cytundeb ffurfiol gyda Done Brothers (Cash Betting) Ltd trading as Betfred

O ganlyniad i’r Cytundeb mae Betfred wedi cynnal adolygiad llawn o arfer rheolwyr wrth drin achosion achwyniadau a disgyblu; mae’r tîm Uwch Reolwyr manwerthu wedi cyfranogi mewn hyfforddiant ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ac wedi mynychu webinar ar fwlio ac aflonyddu; cafodd hyfforddiant penodol ar amrywiaeth ei gyflwyno’n raddol i’r sefydliad drwyddi draw, ac mae wedi cynnal hyfforddiant yn y dosbarth neu ar webinar i bawb sy’n recriwtio ar arferion recriwtio, gan gynnwys ei ddefnydd o’i broses newydd ar gyfweliadau sydd wedi’u strwythuro ac ar bennu rhestr fer. I godi ymwybyddiaeth bellach o hawliau a chyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a helpu i werthuso eu cynnydd, maent hefyd wedi cyflwyno ‘archwiliad tîm rhanbarthol’. Caiff yr archwiliadau hyn eu cynnal ar draws pob siop ac maent yn eang eu cwmpas, gan gynnwys safonau manwerthu, cydymffurfiaeth â rheolau hapchwarae cyfrifol, a diogelwch, yn ogystal â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Yn ei adroddiad terfynol diolchodd Betfred y Comisiwn am y cymorth a roddodd iddynt i helpu codi lefel ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r pwnc pwysig hwn o fewn ei gwmni. Mae’n haeru bod y camau a gymerodd a’r mesurau a roddodd yn eu lle hyd yn hyn, o dan arweiniad y Comisiwn, wedi helpu creu amgylchedd lle caiff egwyddorion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth eu hyrwyddo. Mae’n credu’n gryf y bydd y camau pellach a gymerir ganddo yn y dyfodol yn galluogi’r sefydliad i gyflawni a chynnal cysondeb ar draws ei Ystâd Manwerthu gyfan.

Last Updated: 10 Rhag 2015