Gwahaniaethu ar sail oedran

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • Eich bod (neu nad ydych) o oedran arbennig neu mewn grŵp oedran arbennig.
  • Mae rhywun yn meddwl eich bod (nad ydych) o oed penodol neu mewn grŵp oed penodol. Gwahaniaethu trwy ganfyddiad yw hyn.
  • Rydych yn gysylltiedig â rhywun o oed penodol neu mewn grŵp oed penodol. Gwahaniaethu trwy gysylltiad yw hyn.

Gall grwpiau oedran fod yn eithaf eang (er enghraifft, ‘pobl o dan 50’ neu 'bobl ifanc dan 18'). Gallant hefyd fod yn eithaf penodol (er enghraifft, ‘pobl yng nghanol eu 40au’). Gall ymadroddion megis ‘person ifanc’ ac ‘ieuanc’ neu ‘oedrannus’ a ‘phensiynwr’ ddynodi grŵp oedran hefyd.


Beth yw gwahaniaethu ar sail oedran?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich oedran mewn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae rhai eithriadau gan y Ddeddf, serch hynny; ni ddiogelir myfyrwyr yn yr ysgol rhag gwahaniaethu ar sail oedran, er enghraifft.

Gall y driniaeth fod yn weithred unwaith ac am byth neu o ganlyniad i reol neu bolisi yn seiliedig ar oedran. Nid oes rhaid iddo fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd eich oed yn gyfreithlon, ac fe’u heglurir isod.


Mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail oedran

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail oedran.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Digwydd hyn pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich oedran.

  • Er enghraifft mae eich cyflogwr yn gwrthod caniatáu i chi fynd ar gwrs hyfforddi oherwydd ei bod yn meddwl eich bod yn ‘rhy hen’, ond yn caniatáu i gydweithwyr ifancach fynychu’r cwrs.

Caniateir gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran ar yr amod y gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos fod rheswm da dros y gwahaniaethu. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

  • Er enghraifft, rydych yn 17 oed ac yn gwneud cais am swydd ar safle adeiladu. Mae’r cwmni adeiladu yn gwrthod cyflogi pobl ifanc dan 18 oed ar y safle oherwydd dengys ystadegau damwain y gall fod yn beryglus iddynt. Mae’n debygol y gellir cyfiawnhau triniaeth y cwmni ohonoch.
  • Er enghraifft, mae perchennog tŷ llety yn codi dwywaith ei chyfraddau arferol i bobl ifanc dan 21 oed. Mae hi’n gobeithio y bydd yn atal pobl ifanc rhag trefnu aros gyda hi achos bod rhai pobl ifanc wedi achosi difrod yn y tŷ yn ddiweddar. Ffordd wahanol fwy priodol fyddai gofyn am flaendal. Nid yw’n debygol y gallai’r tŷ llety gyfiawnhau codi cyfraddau uwch.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Digwydd gwahaniaethu anuniongyrchol pan fo gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl o’ch grŵp oedran chi dan anfantais.

  • Er enghraifft, rydych yn 22 oed ac rydych yn canfod nad ydych yn gymwys i gael eich dyrchafu oherwydd bod polisi gan eich cyflogwr mai dim ond gweithwyr sy’n raddedigion cymwys (megis gradd Meistr) sy’n cael eu dyrchafu. Er bod hyn yn berthnasol i bawb mae’n rhoi pobl o’ch oedran chi o dan anfantais oherwydd maent yn llai tebygol o fod â’r radd honno.
  • Er enghraifft, mae optegydd yn caniatáu i gwsmeriaid dalu am eu sbectolau mewn rhandaliadau, ar yr amod eu bod mewn cyflogaeth. Gallai hyn wahaniaethu yn anuniongyrchol yn erbyn pobl hŷn sy’n llai tebygol o fod yn gweithio.

Fel gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran, gellir caniatáu gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail oedran os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos bod rheswm da dros y polisi. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Aflonyddu

Digwydd aflonyddu pan fo rhywun yn eich cywilyddio, tramgwyddo neu ddiraddio.

  • Er enghraifft yn ystod sesiwn hyfforddi yn y gwaith, mae’r hyfforddwr yn cadw i son am ba mor araf yw cyflogai hŷn wrth ddysgu sut i ddefnyddio pecyn meddalwedd newydd oherwydd ei oedran. Mae hyn yn peri gofid i’r cyflogai. Gellir ystyried hyn yn aflonyddu yn gysylltiedig ag oedran.

Ni ellir cyfiawnhau aflonyddu, fyth. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth ag y gall i atal pobl sy’n gweithio iddo rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch wneud hawliad am aflonyddu yn ei erbyn, er gallech wneud hawliad yn erbyn y tramgwyddwr.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu ar sail oedran o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi cwyno am wahaniaethu ar sail oedran.

  • Er enghraifft, mae eich cydweithiwr yn cwyno bod pobl yn y gwaith yn ei gyfarch gan yr enw 'wrinkly'. Rydych yn ei helpu i gwyno wrth eich rheolwr. Mae eich rheolwr yn eich trin yn wael o ganlyniad i hyn.

Amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol oherwydd ei oedran yn gyfreithlon

Gallai triniaeth wahanol fod yn gyfreithlon os yw:

  • Perthyn i grŵp oedran penodol yn hanfodol i’r swydd. Gofyniad galwedigaethol yw hyn. Er enghraifft: Gallai cwmni ffilmiau sy’n gwneud ffilm o Oliver Twist ofyn yn gyfreithlon am fachgen ifanc i gymryd rhan Oliver.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu feithrin pobl mewn grŵp oedran sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sy’n cael eu rhoi o dan anfantais mewn rôl neu weithred.
  • Mae eich cyflogwr wedi gosod oed ymddeol gorfodol y gall ei gyfiawnhau’n eglur yng nghyswllt eich rôl. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.
  • Mae’r amgylchiadau yn perthyn i un o’r eithriadau i’r Ddeddf sy’n caniatáu i sefydliadau ddarparu triniaeth wahanol mewn cyflogaeth neu wasanaethau’n seiliedig ar oedran.
  • Mae darparwr gwasanaeth yn gwneud consesiynau neu fuddion sy’n gysylltiedig ag oedran. Er enghraifft gall sinema gynnig tocynnau rhad ac achlysuron sgrinio penodol i bobl dros 60 oed. Neu gall meddyg teulu gynnig pigiadau rhag y ffliw i bobl dros 65 oed.
  • Mae’r sector gwasanaethau ariannol (e.e. banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant) yn defnyddio terfynau oedran wrth bennu pa wasanaeth i’w gynnig - er enghraifft, mae banc y stryd fawr yn cynnig cyfrif ‘cynilwr arian’ i gwsmeriaid dros 60, gyda chyfrannau llog uwch. Fodd bynnag, os ydynt yn defnyddio oedran i asesu risg, er enghraifft, dim ond darparu yswiriant ceir hyd at oed 75 neu godi mwy am yswiriant wrth i’r cwsmer heneiddio, byddai angen y dystiolaeth ddiweddaraf arnynt o ffynonellau dibynadwy sy’n dangos bod pobl dros oedran penodol yn cynrychioli fwy o risg wrth yrru.

Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015