Ein Prif Weithredwr yn trafod blaenoriaethau a llwyddiannau’r Comisiwn

Mae Rebecca Hilsenrath, ein Prif Weithredwr, yn trafod yr hyn yw llwyddiant ac effaith yn y Comisiwn ac yn rhannu ei huchafbwyntiau o’n gwaith dros y 12 mis diwethaf. Yn ei chyfweliad cyntaf fel Prif Weithredwr mae hi hefyd yn siarad am flaenoriaethau’r Comisiwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a’r hyn a ddel y dyfodol, ac mae’n annog rhanddeiliaid i rannu eu safbwyntiau ar ymgynghoriad ein Cynllun Strategol.

1. P’un yw’r llwyddiannau allweddol i’r Comisiwn dros y 12 mis diwethaf?

Yn gyntaf mae rhaid i ni ofyn i’n hunain yr hyn yw llwyddiant. I’r Comisiwn, mae’n ymwneud â chael effaith ar ddeddfwriaeth a pholisi, ar gydymffurfio â’r gyfraith a chyda ymarfer dda, a bod â llais a dylanwad drwy sylw’r cyfryngau i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig. Yn anad dim, rydym am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

I’r perwyl hwnnw, rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono dros y flwyddyn a aeth heibio yw ein hymchwiliad i farwolaethau oedolion â chyflyrau iechyd meddwl sy’n cael eu cadw’n gaeth. Darganfuom ddiffygion difrifol yn y system a chyfrannom at ei welliant. Enghreifftiau eraill o’n llwyddiannau yw’r canllaw a gyhoeddom ar gyfer y diwydiant darlledu ar gynyddu amrywiaeth ar ac oddi ar y sgrin, a’n hymchwil i brofiadau menywod beichiog yn y gweithle a’r rheiny ar absenoldeb mamolaeth. Cafodd y ddau dderbyniad da iawn gan ein rhanddeiliaid, gwnaethant ennyn llawer o ddiddordeb a hyrwyddo ein henw da. Ond nid dyna’r cyfan. Rydym ar fin lansio ein hargymhellion ar sut i wella amodau i fenywod beichiog a’r rheiny ar absenoldeb mamolaeth, ar sail yr ymchwil hwn. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Comisiwn yn llwyddo’n dda ynddo - cymryd ein sylfaen tystiolaeth a’i drosi i argymhellion diriaethol ar sut y gallwn newid pethau er gwell.

Mae ein gwaith ar fonitro pa mor dda y mae Llywodraeth y DU yn hyrwyddo a diogelu hawliau dynol yn faes hefyd y mae gennym effaith gwirioneddol ynddo, a gallwn weld hyn drwy nifer ein hargymhellion i’r Llywodraeth sydd wedi’u mabwysiadu gan gyrff cyfamodau’r CU. Yr un yw’r sefyllfa gyda’n cyfreitha strategol lle rydym wedi llwyddo’n hynod o dda eleni wrth ddangos bod y penderfyniad i adfer apeliadau cynllunio Sipsiwn a Theithwyr mewn perthynas â safleoedd y llain las yn wahaniaethu anghyfreithiol. Dyfarnodd yr Uchel Lys fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol wedi methu â chyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a defnyddiodd darnau o’n canllaw i arddangos hynny.

Yn olaf ond nid y lleiaf o bell ffordd, roedd ein hadroddiad cynhwysfawr ar gynnydd Prydain tuag at ddiogelwch cydraddoldeb a hawliau dynol (‘A yw Prydain yn Decach?’) yn hynod o lwyddiannus i’r Comisiwn eleni. Dangosodd ein hygrededd a’n cyrhaeddiad, gyda chanfyddiadau allweddol yn ymddangos ar dudalennau blaen y papurau newydd ac yn llywio trafodaethau. Cafodd ei groesawu gan ein rhanddeiliaid ac mae ein sgyrsiau dilynol wedi bod yn hynod o gynhyrchiol. Mae hwn yn waith pwysig iawn i’r Comisiwn gan y byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth o’r adroddiad i lywio ein blaenoriaethau yn y dyfodol.

2. P’un yw’r heriau sy’n codi o’r cyd-destun y mae’r Comisiwn yn gweithio ynddo?

Mae fy ngwydr i fel arfer yn fwy na hanner llawn a’r hyn yr ydwyf yn ei weld yw digon o ddrysau agored a digon o gyfleoedd inni wneud gwahaniaeth. Fel y gwyddom gan ‘A yw Prydain yn Decach?, mae cyfleoedd yn bendant ar gyfer gwelliannau ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol ledled y wlad, ond bu hefyd nifer o feysydd cynnydd ers i ni gynnal yr adolygiad bum mlynedd yn ôl.

Mae’r cyd-destun economaidd yr ydym yn gweithio ynddo yn amlwg yn anodd, ond gwna ein gwaith hyd yn oed yn fwy angenrheidiol a phwysig. Ystyrir cydraddoldeb bellach yn flaenoriaeth ar draws pleidiau gwleidyddol gwahanol ac mae hyn yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i ni i gyfrannu ato ac ychwanegu gwerth.

3. Beth yw’r Cynllun Strategol a beth yw blaenoriaethau’r Comisiwn dros y 12 mis nesaf?

Mae’n rhan o’n dyletswydd statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 i amlinellu ein strategaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac ymgynghori arni. Cyfle yw’r Cynllun Strategol i amlinellu ein gweledigaeth a sicrhau ein bod yn meddwl ar yr un donfedd, a’n bod wedi cynnwys ein rhanddeiliaid, ein holl staff a’n Bwrdd. Mae angen i bawb arddel yr un weledigaeth o ran yr hyn y byddwn yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf a sut a wneir hynny. Mae’r Comisiwn bellach yn canolbwyntio’n fawr ar fod yn arbenigwr cenedlaethol y mae ei waith yn seiliedig ar dystiolaeth gref ac yn gwireddu newid gwirioneddol i fywydau pobl. Rydym am gynnal hanes hir y DU o gynnal hawliau pobl, gan werthfawrogi amrywiaeth a herio anoddefgarwch. Mae rhai o’n blaenoriaethau ar gyfer 2016 yn cynnwys datblygu ffyrdd effeithiol o daclo bylchau cyflog, archwilio mynediad pobl at gyfiawnder sifil, deall y berthynas rhwng agweddau rhagfarnllyd, gwerthoedd ac ymddygiadau, helpu cyflogwyr i ddelio â materion crefydd a chred yn y gweithle, a hybu ac addysgu’r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol.

Rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod pob cyflogai’r Comisiwn yn gweithio mor effeithiol â phosibl gyda’i gilydd a’n bod yn wirioneddol yn cael y gorau o’r holl arbenigedd a’r doniau sydd gennym ar draws y sefydliad. Rydym am i’r Comisiwn i fod yn falch o’r hyn y mae’n ei gyflawni, i fod ag awyrgylch gefnogol a’i fod yn annog gweithio da ar y cyd. Dylai’r diwylliant hwn drosi i sut y cawn ein hystyried gan y byd allanol.

Ymgynghori ar ein Cynllun Strategol 2016 - 2019

Last Updated: 01 Rhag 2015