Diweddariad ar yr Ymchwiliad Hawliau Dynol
Yn 2008, lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei ymchwiliad ffurfiol cyntaf i Hawliau Dynol. Cafodd yr Ymchwiliad dystiolaeth o effeithiau buddiol ymagwedd hawliau dynol o fewn gwasanaethau cyhoeddus ac o’r rhwystrau sydd yn dal yn bodoli.
Ymrwymodd y Comisiwn i adolygu ac adrodd ar y camau a gymerwyd dair blynedd wedi cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad. Darllenwch ragor am ein gwaith a’r camau a gymerwyd.
Mae codi ymwybyddiaeth eang a dealltwriaeth gywir o hawliau dynol ymhob lefel y gymdeithas yn un o flaenoriaethau strategol y Comisiwn i hawliau dynol. Ochr yn ochr â’n datganiadau i’r wasg ar newyddion allweddol mae’r ymchwiliadau ffurfiol arwyddocaol dilynol parthed hawliau dynol wedi dod i ben.
Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd– ymchwiliad ffurfiol i gamau awdurdodau cyhoeddus a gweithredwyr cludiant cyhoeddus (ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban) i ddileu aflonyddu ar sail anabledd.
Ymchwiliad Hawliau Dynol a Gofal Cartref – ymchwiliad ffurfiol yn edrych ar effeithiolrwydd y system gofalu a chymorth yn Lloegr wrth ddiogelu a hybu hawliau dynol pobl hŷn (65 oed a mwy) sydd angen neu’n cael gofal a chymorth yn eu cartrefi.
Ymchwiliad i Fasnachu Pobl yn yr Alban – ymchwiliad i fasnachu pobl yn yr Alban, gan ganolbwyntio’n benodol ar gamfanteisio masnachol rhywiol.
Ymchwiliad i’r Sectorau Prosesu Cig a Dofednod – Ymchwiliad yn edrych ar sut mae pobl sy’n gweithio yn y diwydiant yn cael eu recriwtio, a’u trin unwaith iddynt ddechrau yn y gwaith.
Mae’r Comisiwn hefyd wedi ymyryd mewn nifer o achosion cyfreithiol strategol lle gallwn ddefnyddio ein harbenigedd i egluro neu herio elfen bwysig o’r gyfraith. Darllenwch fwy am rai o’n hachosion hawliau dynol:
Ymyrryd o ran hawliau crefydd neu gred – honiadau o wahaniaethu ar sail crefydd yn y gweithle.
Neary v. Cyngor Hillingdon – diogelwch hawliau dynol o ran amddifadu rhyddid oedolion anabl.
O'Donoghue v. DU – cynllun cymeradwyo tystysgrifau priodas i fewnfudwyr yn gwahaniaethu.
Kay v. DU – gorchmynion eiddo i denantiaid ym maes tai cymdeithasol.
Achos Smith – cymhwyso’r Ddeddf Hawliau Dynol at bersonel y fyddin arfog yn gwasanaethu’r tu hwnt i’r DU.
Mae’r Comisiwn hefyd wedi cynghori’r llywodraeth ynglŷn â defnyddio teclynnau mosgito.
Yn ogystal â’i ymchwiliadau ffurfiol ac ymyriadau cyfreithiol mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil hawliau dynol, gan gynnwys:
'Older people and human rights in home care': Mae hwn yn edrych ar p’un ai a oedd hawliau dynol wedi’u cynnwys wrth gomisiynu, caffael, rheoli contractau, asesu a gweithgareddau eraill yn ymwneud â gwasanaethau gofal yn y cartref.
'Protecting information privacy': Archwiliodd hwn y bygythiadau i breifatrwydd gwybodaeth sydd wedi codi yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan ganolbwyntio ar weithgareddau’r wladwriaeth.
'Human rights and equality in the voluntary sector': archwiliodd hwn sut roedd sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio ym maes cydraddoldeb yn defnyddio cysyniadau, iaith a theclynnau hawliau dynol yn eu gwaith.
Mwy nag Ystadegyn: archwiliodd hwn brofiadau bywyd Teithwyr o Sipsiwn, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl drawsryweddol a phobl a chanddynt gyflyrau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae’r Comisiwn wedi dwyn crynhoad o ganllawiau hawliau dynol ynghyd, ac yn ychwanegol wedi llunio nifer o ganllawiau sy’n dangos sut y gellir defnyddio ymagweddau hawliau dynol ym maes gwasanaethau cyhoeddus:
'Your home care and human rights': mae hwn yn egluro eich hawliau i ofal cartref a sut y gall hawliau dynol eich helpu wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal cartref.
'Human rights at home': Canllaw i ddarparwyr tai cymdeithasol: offer ymarferol i feithrin dealltwriaeth a hyder wrth ddelio â materion hawliau dynol. Rhedodd y Comisiwn yng Nghymru brosiect peilot mewn partneriaeth â sefydliad tai Tai Pawb yn 2011. Nod y prosiect oedd cynorthwyo darparwyr tai i feithrin ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol i gyflenwi gwasanaethau.
'Human rights and the public sector'. Chwalu’r mythau: mae’r ychwanegiad hwn yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau grwpiau trafod gydag arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn archwilio sut mae hawliau dynol yn edrych ar waith.
Yng Nghymru mae ein teclyn rhyngweithiol Stryd Urddas yn edrych ar beth mae hawliau dynol yn ei olygu yng nghyd-destun bywyd bob dydd. Lansiwyd Stryd Urddas yng ngwanwyn 2010 yn Uwchgynhadledd Hawliau Dynol Cymru.
Yn ogystal â chanllaw, mae’r Comisiwn wedi cynnull rhwydwaith busnes a hawliau dynol ac wedi comisiynu Prifysgol Middlesex i adolygu canllaw, safonau a mentrau sy’n bodoli ar gyfer busnesau, a chlustnodi bylchau. Mae ein prosiect ‘Eich busnes chi yw cam-drin domestig yn hybu polisiau cam-drin domestig yn y gweithle. Gall gweithredu polisi yn y gweithle helpu awdurdodau i gyflawni eu dyletswyddau hawliau dynol – gall hefyd daclo absenoldeb salwch, argadw staff medrus a phrofiadol a sicrhau bod staff yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle a bod cymorth iddynt yno. Mae’r Comisiwn hefyd yn gweithio gyda’r Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ystyried ffyrdd i gefnogi’r sector cymunedol a gwirfoddol ehangach i gyfathrebu'n fwy effeithiol ar hawliau dynol.
I gydnabod pa mor bwysig yw addysgu pobl ifanc am hawliau dynol a chyfrifoldebau, mae’r Comisiwn yn gweithio i annog ysgolion i ddefnyddio’r fframwaith hawliau dynol yn ehangach a darparu mwy o addysg hawliau dynol i bobl ifanc.
‘Equal Rights, Equal Respect’: dyma set o adnoddau addysgol a hyfforddiant athrawon ar-lein i helpu dysgu myfyrwyr CA3 yn Lloegr am gydraddoldeb a hawliau dynol mewn modd sy’n berthnasol i’w bywydau. Mae ‘Equal Rights, Equal Respect’ yn helpu creu man diogel i fyfyrwyr archwilio, trafod, herio a ffurfio’u barn a syniadau eu hunain ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol. Hefyd, mae’n cynnwys adran hyfforddi a gwybodaeth ddefnyddiol i helpu athrawon ac ysgolion feithrin gwybodaeth ynglŷn â chydraddoldeb a hawliau dynol, ac i ddarparu cyngor ar ddulliau dysgu effeithiol i gyflenwi’r pynciau hyn.
Mae’r Llywodraeth wedi comisiynu Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb newydd (EASS) i ddisodli llinell gymorth y Comisiwn. Mae’r EASS yn gweithio ar y cyd gyda’r sefydliadau y mae’n cael atgyfeiriadau ganddynt a, gyda chaniatad yr unigolyn, yn rhoi gwybod iddynt am ganlyniadau’r achosion y maent yn eu hatgyfeirio. Mae’r EASS yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn, gan atgyfeirio achosion prawf posibl a rhannu gwybodaeth i lywio gwaith ehangach y Comisiwn ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Mae datblygu fframwaith mesur credadwy i hawliau dynol sy’n cael ei ddefnyddio’n eang yn flaenoriaeth strategol i’r Comisiwn. Teclyn dadansoddol newydd yw Fframwaith Mesur Hawliau Dynol sy’n dwyn tystiolaeth ynghyd ar gyfer asesu a dadansoddi hawliau dynol, ac mae’n rhoi’r wybodaeth hon ar gael i’r Comisiwn ac eraill. Cafodd ei ddatblygu i ddiwallu’r angen am sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ar gyfer gwerthuso cydymffurfedd â, a chynnydd tuag at, rhoi hawliau dynol ar waith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Yn 2012 cynhaliodd y Comisiwn ei ymchwiliad carreg filltir cyntaf i gyflwr hawliau dynol yng Nghymru a Lloegr heddiw. Dilynodd Adolygiad Hawliau Dynol 2012 Adolygiad Teirblwydd cyntaf y Comisiwn: Pa mor deg yw Prydain? Edrychodd i’r graddau y mae Prydain yn cyflawni ei rhwymedigaethau hawliau dynol o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’n Deddf Hawliau Dynol 1998 ein hunain. Mae’r adroddiad Pa mor deg yw Cymru? yn gosod agenda i degwch ac yn amlygu materion hawliau dynol yng Nghymru.
Darllen mwy:
Fframwaith Mesur Hawliau Dynol: Paneli prototeip, set o ddangosyddion a sylfaen dystiolaeth
Mae’r Comisiwn yn anelu at roi gwybod i randdeiliaid allweddol am ba mor bwysig yw cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol ac o hawliau dynol yn gyffredinol. Ein blaenoriaeth strategol yw sicrhau na fydd unrhyw lithro’n ôl o ran y gyfraith ar lefelau diogelwch hawliau dynol a’r mecanweithiau ar gyfer gorfodi o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a chytundebau hawliau dynol eraill a gadarnhawyd.
Sefydlwyd y Comisiwn ar Fil Hawliau yn 2011 i ystyried creu Bil Hawliau’r DU. Gwnaethom nifer o gyflwyniadau at hyn:
Ail ymgynghoriad y Comisiwn Bil Hawliau – ailadroddodd yr ymateb ychwanegol hwn y pwyntiau a wnaed yn y cyflwyniad cyntaf, a chyflwynodd tair dadl allweddol ynghylch cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol, cydymffurfedd â chytundebau hawliau dynol rhyngwladol a hybu ymwybyddiaeth.
‘Yr achos o blaid y Ddeddf Hawliau Dynol’ oedd ymateb y comisiwn i’r ymgynghoriad cyntaf ar y Bil Hawliau a galwodd am gadw a datblygu’r holl hawliau a’r mecanweithiau yn y Ddeddf Hawliau Dynol.
Archwiliodd ‘The UK and European Court of Human Rights’(ECtHR) y berthynas rhwng y DU a’r ECtHR i ddarparu gwybodaeth gwell i wneuthurwyr penderfyniadau allweddol ar effaith yr ECtHR a’i ddyfarniadau ar y DU.
Nododd ‘Developing a Bill of Rights for the UK’egwyddorion allweddol y dylai danategu datblygiad Bil Hawliau.
Yn ogystal â chyflwyniadau ar y Bil Hawliau cwblhawyd nifer o ymgynghoriadau eraill a briffiau seneddol, gan gynnwys:
- Ymateb i ymgynghoriad: Papur Gwyrdd Cyfiawnder a Diogelwch
- Ymateb y Comisiwn i’r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol
- Ymchwiliad i’r Papur Gwyrdd Cyfiawnder a Diogelwch
- Ymateb i’r alwad am dystiolaeth: Bill Atal Terfysgaeth a Mesurau Ymchwilio Gwell ddrafft
- Ymateb i adroddiad y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol ar fyw’n annibynnol
- Briff Seneddol: Bil Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr
- Briff Seneddol: Bil Cyfiawnder a Diogelwch
Bu hawliau dynol domestig a rhyngwladol yn ganolog i’n cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddarnau deddfwriaeth a oedd ar fin ymddangos yn cwmpasu tai, gwasanaethau cymdeithasol a thaclo trais yn erbyn menywod. Mae’r Biliau hyn yn cynnig cyfle i roi egwyddorion hawliau dynol yng nghalon cyflenwi gwasanaeth yng Nghymru.
Mae Fforwm Rheoleiddwyr, Arolygwyr ac Ombwdsmon Hawliau Dynol yn anelu i arddangos sut y gall ymagwedd hawliau dynol helpu’r fforwm i fod yn fwy effeithiol. Mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r fframwaith hawliau dynol yn y gwaith bob dydd – wrth bennu penderfyniadau a datblygu a rhannu dysgu rhwng fforymau fel y bo ganddynt ddealltwriaeth well o sut y gall hawliau dynol ychwanegu at werth eu gwaith.
Yn dilyn cydweithio rhwng y Comisiwn a’r Swyddfa Safonau mewn Addysg newydd, mae ei fframwaith arolygu a’i chynllun cydraddoldeb gweithredol yn awr yn integreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol o ran arolygu ysgolion. Mae’r comisiwn wedi cydlunio canllaw gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal ar ddefnyddio cydraddoldeb a hawliau dynol i fesur perfformiad darparwyr ac mae’n cysylltu â Chomisiynydd Plant Lloegr i sicrhau gwaith effeithiol ar hawliau plant.
Mae’r maes rhyngwladol yn rhoi fframwaith gwerthfawr i ni ar gyfer helpu ymgorffori diwylliant hawliau dynol cryf ym Mhrydain. Mae ein haelodaeth o gyrff, megis Cyngor Hawliau Dynol y CU, cyrff cytundebau’r CU, Cyngor Ewrop, Llys Hawliau Dynol Ewrop a rhwydweithiau Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol yn agor sianeli pwysig i ddylanwadu ar hawliau dynol yn y wlad hon, yn ogystal â’r fframwaith rhyngwladol yn gyffredinol.
Cafodd y Comisiwn ei ad-achredu fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol statws ‘A’ yn 2010 am gyfnod o bum mlynedd. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf bu’r Comisiwn yn weithredol mewn nifer o feysydd yn ymwneud â chytundebau y mae’r DU wedi’u llofnodi:
Confensiwn ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod
Cyflwynodd y Comisiwn rhestr faterion i ofal cyfarfod gweithgor cyn sesiwn Pwyllgor y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW). Bydd y Comisiwn yn mynychu trydydd cyn sesiwn ar hanner cant y Pwyllgor a chyflwyno datganiad ar y restr o faterion i’w dethol ar gyfer archwiliad y DU ym mis Gorffennaf 2013.
Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol
Cyflwynodd y Comisiwn adroddiad cynhwysfawr i’r Pwyllgor yn erbyn Artaith cyn i’r ‘rhestr faterion’ gael ei hamlinellu. Cyflwynodd llywodraeth y DU ei Phumed Adroddiad Gwladwriaeth Cyfodol i’r Pwyllgor ym mis Awst 2011. Bydd yr archwiliad yn digwydd yn sesiwn hanner cant y Pwyllgor, yn Geneva ym mis Mai 2013.
Confensiwn dros Hawliau Pobl Anabl (UNCRPD)
Cytundeb hawliau dynol rhyngwladol yw’r UNCRPD i ddiogelu a hybu hawliau dynol pobl anabl ledled y byd. Cyflwynodd y llywodraeth ei hadroddiad cyntaf ar roi’r UNCRPD ar waith i’r Cenhedloedd Unedig ar 24 Tachwedd 2011. Mae’r Comisiwn wedi llunio diweddariad ar ei waith ar yr UNCRPD.
Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol
Cyflwynodd y Comisiwn adroddiad cysgodol i’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol ym mis Gorffennaf 2011. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw’r Pwyllgor at y materion allweddol y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn effeithio ar gydraddoldeb hiliol.
Ar 20 Medi cyflwynodd llywodraeth y DU ei hymateb i'r 132 o argymhellion a wnaeth y Cenhedloedd Unedig i wella hawliau dynol yn y wlad. Mae adroddiad Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y DU, a fabwysiadwyd ym mis Mai 2012, yn dweud bod rhaid i’r llywodraeth sicrhau bod plant, menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn cael eu diogelu rhag trais a gwahaniaethu. Hefyd, mae’r CU yn argymell bod yr hawliau a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, y Ddeddf Hawliau Dynol a chyfreithiau hawliau dynol rhyngwladol yn cael eu cadw a’u cyfnerthu.
Mae gwaith rhyngwladol allweddol arall yn cynnwys: darparu datganiadau llafar ac ysgrifenedig i’r Cyngor Hawliau Dynol; darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i ymchwiliad y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol ar fyw’n annibynnol yn ystod haf 2011; cyflwyno cyflwyniad i’r llywodraeth yn galw am gyflwyno’r model sylw dyledus yng Nghymru i roi’r Confensiwn ar Hawliau’r Plant ar waith yng ngwaith y llywodraeth: a mynychu a siarad yn nigwyddiadau rhanddeiliad rhyngwladol allweddol.
Last Updated: 12 Rhag 2014