Hybu etholiadau rhydd a theg

hand placing vote in ballot box

Mae’r Comisiwn wedi llunio canllaw sy’n egluro sut mae cyfraith gydraddoldeb a hawliau dynol yn berthnasol ac yn gweithredu yn ystod cyfnod etholiad ac fe’i cewch yma.

Mae Cyfraith Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ystod Cyfnod Etholiad yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n egluro sut y gellir gwneud cwynion a beth yw rôl rheolydd.

Bydd yn ddefnyddiol i uwch reolwyr awdurdodau lleol, swyddogion canlyniadau a’r heddlu. Dylai pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys ymgeiswyr a staff rhanbarthol ac etholaeth, ei gael yn ddefnyddiol hefyd, yn ogystal â’r cyhoedd.

Rydym hefyd wedi llunio canllaw sydd yn ymwneud â Fframwaith Cyfreithiol Rhyddid Mynegiant yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae Fframwaith Cyfreithiol Rhyddid Mynegiant yn egluro’r sail gyfreithiol dros ryddid mynegiant ac yn darparu cyngor ynglŷn â’i chyfyngiadau mewn cyd-destunau gwahanol.

Mae’n amlinellu troseddau yn gysylltiedig ag areithiau casineb a dedfrydu. Mae’n cwmpasu rhyddid mynegiant a’r cyfryngau ac mae’n egluro rôl rheolyddion.

Fe’i bwriedir ar gyfer ystod eang o bobl a sefydliadau sydd â diddordeb efallai o sut mae’r gyfraith yn rheoli ffurfiau mynegi difrïol posibl.

Mae hyn yn cynnwys seneddwyr, sefydliadau anllywodraethol, newyddiadurwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Last Updated: 05 Hyd 2015