Beth i’w wneud os ydych yn credu y gwahaniaethwyd yn eich erbyn

Os ydych yn credu fod rhywun wedi gwahaniaethu’n anghyfreithiol yn eich erbyn, eich aflonyddu neu eich erlid o ran y nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau, neu swyddogaethau cyhoeddus maen nhw’n eu darparu, neu gymdeithas maen nhw’n ei rhedeg, beth allwch chi wneud am hynny?

Mae rhan hon y canllaw hwn yn:

  • rhoi gwybod ichi beth yw eich dewisiadau
  • awgrymu sut gallwch benderfynu a oedd yr hyn a ddigwyddodd yn erbyn cyfraith cydraddoldeb
  • awgrymu ym mha ffyrdd y gallech ddatrys y sefyllfa gyda’r unigolyn neu sefydliad yn uniongyrchol
  • rhoi gwybod ichi ble i ddod o hyd i’r wybodaeth am yr hyn a elwir yn ddatrysiad anghydfod amgen (gofyn i rywun arall, ond nid llys, i ddatrys y sefyllfa)
  • esbonio’r weithdrefn gwestiynau, y gallwch ei defnyddio i gael mwy o wybodaeth gan unigolyn neu sefydliad os ydych yn credu fod rhywun wedi gwahaniaethu’n anghyfreithiol yn eich erbyn, eich aflonyddu neu eich erlid
  • esbonio rhai pwyntiau allweddol am drefniadau llys mewn achosion gwahaniaethu o ran hawliadau y tu allan i’r gweithle:
  • ble y dygir hawliadau
  • terfynau amser i wneud hawliad
  • safon a baich profi
  • beth gall y llys orchymyn unigolyn neu sefydliad i’w wneud
  • ble i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud hawliad mewn llys.

Eich dewisiadau

Mae tri pheth y gallwch eu gwneud:

  • Cwyno’n uniongyrchol i’r unigolyn neu sefydliad.
  • Defnyddio rhywun arall i’ch helpu i’w datrys (datrysiad anghydfod amgen).
  • Gwneud hawliad mewn llys.

Nid oes rhaid ichi ddewis dim ond un o’r rhain. Yn hytrach , gallech geisio pob un yn eu tro. Os nad yw’r cyntaf yn gweithio, gallech roi cynnig ar yr ail, ond os yw hwnnw hefyd yn aflwyddiannus, gallech wneud hawliad mewn llys.

Ond cofiwch, os penderfynwch wneud hawliad mewn llys, fod angen ichi ddweud wrth y llys am eich hawliad (trwy lenwi ffurflen a thalu ffi) o fewn chwe mis i’r hyn a ddigwyddodd.

Nid oes rhaid ichi fynd yn gyntaf at yr unigolyn neu sefydliad y credwch a wahaniaethodd yn eich erbyn neu a’ch aflonyddodd neu’ch erlid neu at unrhyw un arall cyn gwneud hawliad mewn llys.

Gallwch, os mynnwch, wneud hawliad mewn llys yn syth. Ond dylech feddwl yn ofalus os mai’r peth cywir ichi yw gwneud hawliad mewn llys.

Gallai gwneud hawliad ofyn am lawer o’ch amser a’ch emosiynau, a chyn cychwyn y broses efallai byddwch eisiau ystyried a oes gennych obaith o lwyddo. Efallai hefyd y byddwch eisiau gweld a oes ffyrdd gwell o ddatrys eich cwyn.

Rhagor o wybodaeth

Last Updated: 06 Hyd 2014