Addasiadau yn y gweithle

Er mwyn rhoi cydraddoldeb i bobl anabl, mae cyfraith cydraddoldeb yn cydnabod y bydd rhaid o bosib newid y ffordd y mae cyflogaeth yn cael ei strwythuro, symud rhwystrau corfforol a/neu ddarparu cymorth ychwanegol i weithwyr anabl.

Dyma’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Nod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yw sicrhau, cyn belled â fo’n rhesymol, bod gan weithiwr anabl yr un cyfle i wneud ei swydd ag sydd gan berson nad yw’n anabl.

Pan mae’r ddyletswydd yn codi, rydych yn rhwym i ddyletswydd bositif a rhagweithiol i gymryd camau i symud neu leihau neu atal y rhwystrau mae gweithiwr neu ymgeisydd swydd anabl yn ei wynebu.

Dim ond pan rydych yn ymwybodol – neu dylech fod yn rhesymol ymwybodol – bod anabledd gan weithiwr y mae rhaid ichi wneud addasiadau.

Ni fydd amryw o’r addasiadau y gallwch ei wneud yn hynod o ddrud, ac nid oes angen ichi wneud mwy na’r hyn sydd yn rhesymol ichi ei wneud. Mae’r hyn sydd yn rhesymol ichi ei wneud yn dibynnu ar, ymhlith ffactorau eraill, maint a natur eich sefydliad.

Petaech chi, fodd bynnag, yn gwneud dim a gall gweithiwr anabl ddangos y bod rhwystrau y dylech fod wedi’u nodi ac addasiadau rhesymol y dylech chi fod wedi’i wneud, gallan nhw gyflwyno achos gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth yn eich erbyn, ac efallai cewch eich gorchymyn i dalu iawndal iddynt yn ogystal â gwneud yr addasiadau rhesymol.

Yn arbennig, mae rhaid i’r angen i wneud addasiadau ar gyfer gweithiwr unigol:

  • beidio â bod yn rheswm i beidio â dyrchafu gweithiwr os mai hi/ef yw’r person gorau i’r swydd a’r addasiadau yn eu lle
  • beidio â bod yn rheswm i ddiswyddo gweithiwr
  • gael ei ystyried mewn perthynas â phob agwedd ar swydd gweithiwr
  • fod yn addasiadau rhesymol ichi ei wneud.

Bydd llawer o ffactorau yn gysylltiedig â phennu pa addasiadau i wneud a byddan nhw’n dibynnu ar amgylchiadau unigol. Bydd angen newidiadau gwahanol ar bobl wahanol, hyd yn oed os yw’n ymddangos y bod ganddyn nhw namau tebyg.

Byddai’n dda ichi drafod yr addasiadau gyda’r gweithiwr anabl, neu oni wnewch, efallai ni fydd yr addasiadau’n effeithiol.

Yng ngweddill yr adran hon, ceir manylion y ddyletswydd ac enghreifftiau o’r math o addasiadau y gallech ei wneud.

Mae'r tudalennau yn yr adran hon yn cynnwys:

Pa bobl anabl mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt?

Canfod os yw rhywun yn berson anabl

Tri gofyniad y ddyletswydd

Ydy pobl anabl mewn anfantais sylweddol?

Newidiadau i bolisïau a’r ffordd y mae eich sefydliad fel arfer yn gwneud pethau

Delio â rhwystrau corfforol

Darparu cymhorthion ac offer ychwanegol

Sicrhau bod addasiad yn effeithiol

Pwy sydd yn talu am addasiadau rhesymol?

Beth mae ‘rhesymol’ yn ei olygu

Addasiadau rhesymol ar waith

Sefyllfaoedd penodol

Am ragor o wybodaeth

Last Updated: 22 Chwef 2016