Hawliau Dynol ar Waith: Astudiaethau achos o reolyddion, arolygiaethau ac ombwdsmyn

Mae gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Rheolyddion, Arolygiaethau ac Ombwdsmyn (RIOs) rwymedigaeth i gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae cyfraith achos wedi egluro bod ganddynt hefyd rwymedigaethau cadarnhaol i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol wrth ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus.

Os yw awdurdod cyhoeddus (neu unrhyw sefydliad yn arfer swyddogaeth gyhoeddus) yn methu cydymffurfio â’r Ddeddf, gall person a effeithir gan y methiant hwnnw weithredu ar sail hyn yn llysoedd y Deyrnas Unedig. Felly, mae angen i bobl sy’n gweithio i RIOs ddeall hawliau dynol a’u cymryd i gyfrif yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Gall pobl sy’n arwain RIOs, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am osod polisïau ac arferion trefniadol, ddefnyddio’r canllaw hwn i weld sut y gall defnyddio deddfwriaeth hawliau dynol o bosib trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u cyflenwi.

Mae’r canllaw hwn yn cyflwyno astudiaethau achos gwirioneddol a ddarparwyd gan RIOs a fu’n gweithio i hyrwyddo cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau hawliau dynol mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Mae’r ffaith bod mwy o astudiaethau achos wedi’u darparu nag y gellir eu cynnwys yn y canllaw hwn yn dangos y defnydd ystod eang y mae rhai RIOs yn ei wneud eisoes o ddeddfwriaeth hawliau dynol i arwain eu harfer a gwella eu perfformiad.

Er bod y canllaw wedi’i anelu at y RIOs hynny sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr, cafwyd rhai astudiaethau achos o Ogledd Iwerddon a’r Alban lle mae profiad RIOs yn cynnwys gwersi perthnasol.

Dylid nodi nad yw’r canllaw hwn yn cynnwys (ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle) cyngor cyfreithiol.

Efallai hefyd y bydd RIOs am gyfeirio at ganllaw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar rwymedigaethau hawliau dynol awdurdodau lleol: Hawliau Dynol, Bywydau Dynol.

I bwy mae’r canllaw hwn?
Hawliau dynol wedi’u hegluro
Rhoi hawliau dynol ar waith – astudiaethau achos oddi ar RIOs
Fforwm RIO
Hawliau Dynol ar Waith: darllen pellach
**Lawr lwytho’r canllaw cyfan i’w ddarllen (ar gael mewn ffurf PDF a Word**


Cydnabyddiaethau

Rydym yn ddiolchgar i bob RIOs a gynigodd astudiaethau achos, ac i Sarah Cooke OBE a luniodd cynnwys y canllaw hwn. Mae’r canllaw hwn yn diwygio a diweddaru The Human Rights Framework as a Tool for Regulators and Inspectorates a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2009

Last Updated: 06 Maw 2015