Canllaw crefydd neu gred i gyflogwyr
Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Llys Hawliau Dynol Ewrop ei ddyfarniadau mewn pedwar achos cyfunol yn ymwneud â hawliau crefyddol yn y gweithle. Cafodd yr achosion eu cyflwyno gan Gristnogion, ond mae goblygiadau’r dyfarniadau yn berthnasol i gyflogeion ag unrhyw grefydd neu gred, neu sydd heb un. Mae’r dyfarniad yn effeithio ar gyfrifoldebau cyflogwyr ar gyfer polisïau ac arferion yn diogelu hawliau crefydd neu gred yn y gweithle, hawliau cyflogeion (yn cynnwys ymgeiswyr swydd) a hawliau cwsmeriaid.
Gall y dyfarniadau gael eu cyfeirio at Uwch Swyddfa Llys Hawliau Dynol Ewrop a’u hategu, gwrthdroi neu’u haddasu. Yn y cyfamser, rydym yn argymell y dylai cyflogwyr ddefnyddio’r canllawiau newydd isod sy’n cynnwys detholiad enghreifftiau o geisiadau, a sut y gallai cyflogwyr delio â nhw. Gallwch hefyd fwrw golwg ar yr adran Cwestiynau ac Atebion isod sy’n mynd i’r afael â chwestiynau allweddol i gyflogwyr.
Canllaw i Gyflogwyr
- Crefydd neu Gred yn y gweithle: canllaw i gyflogwyr yn dilyn dyfarniadau diweddar gan Lys Hawliau Dynol Ewrop (2013) (yn Saesneg)
- Crefydd neu Gred yn y gweithle: esboniad o ddyfarniadau diweddar gan Lys Hawliau Dynol Ewrop (2013) (yn saesneg)
- Datblygiad o ddiffiniad crefydd neu gred ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'i ailgynhyrchu â chaniatad Elizabeth Prochaska, Bargyfreithwraig, Matrix Chambers (www.matrixlaw.co.uk) (yn Saesneg)
Last Updated: 26 Awst 2014