Termau Hawliau Cyfartal cyffredin

Dyletswydd ddisgwylgar

I ddarparwyr gwasanaeth, dyletswydd ddisgwylgar yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol; o fewn rheswm, mae’n berthnasol i bob cwsmer anabl posibl ac nid i’r rheiny’n unig y mae’r darparwr gwasanaeth yn gwybod amdanynt.


Gwahaniaethu uniongyrchol

Pan gewch eich trin yn waeth na pherson arall neu bobl eraill oherwydd:

  • Bod nodwedd warchodedig gennych.
  • Mae rhywun yn meddwl bod nodwedd warchodedig gennych. Gwahaniaethu trwy ganfyddiad yw hyn. Neu
  • Rydych yn gysylltiedig â rhywun â’r nodwedd warchodedig honno. Gwahaniaethu trwy gysylltiad yw hyn.

Mae rhaid i’ch amgylchiadau fod yn ddigon tebyg i amgylchiadau’r person sy’n cael ei drin yn well er mwyn gallu gwneud cymhariaeth ddilys.

Os na allwch bwyntio at berson arall sydd wedi’i ei drin yn well, mae’n dal yn bod yn wahaniaethu uniongyrchol os gallwch ddangos y byddai person nad oedd eich nodwedd warchodedig ganddo wedi’i drin yn well, mewn amgylchiadau tebyg.

I fod yn gyfreithlon, mae rhaid i’r driniaeth fod wedi digwydd yn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb, e.e. yn y gweithle neu wrth i chi gael nwyddau neu wasanaethau.

Mae’n bosibl cael eich gwahaniaethu yn eich erbyn gan rywun sy’n rhannu’r un nodwedd warchodedig â chi.

Os ydych wedi’ch trin yn waeth oherwydd eich oedran, gellir efallai ganiatáu hyn os gall y sefydliad neu’r cyflogwr ddangos bod rheswm da dros y driniaeth wahanol (gweler cyfiawnhad gwrthrychol isod). Os cewch eich trin yn waeth oherwydd nodwedd warchodedig arall, gwahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon yw waeth a oes rheswm gan y sefydliad neu gyflogwr amdano.


Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

Pan fo person anabl o dan anfantais sylweddol mewn cymhariaeth â phobl nad ydynt yn anabl, mae dyletswydd i gymryd camau rhesymol i ddileu’r anfantais hwnnw trwy (i) newid darpariaethau, meini prawf neu arferion, (ii) altro neu ddileu nodwedd gorfforol neu ddarparu modd gwahanol rhesymol i osgoi’r nodwedd a (iii) darparu cymhorthion ategol.

Dylai addasiad, cyn belled ag y bo’n bosibl, ddileu unrhyw anfantais a wynebir gan weithiwr neu ddefnyddiwr gwasanaeth anabl etc neu’i leihau.

Boed a yw addasiad yn rhesymol yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau gan gynnwys:

  • Pa mor effeithiol fydd y newid wrth osgoi’r anfantais y byddech fel arall yn ei brofi oherwydd eich anabledd.
  • Pa mor ymarferol yw i’r sefydliad ei wneud.
  • Y gost.
  • Adnoddau a maint y sefydliad.
  • A oes cymorth ariannol ar gael i helpu’r sefydliad ei wneud.

Yn y bôn, prawf gwrthrychol yw’r prawf o’r hyn sy’n rhesymol ac nid mater yn unig o’r hyn yr ydych chi’n bersonol yn meddwl sy’n rhesymol.


Aflonyddu

Ymddygiad nas dymunir yw aflonyddu yr ydych yn ei gael yn dramgwyddus a lle mai’r rheswm dros ymddygiad y person arall yw:

  • eich nodwedd warchodedig.
  • unrhyw gysylltiad â nodwedd warchodedig (er enghraifft, cewch eich trin fel bo nodwedd arbennig gennych, hyd yn oed pan fo’r person arall yn gwybod nad yw hynny’n wir).

Gallai ymddygiad nas dymunir gynnwys camdriniaeth lafar neu ysgrifenedig, e-byst tramgwyddus, trydar neu sylwadau difrïol ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, a delweddau a graffiti, ystumiau corfforol, mynegiadau wynebol a chellwair sy’n dramgwyddus i chi.

Mae unrhyw beth nad ydych yn ei groesawu yn rhywbeth nas dymunir. Nid oes angen i chi fod wedi’i wrthwynebu eisoes.

Mae rhaid i’r ymddygiad nas dymunir fod â’r diben neu effaith o dreisio eich urddas neu greu amgylchedd diraddiol, cywilyddus, gelyniaethus, ymosodgar neu dramgwyddus i chi.

I fod yn anghyfreithlon, mae rhaid i’r driniaeth ddigwydd yn un o’r sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb, e.e. yn y gweithle neu wrth gael nwyddau neu wasanaethau.


Gwahaniaethu anuniongyrchol

Yn gryno, digwydd gwahaniaethu anuniongyrchol pan fo polisi sy’n berthnasol yn yr un modd i bawb ond sydd ag effaith sy’n rhoi grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais, ac rydych chi fel rhan o’r grŵp hwn wedi’ch rhoi o dan anfantais. Os digwydd hyn, mae rhaid i’r person neu sefydliad sy’n gweithredu’r polisi ei gyfiawnhau.

Gall ‘polisi’ gynnwys arfer, rheol neu drefniant.

Nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth a oedd rhywun yn bwriadu i’r polisi eich rhoi o dan anfantais neu beidio.

Gan edrych ar wahân ar bob elfen sydd ei angen i sefydlu gwahaniaethu anuniongyrchol:

  • mae rhaid i bolisi fodoli y mae sefydliad yn ei weithredu’n gyfartal i bawb (neu i bawb mewn grŵp sy’n eich cynnwys chi) ac
  • mae rhaid i’r polisi roi pobl â’ch nodwedd warchodedig o dan anfantais mewn cymhariaeth â phobl heb y nodwedd honno, ac
  • mae rhaid i chi allu dangos ei fod wedi’ch rhoi yn bersonol o dan anfantais neu bydd yn eich rhoi o dan anfantais, ac
  • na all y sefydliad ddangos fod rheswm da dros weithredu’r polisi ar waethaf y graddau mae’n rhoi pobl â’ch nodwedd warchodedig o dan anfantais (a elwir fel cyfiawnhad gwrthrychol). Os gall y sefydliad gyfiawnhau ei bolisi, nid gwahaniaethu anuniongyrchol yw.

Cyfiawnhad gwrthrychol

Mae ‘Cyfiawnhad gwrthrychol’ yn darparu amddiffyniad ar gyfer gweithredu polisi a fyddai fel arall yn wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon. Mae hefyd yn darparu amddiffyniad dros ddefnyddio rheol neu arfer yn seiliedig ar oedran a fyddai fel arall yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran.

I ddibynnu ar amddiffyniad y 'cyfiawnhad gwrthrychol', mae rhaid i’r cyflogwr neu’r darparwr gwasanaeth neu sefydliad arall ddangos bod rheswm da dros ei bolisi (neu reol yn seiliedig ar oedran) – h.y. 'modd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon'.

Rhai pwyntiau allweddol:

  • rhaid i’r nod fod yn ystyriaeth ddilys wrthrychol, ac nid o’i hunan yn wahaniaethol. Er enghraifft, byddai sicrhau iechyd a diogelwch eraill yn nod cyfreithlon.
  • Os mai gostwng costau yn unig yw amcan y nod oherwydd ei bod yn rhatach i wahaniaethu, ni fydd hyn yn gyfreithlon.
  • Mae gweithio allan a yw’r modd yn ‘gymesur’ yn ymarfer cydbwyso. A yw pwysigrwydd y nod yn gorbwyso unrhyw effeithiau gwahaniaethol triniaeth anffafriol?
  • Mae rhaid sicrhau nad oes unrhyw fesurau gwahanol ar gael a fyddai’n cyflawni’r nod heb lawer gormod o anawsterau ac y byddai’n osgoi effaith wahaniaethol o’r fath. Pe gellid fod wedi cymryd camau cymesur gwahanol, mae’n annhebygol y gellid cyfiawnhau’r polisi (neu reol yn seiliedig ar oedran).

Gofyniad galwedigaethol

Pan fo bod â nodwedd warchodedig yn ofyniad galwedigaethol, gellir neilltuo rhai swyddi i bobl â’r nodwedd warchodedig honno (e.e. Gweithwyr cymorth benywaidd mewn noddfeydd i fenywod; gweinidogion crefydd).

Fodd bynnag rhaid i’r sefydliad allu dangos bod gweithredu’r gofyniad galwedigaethol yn fodd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon (gweler cyfiawnhad gwrthrychol uchod).


Camau cadarnhaol

Yn y gweithle, camau yw’r rhain y gall cyflogwr eu cymryd i annog pobl o grwpiau yn rhannu nodwedd warchodedig sydd ag anghenion gwahanol neu hanes o fod dan anfantais neu gyfranogiad isel – er enghraifft, i geisio am swyddi neu’u datblygu ar gyfer dyrchafiad. Gallai’r camau hyn gynnwys darparu profiad gwaith, mentora neu hyfforddiant.

Pan fo sefydliad yn darparu gwasanaethau, camau yw’r rhain y gall gymryd i alluogi neu annog pobl o grwpiau sy’n rhannu nodwedd warchodedig i gyfranogi, neu orchfygu anfantais arbennig y maent dani. Mae camau cadarnhaol yn gyfreithlon os oes tystiolaeth o angen - er enghraifft, mae lefel cyfranogiad gan bobl o’r grŵp hwnnw yn is na ellid ei ddisgwyl yn rhesymol.

Yn y ddau achos mae rhaid i’r camau a gymerwyd fod yn fodd cymesur o gyflawni un o’r nodau cyfreithlon hyn (gweler cyfiawnhad gwrthrychol).


Y gweithle

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diogelu rhag gwahaniaethu yn y gweithle pan rydych:

  • Yn ymgeisio am swydd.
  • Yn cael cynnig swydd ar delerau ac amodau arbennig.
  • Yn ceisio cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a dyrchafiad.
  • Yn ceisio cael mynediad i fuddion yn gysylltiedig â gwaith.
  • Yn mynd trwy weithdrefnau disgyblu/cwyno .
  • Yn delio â’ch amgylchedd gwaith.
  • Yn cael eich diswyddo neu’n colli’ch swydd.
  • Yn ceisio am neu’n cael geirdaon swydd.

Erledigaeth

Trin rhywun yn wael oherwydd ei fod wedi cyflawni ‘gweithred warchodedig’ (neu oherwydd bod cyflogwr neu ddarparwr gwasanaeth neu sefydliad arall yn credu eich bod wedi cyflawni neu’n mynd i gyflawni gweithred warchodedig). Nid oes angen i’r rheswm dros y driniaeth fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig.

‘Gweithred warchodedig’ yw:

  • Gwneud hawliad neu gwyno am wahaniaethu (o dan y Ddeddf Cydraddoldeb).
  • Helpu rhywun arall i wneud hawliad drwy roi tystiolaeth neu wybodaeth.
  • Honni eich bod chi neu rywun arall wedi mynd yn groes i’r Ddeddf.
  • Gwneud unrhyw beth arall yn gysylltiedig â’r Ddeddf.

Last Updated: 19 Hyd 2015