Newidiadau i’r fframwaith hawliau dynol

Mae’r llywodraeth heddiw wedi cyhoeddi yn Araith y Frenhines ei bod yn bwriadu dod â chynigion ymlaen ar gyfer disodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gan Ddeddf Hawliau Dynol Prydeinig. Dywedodd y llywodraeth hefyd y byddai’n diogelu hawliau sydd eisoes yn bodoli, sy’n gam i’w groesawu.

Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu a hybu hawliau dynol. Mae gennym hefyd fandad gan y Senedd i hybu dealltwriaeth o bwysigrwydd hawliau dynol, ac i gynghori llywodraeth am effaith debygol newidiadau arfaethedig i’r gyfraith.

Mae’r Comisiwn bob amser wedi dweud na ddylai unrhyw newidiadau i’r fframwaith cyfreithiol wanhau’r diogelwch hawliau dynol yr ydym oll yn ei fwynhau. Rydym yn croesawu trafodaeth ar y fath fater pwysig ac rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygu syniadau, ond ni fyddem yn cefnogi gwrthdroi rôl byd eang arweiniol Prydain wrth ddiogelu a hybu hawliau dynol.

Fel y corff arbenigol cenedlaethol, byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r llywodraeth wrth i’r cynigion gael eu datblygu, a byddem yn disgwyl i gael cymryd rhan lawn mewn unrhyw ymgynghori. Wrth i fanylion pellach ddod i law, byddwn yn parhau i ddarparu dadansoddiad o’u goblygiadau.

Y datblygiadau diwethaf

Fe wnawn sicrhau fod gan yr adran hon yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynigion, y broses seneddol a’n hymateb.

8 Mehefin 2015 – Llythyr i Bwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig

Ysgrifennom lythyr ar y cyd â Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban. Ynddo, ailadroddom rai agweddau pwysig y Ddeddf Hawliau Dynol, a’n cred na ddylai unrhyw newid fod yn gam yn ôl a dylai fod yn ganlyniad proses gyhoeddus gynhwysol. Mae’r llythyr yn mynd gyda’n hadroddiad ar weithrediad y Deyrnas Unedig o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol.

4 Mehefin 2015 – Trafodaethau Seneddol ar Araith y Frenhines

I weld yr hyn y mae seneddwyr wedi dweud hyd yn hyn am gynlluniau’r llywodraeth, gallwch ddarllen trawsgrifiadau o’r trafodaethau ar Araith y Frenhines yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Tŷ’r Arglwyddi

Dadl Araith y Frenhines: Y diwrnod cyntaf - 27 Mai 2015
Yr ail ddiwrnod - 28 Mai, yr ail ddiwrnod wedi'i barhau
Y trydydd diwrnod - 1 Mehefin, 3ydd diwrnod wedi'i barhau
Y pedwerydd diwrnod - 3 Mehefin

Tŷ’r Cyffredin

Dadl ar yr Anerchiad: diwrnod 1af - 27 Mai 2015
ail ddiwrnod (Materion Cartref a Chyfiawnder) 28 Mai
3ydd diwrnod (Prydain yn y Byd) 1 Mehefin

Cwestiynau’r Prif Weinidog: 3 Mehefin 2015

27 Mai 2015 – Araith y Frenhines

Yn Araith y Frenhines i’r Senedd, a chyfarwyddiadau cysylltiedig, dywedodd Llywodraeth y DU:
“y byddai’n cyflwyno cynigion ar gyfer disodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gan Fil Hawliau. Byddai hyn yn diwygio a moderneiddio ein fframwaith cyfreithiol ar hawliau dynol a dod â synnwyr cyffredin yn ôl at gymhwyso deddfau hawliau dynol. Byddai hefyd yn diogelu hawliau sy’n bodoli eisoes, sy’n rhan hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd, fodern, ac yn diogelu’n well rhag cam-drin y system a chamddefnyddio deddfau hawliau dynol”.

Llythyr i’r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol

Ar 18 Mawrth 2015 ysgrifennodd ein Cadeirydd a’n Prif Weithredwr at Gadeirydd y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol. Pwysleisiodd ein llythyr ddiogelwch hanfodol hawliau yr ydym oll yn eu mwynhau ac sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Hawliau Dynol, a rhybuddiodd na ddylai unrhyw newidiadau i’r fframwaith cyfreithiol wanhau’r diogelwch hwn. Hefyd aeth i’r afael â nifer o bryderon a dryswch ynglŷn â’r ffordd y caiff y Ddeddf Hawliau Dynol ei gweithredu. Gallwch ddarllen y llythyr fan hyn. (yn Saesneg)

Dolenni cysylltiedig

Beth yw hawliau dynol

Sut mae hawliau dynol yn gweithio

Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae Deddf Hawliau Dynol yn amddiffyn hawliau pawb yn y DU, drwy ymgorffori’r hawliau sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ein system gyfreithiol.

Comisiwn ar Fil Hawliau 2011. Sefydlodd y Llywodraeth flaenorol Gomisiwn annibynnol ar Fil Hawliau ym mis Mawrth 2011, i ystyried a ddylid creu Bil Hawliau newydd i’r DU.

Last Updated: 10 Meh 2015