Deddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi’i ymateb i’r Comisiwn ar y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig, Yr achos o blaid y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’r ymateb yn darparu dadansoddiad a thystiolaeth o pam y dylid cadw holl fecanweithiau’r Ddeddf Hawliau Dynol (DHD). Hefyd, rydym yn dadlau mai canolbwyntio ar wella dealltwriaeth a chymhwysiad y DHD y dylid ei wneud, yn hytrach na diddymu’r ddeddf.
Barn y Comisiwn yw bod y DHD yn darparu diogelwch hanfodol i unigolion rhag troseddau hawliau dynol, a bod rhaid ei diogelu a’i chadw. Mae’r DHD wedi’i saernïo’n ofalus i gydbwyso rhwymedigaethau rhyngwladol Prydain â’n confensiynau cyfansoddiadol. Yn arbennig, mae’n sicrhau sofraniaeth y senedd a rhan sylfaenol i farnwyr wrth ddehongli’r Confensiwn.
Bydd y Comisiwn yn llunio dau ymateb pellach i’w cyflwyno i’r Comisiwn ar y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf:
- Cyflwyno sylwadau ar ba hawliau dynol ychwanegol o bosibl y byddai angen eu hymgorffori yn ein cyfraith ddomestig y tu hwnt i’r rheiny sydd eisoes yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
- Cyflwyno sylwadau o ran swyddogaeth a diwygiad y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
Ar 18 Mawrth 2011, sefydlodd y llywodraeth Gomisiwn annibynnol ar y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig. Mae’r cylch gorchwyl a ganlyn ganddo:
"Bydd y Comisiwn yn ymchwilio i gread y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig sy’n ymgorffori ac yn ychwanegu at ein holl rwymedigaethau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Bydd y ddeddf hefyd, yn sicrhau bod yr hawliau hyn yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig, yn diogelu ac ehangu’n rhyddfreiniau.
Bydd yn ymchwilio i sut mae’r rhwymedigaethau hyn yn cael eu gweithredu a’u rhoi ar waith, ac yn ystyried dulliau i hyrwyddo dealltwriaeth well o hyd a lled wirioneddol y rhwymedigaethau a’r rhyddfreiniau hyn.
Dylai ddarparu cyngor dros dro i’r Llywodraeth ar y broses Interlaken, sy’n dal i fynd yn ei flaen i ddiwygio llys Strasbourg cyn ac yn dilyn Cadeiryddiaeth y Deyrnas Unedig o Gyngor Ewrop.
Dylai ymgynghori gyda’r cyhoedd, y farnwriaeth, cyrff deddfwriaethol a gweinyddiaethau datganoledig, ac anelu i adrodd erbyn diwedd 2012 fan pellaf."
Hefyd, gallwch adolygu’n hymchwil a’n hymatebion blaenorol o ran y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig, isod.
- Drafftio Deddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig- adroddiad ymchwil
- Ymateb i Bapur Gwyrdd y Llywodraeth flaenorol ar y Ddeddf Hawliau Dynol i’r Deyrnas Unedig arfaethedig a Chyfrifoldebau
Last Updated: 16 Gorff 2009