Gwaith cyn gorfodi

Wrth wynebu achosion o dorri deddfwriaeth cydraddoldeb, mae gan y Comisiwn, yn ei rôl fel rheolydd statudol, ystod eang o arfau wrth law. Bydd y Comisiwn yn anelu at ddewis dull gorfodi sy’n berthnasol ac yn gymesur i achos penodol o dorri’r ddeddfwriaeth.

Fel cam cyntaf, mae’r Comisiwn yn gobeithio datrys problemau cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb drwy weithredu’n anffurfiol a gweithio ar y cyd. Mae’r Comisiwn yn awyddus i ddilyn unrhyw ffyrdd posibil o gytuno’n anffurfiol i amserlen o gamau adfer, ac osgoi defnyddio camau gorfodi ffurfiol. Fel arfer ni ddefnyddir gorfodaeth gyfreithiol oni bai i gamau anffurfiol o’r fath fethu ar sicrhau cydymffurfiaeth.

Ni fydd y Comisiwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi ffurfiol oni bai i ymdrechion i annog cydymffurfiaeth fethu. Bydd y Comisiwn yn ymdrechu i hyrwyddo cydymffurfiaeth fel yr opsiwn ffafriol drwy gamau cyn gorfodi. Gallai camau o’r fath gynnwys:

  • Gweithio gyda sefydliadau i sicrhau y gellir cymryd camau adferol neu ataliol
  • Rhoi arweiniad a chyngor penodol i sefydliad.
  • Cynnal cyfarfodydd gydag uwch reolwyr a staff eraill
  • Heb adael y ddesg gwaith, ymgymryd ag adolygiadau ar wybodaeth a ddarparwyd gan sefydliadau, a rhoi adborth
  • Cyfnewid gwybodaeth berthnasol gyda rheolyddion a chyrff gorfodi’r gyfraith eraill

Yn ogystal â’n gwaith cyn gorfodi cyffredinol, rydym yn ymgymryd â gwaith cyn gorfodi mewn perthynas â dau faes penodol o fewn ein cylch gwaith. Hysbysebion gwahaniaethol ac ymholiadau ynglŷn ag anabledd ac iechyd yn y cam cyn cyflogaeth yw’r rhain.

Ar y cyfan, mae’n holl waith cyn gorfodi yn aros yn gyfrinachol, ac fe’i gwneir ar y cyd.

Enghreifftiau o waith cyn-gorfodi cyffredinol

  • Yng ngorsaf drên ganolog Telford darllenodd aelod staff y trên gyhoeddiad yn uchel yn rhybuddio teithwyr rhag ‘Pigwyr Pocedi a Sipsiwn’ yn yr ardal. Ysgrifennodd y Comisiwn at London Midland i ganfod pa gamau yr oeddent wedi’u cymryd i archwilio’r achos, a pha hyfforddiant cydraddoldeb roedd ei staff wedi’i gael. Atebodd y London Midland gan ymddiheuro am y cyhoeddiad a chadarnhau ei bod wedi archwilio i’r achos yn drylwyr, bod y staff i gyd yn cael hyfforddiant cydraddoldeb a bod y person dan sylw wedi gadael y cwmni bellach.
  • Dywedwyd wrth fenywod yn Stamford Hill nad oeddent wedi cael caniatâd i yrru eu plant i’r ysgol. Daeth y dyfarniad llym gan rabiniaid yn perthyn i sect Iddewig yn Stamford Hill, yng ngogledd Llundain sy’n rhedeg yr ysgol. Dywedwyd wrth y mamau y cai’u plant eu gwahardd o’r ysgol fel cosb, pe byddent yn eu gyrru i’r ysgol, oni bai fod rhesymau meddygol dros iddynt fod wrth lyw eu car. Ysgrifennodd y Comisiwn at yr ysgol dan sylw i’w cynghori ynglŷn â’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Cafodd y Comisiwn ymrwymiad gan y llywodraethwyr ‘na fyddent yn gwahardd neu’n gwrthod derbyn unrhyw blentyn neu ddefnyddio unrhyw gosb arall oherwydd bod ei mam/ei fam yn gyrru".
  • Ni allai cwpl o’r un rhyw neilltuo gwyliau o’u dewis oherwydd nad oedd telerau ac amodau’r gwasanaeth yn caniatáu ceisiadau gan grwpiau o ddynion dan 25 oed na grwpiau o ferched dan 25 oed. Er mai bwriad y polisi hwn oedd rhwystro partïon i ddynion a menywod cyn priodi, cafodd y gair ‘Grŵp’ ei ddiffinio fel cynnwys cyplau o’r un rhyw. Cysylltodd y Comisiwn â Phrif Weithredwr y cwmni a gytunodd i newid y cyfyngiadau yn syth a oedd yn ymwneud ag ymgyrchoedd hyrwyddo gwyliau y mae ei gwmni yn gyfrifol amdanynt, ac addawodd i newid y system neilltuo gwyliau fel yr adnabyddir cyplau o’r un rhyw fel teulu.
  • Roedd Heddlu’r Metropolitan wedi anfon e-bost at drigolion a chyrff amrywiol ym Mwrdeistref Ealing yn Llundain ynglŷn â ‘defnydd symbolau sialc a adawyd y tu allan i dai a fwrglerwyd gan fyrgleriaid Sipsiwn a Theithwyr’. Gofynnodd y Comisiwn i Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu ar ba dystiolaeth y cafodd yr honiad hwn ei seilio. Cadarnhaodd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu nad oedd un gronyn o dystiolaeth o gwbl o gysylltiad â Sipsiwn a Theithwyr. Cadarnhaodd grŵp cudd-ymchwil yr heddlu hwn hefyd fel ‘chwedl drefol’. Mae’r gymdeithas wedi dosbarthu’r wybodaeth hon ynglŷn â’r symbolau ar draws holl luoedd yr heddlu.
  • Roedd ‘Warm Home Scheme’ yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd (DECC) a grëwyd i ostwng biliau trydan i’r bobl mwyaf tlawd a phobl mwyaf bregus wedi eithrio Sipsiwn a Theithwyr, na allai gael mynediad i’r cynllun oherwydd nad oedd eu henwau ar y cyfrif trydan. Ysgrifennodd y Comisiwn at y DECC i ofyn am gyfarfod rhwng y DECC, y Comisiwn a chynrychiolwyr Mudiad y Teithwyr. Yn dilyn cyfarfod adeiladol gyda’r DECC, maent bellach yn adolygu gweithrediad y polisi ac yn ystyried ffyrdd i gynnwys tai Sipsiwn a Theithwyr a thai parc yn y cynllun, drwy o bosib ddarparu talebau arian parod.

Enghreifftiau o waith cyn gorfodi mewn perthynas â hysbysebion gwahaniaethol

  • Roedd siop fwyd fechan wedi hysbysebu am ddyn i weithio fel cynorthwyydd. Daeth yn amlwg eu bod yn meddwl bod dyn yn well i’r rôl gan ei bod ar gyfer y nos. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Comisiwn fe wnaethant gytuno i ddarparu hyfforddiant i bob staff a oedd yn gyfrifol dros recriwtio.
  • Roedd cyflogwr yn hysbysebu am ddyn i weithio iddo. Pan gysylltodd y Comisiwn ag ef, dywedodd mai’r rheswm am hyn oedd y dodrefn tai yr oeddent yn eu symud ledled y wlad, ac i arbed arian byddent yn cysgu ar y gwely bync yn y fan y byddai rhaid iddynt wedyn ei rannu. Mae e wedi dileu’r hysbyseb ac wedi’n sicrhau y byddai tro nesaf yn egluro am y cyfyngiad yn yr hysbyseb.

Enghreifftiau o waith cyn gorfodi mewn perthynas ag ymholiadau ynglŷn ag anabledd ac iechyd yn y cam cyn cyflogaeth

  • Roedd asiantaeth recriwtio fechan a oedd yn bennaf yn recriwtio ar gyfer swyddi gwag yn y diwydiant paratoi bwyd ac ar gyfer gwaith mewn warysau (yn aml yn ymwneud â gweithio gyda pheiriannau a thrin wagenni fforch godi) yn gofyn i ymgeiswyr a oedd yn dymuno cofrestru gyda’r asiantaeth i lenwi holiadur iechyd (cyn i geisiadau’r ymgeiswyr gael eu prosesu a’u derbyn). Roedd llawer o’r cwestiynau’n generig eu natur ac yn ymwneud ag iechyd yr ymgeiswyr ar y pryd ac yn y gorffennol. Roedd y ffurflen hefyd yn cynnwys datganiad yn gofyn i ymgeiswyr ganiatáu iddynt ddatgelu gwybodaeth feddygol amdanynt i gleientiaid posibl at bwrpas cyflogaeth. Ar ôl ymgysylltu â’r Asiantaeth ynglŷn â’i rhwymedigaethau o dan Adran 60 a chymryd eithriadau perthnasol i gyfrif, cytunodd i newid amserlen yr holiadur iechyd fel y’i danfonir allan at ymgeiswyr yn dilyn cynnig amodol o gyflogaeth/mynediad i’r gronfa cyflogaeth. Cytunodd hefyd i ail strwythuro’r holiadur i fodloni anghenion penodol y swydd a hysbysebwyd, gan gofio swyddogaethau hanfodol y swydd a chydymffurfiaeth ag unrhyw ddeddfwriaethau eraill h.y. iechyd a diogelwch a/neu ddeddfwriaeth hylendid bwyd etc
  • Roedd cwmni peirianneg yn gofyn cwestiynau iechyd cyn cyflogaeth ar ei ffurflen gais safonol; roedd y rhain yn cynnwys cwestiynau megis a oedd yr ymgeisydd yn mwynhau iechyd da, wedi dioddef unrhyw salwch neu lawdriniaeth fawr ac i ddatgelu unrhyw hawliadau yn erbyn cyn cyflogwyr am anafiadau. Roedd yn gofyn iddynt hefyd ddarparu dyddiadau a rhesymau dros bob ymweliad ag ysbyty a meddyg teulu yn ystod chwe mis blaenorol eu cyflogaeth. Heblaw hynny, gofynnwyd cwestiynau i’r ymgeiswyr a allai godi hawliad o wahaniaethu, er enghraifft, oedran eu plant ac enwau’u gwragedd. Ar ôl tynnu sylw at eu rhwymedigaethau o dan Adran 60, a’r ffaith y gallai rhai o’u cwestiynau yn ymwneud â manylion personol ymgeiswyr godi hawliad o wahaniaethu, dileodd y cwmni pob cwestiwn a oedd ar y ffurflen yn ymwneud ag iechyd ynghyd â nifer o gwestiynau o’r adran manylion personol h.y. enw’r wraig, oedran y plant.

Last Updated: 19 Tach 2015