Gwahaniaethu hiliol

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil.
Yn y Ddeddf Cydraddoldeb gall hil olygu eich lliw, neu eich cenedligrwydd (gan gynnwys eich dinasyddiaeth). Gall hefyd olygu eich gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, nad yw efallai'r un un â’ch cenedligrwydd presennol. Er enghraifft, efallai eich bod o dras Tsieineaidd ac yn byw ym Mhrydain gyda phasbort Prydeinig.
Mae hil hefyd yn cynnwys grwpiau ethnig a hiliol. Mae hyn yn golygu grŵp o bobl sy’n rhannu’r un nodweddion gwarchodedig o ethnigrwydd neu hil.
Gall grŵp hiliol fod yn perthyn i ddau neu fwy o grwpiau hiliol penodol, er enghraifft Duon Brydeinig, pobl Asiaidd Brydeinig, pobl Sicaidd Brydeinig, Iddewon Prydeinig, Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig.
Efallai cewch eich gwahaniaethu oherwydd un agwedd neu fwy o’ch hil, er enghraifft gallai pobl a gafodd eu geni ym Mhrydain i rieni Iddewig gael eu gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu bod yn ddinasyddion Prydeinig, neu oherwydd eu tras Jamaicaidd.


Beth yw gwasanaethu hiliol?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich hil o ran sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai’r driniaeth fod yn un unwaith ac am byth neu yn sgil rheol neu bolisi yn seiliedig ar hil.

Mae rhai amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd hil yn gyfreithlon, ac fe’i heglurir isod.


Mathau gwahanol o wahaniaethu hiliol

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu hiliol.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich hil.

  • Er enghraifft, pe bai asiantaeth rhentu yn gwrthod fflat i chi oherwydd eich hil, byddai hyn yn wahaniaethu hiliol uniongyrchol.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Pan fo gan sefydliad bolisi neu ffordd benodol o weithio sy’n rhoi pobl o’ch grŵp hiliol chi o dan anfantais.

  • Er enghraifft, mae triniwr gwallt yn gwrthod cyflogi cynllunwyr gwallt sy’n cuddio eu gwallt eu hunain. Byddai hyn yn rhoi unrhyw fenywod Mwslimaidd neu ddynion Sikh sy’n cuddio eu gwallt o dan anfantais wrth geisio am swydd cynllunydd gwallt.

Weithiau gellir caniatau gwahaniaethu hiliol anuniongyrchol os gall y sefydliad neu gyflogwr ddangos fod rheswm da dros y gwahaniaethu. Cyfiawnhad galwedigaethol yw hyn.

  • Er enghraifft, mae ceisiwr lloches o Somalia yn ceisio agor cyfrif banc ond mae’r banc yn dweud bod rhaid i rywun breswylio yn y DU am ddeuddeng mis a bod â chyfeiriad sefydlog cyn i rywun fod yn gymwys i agor cyfrif. Nid yw’r dyn o Somalia yn gallu agor cyfrif banc. Byddai angen i’r banc brofi bod ei bolisi yn angenrheidiol ar gyfer rhesymau busnes (megis i atal twyll) ac nad oedd dewis ymarferol amgen arall.

Aflonyddu

Mae aflonyddu’n digwydd pan gewch eich cywilyddio, tramgwyddo neu ddiraddio.

Er enghraifft, mae cydweithwyr dyn Asiaidd Prydeinig ifanc yn ei gyfarch o hyd ag enw hiliol. Mae ei gydweithwyr yn dweud mai cellwair yn unig yw, ond mae’r cyflogai wedi’i sarhau a’i wylltio ganddo.

Ni ellir fyth cyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth a all i atal pobl rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch wneud hawliad o aflonyddu yn ei erbyn, er gallech wneud hawliad yn erbyn y tramgwyddwr.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd eich bod wedi cwyno o gael eich gwahaniaethu’n hiliol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi cwyno am wahaniaethu hiliol.

Er enghraifft, mae’r dyn ifanc yn yr enghraifft uchod am wneud cwyn ffurfiol am ei driniaeth. Mae ei reolwr yn bygwth i’w ddiswyddo oni bai iddo dynnu’r achwyniad yn ôl.


Amgylchiadau pan fo trin rhywun yn wahanol oherwydd hil yn gyfreithlon

Gallai gwahaniaeth mewn triniaeth fod yn gyfreithlon mewn sefyllfaoedd cyflogaeth os:

  • Yw perthyn i hil benodol yn hanfodol i’r swydd. Gofyniad galwedigaethol yw hyn. Er enghraifft, mae sefydliad am recriwtio gweithiwr cymorth i wasanaeth cyngor o ran trais domestig i fenywod De Asiaidd. Gall y sefydliad ddweud ei fod am gyflogi rhywun o dras De Asiaidd yn unig.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog a meithrin pobl o grŵp hiliol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu o dan anfantais mewn rôl neu weithgaredd. Er enghraifft, nid yw darlledwr yn cael ymgeiswyr Du Caribïaidd o’r braidd i’w raglen recriwtio graddedigion. Mae’n sefydlu rhaglen profiad gwaith a mentora i fyfyrwyr Du Caribïaidd i’w hannog i’r diwydiant.

Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015