Ffynonellau gwybodaeth a chyngor ychwanegol

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

O 1 Hydref 2012 cafodd llinell gymorth y Comisiwn ei disodli gan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Canfod mwy ar y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084

Oriau ar agor:
09:00 i 20:00 ddydd Llun i ddydd Gwener
10:00 i 14:00 ddydd Sadwrn
Ar gau ddydd Sul a Gwyliau'r Banc

Post: RHADBOST Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb FPN4431

Advicenow

Gwefan annibynnol, dielw sy’n darparu gwybodaeth gywir, gyfredol ar broblemau ynghylch hawliau a phroblemau cyfreithiol.

Gwefan: www.advicenow.org.uk

Advice UK

Rhwydwaith ledled y DU o sefydliadau sy’n darparu cyngor. Nid ydynt yn rhoi cyngor eu hunain, ond mae gan y wefan gyfeiriadur o asiantaethau sy’n rhoi cyngor.

Gwefan: www.adviceuk.org.uk

E-bost: [email protected]

Ffôn: 020 7469 5700

Ffacs: 020 7469 5701

Cyngor ar Bopeth:

Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol ac annibynnol yng Nghymru a Lloegr. Mae cyngor ar gael wyneb yn wyneb ac ar y ffôn. Mae’r rhan fwyaf o ganolfannau’n cynnig ymweliadau cartref ac mae rhai’n darparu cyngor drwy e-bost. I dderbyn cyngor, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol, y gellir dod o hyd iddi drwy fynd i’r wefan.

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

Ffôn: (gweinyddu’n unig) 020 7833 2181

Ffacs: (gweinyddu’n unig) 020 7833 4371

Gwefan Adviceguide yw prif wasanaeth gwybodaeth cyhoeddus Cyngor ar Bopeth. Mae’n cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban.

Gwefan: www.adviceguide.org.uk/

Cyngor ar Bopeth Yr Alban

Cyngor ar Bopeth Yr Alban yw’r sefydliad ymbarél ar gyfer canolfannau yn Yr Alban. Nid ydynt yn cynnig cyngor yn uniongyrchol ond gallant ddarparu gwybodaeth ar ganolfannau yn Yr Alban.

Gwefan: www.cas.org.uk

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (CLS):

Gall y CLS eich helpu i ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth gyfreithiol o nifer o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys Canolfannau Cyngor ar Bopeth, canolfannau cyfraith, canolfannau cyngor annibynnol a chyfreithwyr y stryd fawr ledled Cymru a Lloegr. Gallwch gael gwybod mwy hefyd am gymorth cyfreithiol ac a allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gyda’ch achos. Gall llinell gymorth CLS roi cyngor am ddim ichi am fudd-daliadau, credydau treth, dyledion, addysg, cyflogaeth neu dai os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Ffôn: 0845 345 4 345
Gwefan: www.clsdirect.org.uk

Directgov

Directgov yw gwasanaeth digidol llywodraeth y DU i bobl yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol am wasanaethau cyhoeddus, ac yn eu crynhoi at ei gilydd mewn un lle.

Gwefan: www.direct.gov.uk

Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO)

Y GEO yw adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth a pholisïau cydraddoldeb yn y DU.

Gwefan:www.equalities.gov.uk

Ffôn: 0303 444 0000

Ffederasiwn Canolfannau’r Gyfraith:

Ffederasiwn Canolfannau’r Gyfraith yw’r sefydliad cydlynu cenedlaethol ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau cyfraith cymunedol. Mae canolfannau’r gyfraith yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol rhad ac am ddim ac annibynnol i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio yn eu dalgylchoedd. Nid yw’r Ffederasiwn ei hunan yn darparu cyngor cyfreithiol, ond gall ddarparu manylion am eich canolfan gyfraith agosaf.

Gwefan: www.lawcentres.org.uk

Ffôn: 020 7842 0720

Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: [email protected]

Cymdeithas y Gyfraith

Cymdeithas y Gyfraith yw’r sefydliad cynrychioliadol ar gyfer cyfreithwyr yn Lloegr ac yng Nghymru. Mae gan eu gwefan gyfeiriadur ar-lein o gwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr. Hefyd gallwch ffonio eu llinell ymholiadau i gael help wrth ddod o hyd i gyfreithiwr. Nid ydynt yn darparu cyngor cyfreithiol.

Gwefan:www.lawsociety.org.uk

Ffôn: 020 7242 1222 (ymholiadau cyffredinol)

Hefyd mae ganddynt swyddfa yng Nghymru:

Ffôn: 029 2064 5254

Ffacs: 029 2022 5944

E-bost:[email protected]

Cymdeithas Canolfannau’r Gyfraith Yr Alban (SALC):

Mae SALC yn cynrychioli canolfannau’r gyfraith ledled Yr Alban

Gwefan: www.scotlawcentres.blogspot.com

Ffôn: 0141 561 7266

Cyngor ar oedran

Age UK:

Mae Age UK yn ceisio gwella bywyd i bawb wrth iddynt dyfu’n hŷn trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor, cynhyrchion, hyfforddiant ac ymchwil.

Gwefan: www.ageuk.org.uk

Ffôn: 0800 169 6565
E-bost: [email protected]

ChildLine

ChildLine yw’r llinell gymorth rad ac am ddim, gyfrinachol yn y DU ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae cyngor hefyd ar gael ar eu gwefan.

Gwefan:www.childline.org.uk

Ffôn: 0800 1111

Canolfan Gyfreithiol Plant (CLC):

Mae’r CLC yn darparu cyngor cyfreithiol, gwybodaeth a chynrychiolaeth i blant a phobl ifanc.

Gwefan:www.childrenslegalcentre.com

Ffôn: 01206 877 910
Ffacs: 01206 877 963
E-bost: [email protected]

Children’s Rights Alliance England (CRAE):

Mae CRAE yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfreithiol rhad ac am ddim, mae’n codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol plant, ac yn gwneud gwaith ymchwil am sut all plant fanteisio ar eu hawliau.

Gwefan: www.crae.org.uk

Ffôn: 020 7278 8222
Llinell gymorth (ddydd Mawrth i ddydd Iau 3.30-5.30pm): 0800 32 88 759
E-bost: [email protected]
E-bost cyngor: [email protected]

Gwahaniaethu ar sail anabledd

Gwasanaeth Cyfraith Anabledd (DLS):

Elusen genedlaethol yw’r DLS sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl anabl a byddar. Mae’n trafod ystod eang o faterion, gan gynnwys gwahaniaethu, problemau defnyddwyr, addysg a chyflogaeth.

Gwefan: www.dls.org.uk

Ffôn: 020 7791 9800
Minicom: 020 7791 9801

Mencap:

Mencap yw prif elusen y DU ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Mae’n darparu nifer o wasanaethau gwahanol, gan gynnwys cyngor a gwybodaeth.

Gwefan: www.mencap.org.uk

Ffôn: 0808 808 1111
Ffacs: 020 7608 3254
E-bost: [email protected]

Mind:

Mind yw’r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu gwybodaeth er mwyn helpu meithrin dealltwriaeth o iechyd meddwl ac mae’n ymgyrchu i hyrwyddo a diogelu iechyd meddwl da. Mae ganddynt linell wybodaeth a llinell gwasanaethau cyfreithiol, ac mae hefyd yn darparu cyngor ar-lein.

Gwefan: www.mind.org.uk

Llinell gwybodaeth: 0845 766 0163
Gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol: 0845 2259393
E-bost: [email protected]

RADAR:

Mae RADAR yn fudiad ymbarél cenedlaethol sy’n cynnwys tua 500 o grwpiau aelodau. Mae’n ymgyrchu am hawliau cyfartal i bobl anabl ac mae’n darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion anabledd.

Gwefan:www.radar.org.uk

Ffôn: 020 7250 3222
Ffacs: 020 7250 0212
Minicom: 020 7250 4119
E-bost: [email protected]

Rethink:

Mae Rethink yn helpu dros 48,000 o bobl bob blwyddyn trwy ei wasanaethau, grwpiau cynnal a thrwy ddarparu gwybodaeth ar broblemau iechyd meddwl.

Gwefan: www.rethink.org

Ffôn: 020 7840 3188 neu 0845 456 0455 (10:00 i 14:00 ddydd Llun –dydd Gwener)
E-bost: [email protected]

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB):

Yr RNIB yw prif elusen y DU sy’n cynnig gwybodaeth, cynhaliaeth a chyngor i fwy na dwy filiwn o bobl sy’n colli eu golwg.

Gwefan: www.rnib.org.uk

Llinell gymorth: 0303 123 9999
E-bost: [email protected]

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Fyddar (RNID):

Mae’r RNID yn cynnig gwasanaethau o bob math i bobl fyddar a thrwm eu clyw ac yn darparu gwybodaeth a chymorth ar bob agwedd ar fyddardod, colli clyw a tinitws.

Gwefan:www.rnid.org.uk

Ffôn: 0808 808 0123
Ffôn testun: 0808 808 9000
Ffacs: 020 7296 8199
E-bost: [email protected] / [email protected]

SCOPE:

Scope yw prif elusen anabledd y DU ar gyfer plant ac oedolion â pharlys yr ymennydd. Mae’n darparu gwybodaeth, cymorth, cynhaliaeth a chyngor ar faterion anabledd.

Gwefan: www.scope.org.uk

Llinell gymorth: 0808 800 3333
Anfonwch y testun SCOPE gyda'ch neges i 80039
E-bost: [email protected]

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins:

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yw’r elusen fwyaf a mwyaf blaenllaw ar HIV ac iechyd rhywiol yn y DU. Mae’n cynnig gwasanaethau o bob math, gan gynnwys cyngor a gwybodaeth, i bobl sy’n cael eu heffeithio gan HIV.

Gwefan: www.tht.org.uk

Ffôn: 0845 1221 200 (10:00–22:00 ddydd Llun– dydd Gwener, 12:00–18:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul)
E-bost: [email protected]

Rhyw

Gingerbread:

Mae Gingerbread yn elusen genedlaethol a lleol sy’n gweithio dros a chyda theuluoedd un rhiant er mwyn gwella eu bywydau. Mae’n pwyso ac yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ac yn darparu cyngor a gwybodaeth i rieni sengl.

Gwefan: www.gingerbread.org.uk

Ffôn: 0808 802 0925 (llinell gymorth unig riant)
E-bost: [email protected]

Maternity Action:

Mae Maternity Action yn gweithio i roi terfyn ar anghydraddoldeb ac i hyrwyddo iechyd a lles pob menyw feichiog, eu partneriaid a’u plant o’r cyfnod cyn cenhedlu ac ymlaen i flynyddoedd cyntaf y plentyn. Mae’n darparu taflenni gwybodaeth ond ni all roi cyngor ar achosion unigol.

Gwefan: www.maternityaction.org.uk

Ffôn: 020 7253 2288

Rights of Women (RoW):

Mae RoW yn fudiad gwirfoddol yn y DU sy’n gweithio i sicrhau cyfiawnder a chydraddoldeb trwy roi gwybodaeth i fenywod a’u haddysgu a’u grymuso ar eu hawliau cyfreithiol. Mae’n darparu cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim ar faterion o bob math.

Gwefan: www.row.org.uk

Ffôn: 020 7251 6577
E-bost: [email protected]

Cymorth i Fenywod:

Mae Cymorth i Fenywod yn elusen genedlaethol allweddol sy’n gweithio i roi terfyn ar drais yn y cartref yn erbyn menywod a phlant. Mae’n cynnal rhwydwaith o fwy na 500 o wasanaethau trais yn y cartref a rhywiol ar draws y DU ac mae’n darparu llinell gymorth 24 awr rad ac am ddim.

Gwefan: www.womensaid.org.uk

Ffôn: 0808 2000 247
E-bost: [email protected]
Llinell gymorth: [email protected]

Ailbennu Rhywedd

Cymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth Rhywedd (GIRES):

Mae GIRES yn darparu ystod eang o wybodaeth a hyfforddiant i bobl Draws, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu amdanynt.

Gwefan: www.gires.org.uk

Ffôn: 01372 801 554
Ffacs: 01372 272 297
E-bost: [email protected]

The Gender Trust:
Y Gender Trust yw elusen fwyaf y DU yn gweithio i gefnogi pobl drawsrywiol, pobl â dysfforia rhyw a phobl drawsryweddol neu'r sawl sy'n cael ei effeithio gan faterion hunaniaeth rywiol. Mae ganddi linell gymorth ac mae'n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i gyflogwyr a sefydliadau.

Gwefan: www.gendertrust.org.uk
Ffôn: 0845 231 0505

Press for Change (PfC):

Mae PfC yn fudiad pwyso gwleidyddol ac addysgol. Mae’n ymgyrchu i ennill cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer yr holl bobl Draws yn y Deyrnas Unedig, trwy ddeddfwriaeth a newid cymdeithasol. Mae’n darparu gwasanaeth cyngor cyfreithiol, hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghoriaeth i gyflogwyr a mudiadau ac mae hefyd yn gwneud gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu.

Gwefan: www.transequality.co.uk / www.pfc.org.uk

Ffôn: 0161 432 1915 (10:00–17:00, dydd Iau yn unig nes i chi glywed yn wahanol)
Email: [email protected]

Rhwydwaith Ieuenctid Trawsryweddol:

Mae Trans Youth Network, sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl ifanc draws 11–26 oed, yn brosiect newydd ar draws y DU i gynnig eiriolaeth, cynhaliaeth, cyfeirio a chyfleoedd hyfforddiant i bobl ifanc draws a phobl ifanc sy’n ansicr o, yn cwestiynu ac sy’n gyffredinol yn archwilio eu rhyw, rhywedd neu hunaniaeth rhywedd biolegol ym mha fodd bynnag.

Gwefan:: www.transyouth.org

E-bost: [email protected]

Crefydd neu gred

Rhwydwaith Rhyng Ffydd:
Mae'r Rhwydwaith Rhyng Ffydd i'r DU yn hybu perthynas dda rhwng pobl o wahanol ffydd. Mae ganddo restr dda o fanylion cyswllt i grwpiau a sefydliadau ffydd ledled y DU.

Gwefan: www.interfaith.org.uk
Ffôn: 020 7931 7766
Ffacs: 020 7931 7722
E-bost: [email protected]

Cyfeiriadedd Rhywiol

The Albert Kennedy Trust:
Mae'r Albert Kennedy Trust yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc digartref, lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Gwefan: www.akt.org.uk
Ffôn: 020 7831 6562 (Llundain)
Ffôn: 0161 228 3308
E-bost: [email protected]

Rhwydwaith Cydraddoldeb:
Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb yn gweithio dros hawliau dynol a chydraddoldeb lesbiaid, bobl hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yn yr Alban. Mae'n darparu gwybodaeth, ac yn ymgymryd â gwaith ymgyrchu a pholisi.

Gwefan: www.equality-network.org
Ffôn: 07020 933 952
Ffacs: 07080 933 954
E-bost: [email protected]

Galop:
Mae Galop yn gweithio i atal a herio troseddau casineb homoffobig a thrawsffobig yn Llundain Fwyaf. Ei nod yw gostwng troseddau yn erbyn lesbiaid a phobl hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, ac mae'n ymgyrchu dros system cyfiawnder troseddol well.

Gwefan: www.galop.org.uk
Llinell gymorth: 020 7704 2040
Gweinyddiaeth: 020 7704 6767
Ffacs: 020 7704 6707
E-bost: [email protected]

The Lesbian and Gay Foundation (LGF):
Elusen a'i chanolfan yn y Gogledd-Orllewin yw'r LGF sy'n gweithio i gefnogi lesbiaid a phobl hoyw a deurywiol. Mae'n darparu cyngor a gwybodaeth, cwnsela a grwpiau cymorth.

Gwefan: www.lgf.org.uk
Ffôn: 0845 3 30 30 30
E-bost: [email protected]

Queer Youth Network (QYN):
Sefydliad cenedlaethol yw QYN yn darparu eiriolaeth, cymorth, cyfleoedd arwyddbostio a hyfforddiant i lesbiaid a phobl hoyw a deurywiol ifanc.

Gwefan: www.queeryouth.org.uk
E-bost: [email protected]

Stonewall:
Elusen blaenaf y DU dros lesbiaid a phobl hoyw a deurywiol yw Stonewall ac mae'n ymgymryd â gwaith ymgyrchu, lobïo ac ymchwil yn ogystal â darparu gwasanaeth gwybodaeth am ddim i unigolion, sefydliadau a chyflogwyr.

Gwefan: www.stonewall.org.uk
Ffôn: 08000 50 20 20
E-bost: [email protected]

Stonewall Housing:
Mae Stonewall Housing yn darparu tai dan gymorth, cyngor ac eiriolaeth i gymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yn Llundain.

Gwefan: www.stonewallhousing.org
Ffôn: 020 7359 5767
E-bost: [email protected]

Last Updated: 31 Hyd 2014