Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred

Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • Rydych (neu nid ydych) o grefydd benodol.
  • Rydych yn arddel (neu nid ydych yn arddel) cred athronyddol benodol.
  • Mae rhywun yn meddwl eich bod o grefydd benodol neu’n arddel crefydd benodol. Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw hyn.
  • Rydych yn gysylltiedig â rhywun sydd â chrefydd neu gred. Gwahaniaethu drwy gysylltiad yw hyn.

Yn y Ddeddf Cydraddoldeb gall crefydd neu gred olygu unrhyw grefydd, er enghraifft crefydd gyfundrefnol fel Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam neu Fwdhaeth, neu grefydd lai fel Rastaffariaeth neu Baganiaeth, cyhyd a bo ganddo system cred a strwythur eglur.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys pobl heb gred neu ddiffyg crefydd neu gred.

  • Er enghraifft mae’r Ddeddf yn diogelu Cristnogion os ydynt yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eu credoau Cristnogol. Mae’r Ddeddf hefyd yn diogelu pobl o grefyddau arall a’r rheiny heb grefydd os cânt eu gwahaniaethu oherwydd eu credoau.

Beth yw hanfodion cred athronyddol?

Dywed y Ddeddf fod rhaid i gred athronyddol gael ei harddel yn ddilys a’i bod yn fwy na safbwynt yn unig. Rhaid iddi fod yn argyhoeddiadol, difrifol ac yn gymwys i agwedd pwysig o ymddygiad neu fywyd dynol.

  • Er enghraifft, mae cyflogai’n credu’n gryf mewn newid hinsawdd a achosir gan ddyn ac yn teimlo fod ganddo gyfrifoldeb i fyw ei fywyd mewn modd sy’n cyfyngu ar ei effaith ar y ddaear er mwyn ei harbed ar gyfer cenedlaethau yn y dyfodol. Ystyrir hyn yn gred ac fe’i diogelir o dan y Ddeddf.

Dywed y Ddeddf hefyd fod rhaid i gred haeddu parch mewn cymdeithas ddemocrataidd a pheidio ag effeithio ar hawliau sylfaenol pobl eraill.

  • Er enghraifft, mae cyflogai’n credu bod pobl gwyn yn perthyn i hil o radd uwch na phobl eraill ac yn dweud hyn wrth ei gydweithwyr. Ni ystyrir hyn yn gred y cai ei diogelu o dan y Ddeddf.

Beth yw gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred?

Pan gewch eich trin yn wahanol oherwydd eich crefydd neu gred o ran y sefyllfaoedd a gwmpesir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallai’r driniaeth fod yn rhywbeth unwaith ac am byth neu yn sgil rheol neu bolisi. Nid oes rhaid iddi fod yn fwriadol i fod yn anghyfreithlon.

Mae rhai amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd crefydd neu gred yn gyfreithlon, ac fe’u heglurir isod.


Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail crefydd neu gred

Mae pedwar prif fath o wahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Gwahaniaethu Uniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn eich trin yn waeth na pherson arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich crefydd neu gred.

  • Er enghraifft, mae banc yn gwrthod benthyciad i chi oherwydd eich bod yn Iddew.

Gall gwahaniaethu ddigwydd hyd yn oed pan fo’r person sy’n gwahaniaethu a’r person sy’n dioddef y gwahaniaethu yn arddel yr un grefydd neu gred athronyddol.

  • Er enghraifft, mae dyn busnes Hindŵaidd yn cyfweld dwy fenyw ar gyfer swydd fel ei gynorthwyydd personol. Mae un yn Hindŵ ac nid yw’r llall yn grefyddol. Y fenyw Hindŵaidd yw’r ymgeisydd gorau yn y cyfweliad ond y fenyw arall sy’n cael y swydd oherwydd ei fod yn credu y byddai’i gleientiaid (sydd yn Gristnogion yn bennaf neu sydd heb grefydd neu gred) yn hapusach â hi. Gwahaniaethu uniongyrchol yw hyn ar sail crefydd neu gred.

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo gan sefydliad bolisi penodol neu fodd o weithio sy’n berthnasol i bawb ond sy’n eich rhoi o dan anfantais oherwydd eich crefydd neu gred.

  • Er enghraifft, rydych yn Iddew ac yn gorffen yn gynnar ar ddydd Gwener er mwyn cadw’r Saboth. Mae eich rheolwr yn newid y cyfarfodydd wythnosol o brynhawn dydd Mercher i brynhawn dydd Gwener ac rydych felly yn absennol yn aml.

Gellir caniatáu gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred ond rhaid i’r sefydliad neu’r cyflogwr allu dangos fod y polisi neu’r ffordd o weithio yn hanfodol i’r ffordd y mae’r busnes yn cael ei rhedeg. Cyfiawnhad gwrthrychol yw hyn.

Alla i wrthwynebu cod gwisgo neu bolisi gwisg unffurf yn y gweithle sydd yn erbyn fy nghrefydd?

Mae gan bawb hawl dynol i arddel eu crefydd neu gred o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae hynny’n golygu y gallwch wisgo eitemau arbennig o ddillad neu symbolau i ddangos eich bod yn arddel crefydd neu gred yn eich gweithle, hyd yn oed os nad yw cydweithwyr eraill o’r un grefydd yn gwneud hynny.

  • Er enghraifft, mae rhai pobl yn gwisgo croes i ddangos eu bod yn Gristnogion, ond nid yw pob Cristion yn gwneud hynny.

Fodd bynnag oherwydd bod yr hawl dynol hwnnw yn hawl amodol gall cyflogwr eich gwahardd rhag gwisgo eitemau penodol o ddillad neu symbolau os yw’n angenrheidiol i wneud hynny oherwydd y rôl rydych yn ei gwneud.

  • Er enghraifft, gofynnir i athro beidio â gwisgo gwisg sy’n cyrraedd y llawr i osgoi baglu. Os yw hyn yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd a diogelwch yn y gweithle ac nid oes dewis ymarferol amgen, gellir cyfiawnhau hyn.
  • Er enghraifft, mae dyn Sikh yn gweithio ym maes paratoi bwyd. Mae gan ei gyflogwr bolisi na ellir gwisgo unrhyw ddilledyn ar y pen heblaw am rwydau gwallt sy’n rhaid eu gwisgo. Ni ellid cyfiawnhau hyn pe bai opsiwn gwahanol sy’n bodloni gofynion iechyd a diogelwch y busnes, megis gwisgo twrban newydd neu newydd ei olchi ar gyfer pob sifft.

Aflonyddu

Mae aflonyddu yn y gweithle yn digwydd pan gewch eich cywilyddio, eich tramgwyddo neu’ch difrïo.
Ni ellir fyth cyfiawnhau aflonyddu. Fodd bynnag, os gall sefydliad neu gyflogwr ddangos ei fod wedi gwneud popeth y gall i atal pobl sy’n gweithio iddynt rhag ymddwyn yn y fath fodd, ni allwch ddwyn hawliad o aflonyddu yn eu herbyn, er gallech wneud hawliad yn erbyn y tramgwyddwr.
Nid yw’r rheolau ynglŷn ag aflonyddu yn gymwys y tu allan i’r gweithle. Fodd bynnag, os cewch eich aflonyddu neu’ch trin yn ddifrïol oherwydd eich crefydd neu gred y tu allan i’r gweithle, gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol.

  • Er enghraifft, mae dyn Mwslimaidd yn ymweld â’i siop prydau parod lleol yn rheolaidd. Bob tro wrth iddo fynd i mewn i’r siop, mae un o’r staff yn gwneud sylwadau sy’n ei alw’n derfysgwr. Mae hyn yn ei sarhau ac yn ei wylltio.

Erledigaeth

Pan gewch eich trin yn wael oherwydd ichi gwyno am wahaniaethu sy’n gysylltiedig â chrefydd neu gred o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydych yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn yn erbyn gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

  • Er enghraifft, mae menyw yn y gweithle yn cael ei haflonyddu gan oruchwyliwr oherwydd ei bod yn gwisgo hijab. Gwelodd ei chydweithiwr hyn yn digwydd ac mae’n cefnogi ei hawliad o ddioddef aflonyddu. Mae’r cydweithiwr yn cael ei bygwth gan ddiswyddiad. Byddai hyn yn erledigaeth oherwydd bod y cydweithiwr yn cefnogi hawliad ei chydweithiwr o gael ei haflonyddu.


Amgylchiadau pan fo cael eich trin yn wahanol oherwydd crefydd neu gred yn gyfreithlon.

Gallai triniaeth wahaniaethol fod yn gyfreithlon mewn sefyllfa waith os:

  • Yw perthyn i grefydd benodol yn hanfodol i’r swydd. Gofyniad galwedigaethol yw hyn. Er enghraifft, efallai byddai angen i gaplan carchar sy’n gwasanaethu carcharorion Methodistaidd fod yn aelod o’r ffydd honno.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu feithrin grŵp o bobl â chrefydd neu gred sydd heb gynrychioliad digonol neu sydd o dan anfantais mewn rôl neu weithgaredd.
  • Mae ysgol ffydd yn penodi rhai o’i hathrawon ar sail eu crefydd.
  • Mae sefydliad ag ethos yn seiliedig ar grefydd neu gred yn cyfyngu cyfleoedd swydd i bobl o’i grefydd neu gred. Er enghraifft, gallai sefydliad dyneiddiol sy’n hybu egwyddorion a chredoau dyneiddiol nodi fod rhaid i’w Brif Weithredwr fod yn ddyneiddiwr. Fodd bynnag nid yw cyfyngu cyfleoedd swydd i bobl o grefydd neu gred benodol yn gyfreithlon oni bai fod natur neu gyd-destun y gwaith yn gofyn am hynny.
  • Mae’r amgylchiadau’n perthyn i un o’r eithriadau eraill yn y Ddeddf sy’n caniatáu i gyflogwyr ddarparu triniaeth neu wasanaethau gwahanol yn seiliedig ar grefydd neu gred.

Gallai triniaeth wahaniaethol fod yn gyfreithlon mewn rhai sefyllfaoedd y tu allan i’r gweithle os yw:

  • Ysgol ffydd yn defnyddio meini prawf crefyddol i roi blaenoriaeth i dderbyn plant o grefydd benodol.
  • Mae sefydliad crefyddol neu gred yn cyfyngu ei aelodaeth neu wasanaethau, neu ddarpariaeth nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl o grefydd neu gred benodol. Mae hyn yn gymwys i sefydliadau’n unig sy’n arfer, hybu neu ddysgu crefydd neu gred, ac nid yw ei brif neu unig bwrpas yn un masnachol. Gellir gosod cyfyngiad yn unig:
    - os mai pwrpas y sefydliad yw darparu gwasanaethau i un grefydd neu gred neu
    - os yw’n angenrheidiol i osgoi tramgwyddo pobl â’r un grefydd neu gred â’r sefydliad.
  • Mae sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol i annog neu feithrin grŵp o bobl â chrefydd neu gred sydd heb gynrychioliad digonol neu sydd o dan anfantais mewn rôl neu weithgaredd.
  • Mae’r amgylchiadau’n perthyn i un o’r eithriadau eraill yn y Ddeddf sy’n caniatáu i gyflogwyr ddarparu triniaeth neu wasanaethau gwahanol yn seiliedig ar grefydd neu gred.

Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gwahaniaethu gallwch fwrw golwg ar un o’n Codau Ymarfer i weld os yw unrhyw eithriad arall yn gymwys.


Gwybodaeth bellach

Os ydych yn meddwl eich bod efallai wedi cael eich trin yn annheg ac rydych am gyngor pellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Rhadffôn 0808 800 0082

Ffôn testun 0808 800 0084

Neu ysgrifennu atynt i

Freepost Equality Advisory Support Service FPN4431

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd wedi llunio canllaw cyfreithiol ar y Ddeddf Cydraddoldeb.

Last Updated: 19 Hyd 2015