Beth i’w wneud os bydd rhywun yn dweud y gwahaniaethwyd yn eu herbyn
Os bydd cwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaeth, aelod, aelod cysylltiol neu westai yn credu eich bod chi (neu, os oes gennych rywun arall yn gweithio i chi, eich gweithiwr neu asiant) wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn eu herbyn, eu haflonyddu neu erlid yn groes i gyfraith cydraddoldeb parthed y nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau, neu swyddogaethau cyhoeddus yr ydych yn eu darparu, fe allant:
- Gwyno’n uniongyrchol i chi.
- Defnyddio rhywun arall i’w helpu i ddatrys y sefyllfa (datrysiad anghydfod amgen).
- Gwneud hawliad mewn llys.
Nid yw’r rhain yn ddewisiadau amgen, gan y gall y sawl sy’n cwyno fynd â’r gŵyn i’r llys o hyd, hyd yn oed os ydynt wedi cwyno i chi yn gyntaf a/neu ddefnyddio rhywun arall i geisio datrys y mater.
Mae’r rhan hwn o’r canllaw yn:
- edrych ar sut y gallwch ddatrys y sefyllfa os byddant yn cwyno’n uniongyrchol i chi
- rhoi gwybod ichi ble i ddod o hyd i wybodaeth am ddatrysiad anghydfod amgen (gallwch awgrymu hyn heb aros i’r sawl sy’n cwyno ei awgrymu)
- esbonio’r weithdrefn gwestiynau, y gall rhywun ei defnyddio i gael mwy o wybodaeth gennych os ydynt yn credu y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn eu herbyn, eu haflonyddu neu eu herlid
- esbonio rhai pwyntiau allweddol am drefniadau llys mewn achosion gwahaniaethu o ran hawliadau y tu allan i’r gweithle:
- ble y dygir hawliadau
- cyfyngiadau amser i wneud hawliad
- safon a baich prawf
- beth gall y llys eich gorchymyn i’w wneud
- ble i gael mwy o wybodaeth am amddiffyn achos llys.
Os bydd cwsmer, cleient, defnyddiwr gwasanaeth, aelod, aelod cyswllt neu westai yn cysylltu â chi i ddweud y gwahaniaethwyd yn eu herbyn, yn amlwg byddwch eisiau cael gwybod cymaint â phosibl am beth sydd wedi digwydd.
Ystyriwch yr wybodaeth a roddwyd yn y canllaw hwn.
Bydd angen i chi wneud asesiad realistig o ran a yw’r hyn yr ydych chi a/neu’ch gweithwyr a/neu asiantiaid wedi ei wneud (neu fethu ei wneud) yn cyfateb i wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erledigaeth.
Efallai y bydd angen i chi gynnal ymchwiliad i’r gŵyn er mwyn ffurfio barn.
Os ydych yn gyflogwr, ac yn meddwl y gall fod angen gweithredu disgyblaethol yn erbyn gweithiwr a gyflogir gennych, mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn cyhoeddi canllaw ar weithdrefnau disgyblu a chwynion.
Os ydych yn teimlo eich bod angen cyngor pellach ar p’un a yw’r hyn a ddigwyddodd yn mynd yn groes i gyfraith cydraddoldeb, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ble i gael cymorth yn yr adran Rhagor o wybodaeth a chyngor.
Os byddwch yn penderfynu y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn erbyn, yr aflonyddwyd ar neu yr erlidiwyd y sawl a gwynodd, bydd angen i chi benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys y gŵyn.
Os, wedi ymchwilio i beth a ddigwyddodd, y byddwch yn penderfynu:
- na ddigwyddodd unrhyw wahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth anghyfreithlon, neu
- nad ydych yn gyfrifol am beth a ddigwyddodd yna rhowch wybod i’r sawl a gwynodd.
Nid oes rhaid i chi esbonio sut y daethoch i’ch penderfyniad, ond gall fod o gymorth i chi wneud hynny. Er enghraifft, gallant benderfynu nad oes pwrpas mynd â’u hawliad i’r llys.
Awgrymiadau arfer da ar ddatrys cwynion
Gall amddiffyn cwyn mewn llys gymryd amser, gall fod yn ddrud a blinderus, ac fe all gael effaith niweidiol ar enw da eich sefydliad.
Mae'n debyg o fod er lles pawb i geisio unioni pethau cyn i hawliad gyrraedd y llys.
Os ydych angen ymddiheuro i’r sawl a gwynodd am y driniaeth a dderbyniont, neu’r modd y gwnaed rhywbeth, yna gwnewch hyn.
Os ydych angen newid y ffordd yr ydych yn gwneud pethau fel nad yw’r un peth yn digwydd eto, yna gwnewch hyn.
Hefyd:
- ystyriwch hyfforddiant cydraddoldeb ar eich cyfer chi a/neu bobl sy’n gweithio i chi
- meddyliwch am sefydlu polisi cydraddoldeb.
Roedd rhan gyntaf yr adran hon yn rhagdybio y byddech yn gwneud y gwaith ymchwil a thrafod eich hun. Os ydych eisiau cymorth i ddatrys cwyn am wahaniaethu, gallech geisio cael y sawl sy’n cwyno i gytuno i’r hyn a elwir fel arfer yn ‘ddatrysiad anghydfod amgen’ neu ADR. Mae ADR yn golygu dod o hyd i ffordd o ddatrys y gŵyn heb gael achos llys ffurfiol. Mae technegau ADR yn cynnwys cyfryngu a chymodi.
Gallwch gael gwybod mwy am ADR, p’un a fyddai unrhyw un o’r dewisiadau yn addas yn eich sefyllfa chi, beth mae’n rhaid ichi’i wneud, ac amcan o’r gost oddi wrth:
- ADRnow, gwasanaeth gwybodaeth sy’n cael ei redeg gan y Gynghrair Gwasanaethau Cynghori (ASA) os ydych yng Nghymru a Lloegr, a
- chyhoeddiad Llywodraeth Yr Alban Resolving Disputes Without Going To Court os ydych yn Yr Alban.
Mae manylion y sefydliadau hyn yn yr adran Rhagor o wybodaeth a chyngor.
Cymodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhedeg gwasanaeth cymodi fel dewis arall yn lle mynd i’r llys. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol a hygyrch. Os yw’r gŵyn yn cael ei datrys yn ystod y cymodi, gall arwain at setliad rhwymol. Os nad yw’n cael ei datrys, mae gan y sawl sy’n cwyno'r dewis o hyd o fynd â’r hawliad i’r llys.
Os bydd rhywun yn credu y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn eu herbyn, neu yr aflonyddwyd arnynt neu eu herlid dan gyfraith cydraddoldeb, gallant gael gwybodaeth gennych i’w helpu i benderfynu a oes ganddynt hawliad dilys ai peidio.
Mae ffurflen ar gael i’w helpu i wneud hyn sydd ar gael yn:
ttp://www.equalities.gov.uk, ond bydd eu cwestiynau yn cyfrif o hyd, hyd yn oed os na fyddant yn defnyddio’r ffurflen, ar yr amod eich bod yn defnyddio’r un cwestiynau. Weithiau gelwir y ffurflen yn ‘holiadur’.
Os byddwch yn derbyn cwestiynau gan rywun, nid oes rheidrwydd cyfreithiol arnoch i ymateb i’r cais, nac i ateb y cwestiynau, ond gallai niweidio eich achos os nad ydych.
Gall y cwestiynau a’r atebion ffurfio rhan o’r dystiolaeth mewn achos a ddygir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os nad ydych yn ymateb i’r cwestiynau o fewn wyth wythnos o’u derbyn, gall y llys ystyried hynny wrth wneud ei benderfyniad. Hefyd gall y llys ystyried atebion sy’n gyfrwys neu’n aneglur.
- Mae eithriad i hyn. Ni all y llys ystyried y methiant i ateb os yw unigolyn neu sefydliad yn datgan y gallai rhoi ateb ragfarnu achosion troseddol ac os yw hyn yn rhesymol. Gan amlaf, nid yw torri cyfraith cydraddoldeb ond yn arwain at hawliad mewn llys sifil. Yn achlysurol, gall y llysoedd troseddol gosbi torri cyfraith cydraddoldeb. Yn y sefyllfa honno, efallai y gallai’r unigolyn neu sefydliad wrthod ateb y cwestiynau, os gallent trwy ateb argyhuddo eu hunain ac y byddai’n rhesymol iddynt beidio ateb. Os ydych yn meddwl y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, dylech gael mwy o gyngor ar beth i’w wneud.
Y pwyntiau allweddol mae’r canllaw hwn yn eu hegluro yw:
- ble y dygir hawliadau
- cyfyngiadau amser i wneud hawliad
- safon a baich prawf
- beth gall y llys eich gorchymyn i’w wneud.
Ble y dygir hawliadau
Os ydych yn:
- ddarparwr gwasanaethau, neu’n
- cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, neu’n
- gymdeithas, gan gynnwys clybiau preifat a phleidiau gwleidyddol, neu’n
- ddarparwr eiddo, boed yn darparu tai neu eiddo masnachol, neu
- o dan rai amgylchiadau, yn ddarparwr addysgol
bydd unrhyw hawliad yn eich erbyn y gwahaniaethwyd yn erbyn rhywun (gan gynnwys y cafwyd methiant i wneud addasiadau rhesymol), yr aflonyddwyd ar, neu yr erlidiwyd rhywun ar sail nodwedd warchodedig yn cael ei ddwyn yn eich erbyn yn y Llys Sirol yng Nghymru a Lloegr a’r Llys Siryf yn Yr Alban.
Os ydych yn awdurdod cyhoeddus, gallai unigolyn sydd eisiau hawlio gwahaniaethu hefyd wneud hawliad am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yng Nghymru a Lloegr neu’r Llys Sesiwn yn Yr Alban.
Cyfyngiadau amser i wneud hawliad
Os bydd rhywun eisiau gwneud hawliad am wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erledigaeth o ran cyfraith cydraddoldeb, mae’n rhaid iddynt ei wneud o fewn chwe mis i’r weithred maent yn cwyno amdani.
Os yw’r unigolyn yn cwyno am ymddygiad dros gyfnod o amser, mae’r chwe mis yn cychwyn ar ddiwedd y cyfnod.
Os yw’r unigolyn yn cwyno am fethiant i wneud rhywbeth, er enghraifft, methiant i wneud addasiadau rhesymol, mae’r chwe mis yn cychwyn pan wnaed y penderfyniad i beidio’i wneud. Os nad oes tystiolaeth gadarn o benderfyniad, cymerir yn ganiataol y gwnaethpwyd y penderfyniad naill ai:
- pan mae’r sawl a fethodd wneud y peth yn gwneud rhywbeth arall sy’n dangos nad ydynt yn bwriadu ei wneud, neu
- ar ddiwedd y cyfnod pan ellid disgwyl yn rhesymol y byddent wedi gwneud y peth.
Er enghraifft
Mae busnes yn gwerthu nwyddau dros y rhyngrwyd. Mae ei wefan yn cael ei hail ddylunio. Mae’n edrych ar wneud ei wefan yn fwy hygyrch i bobl anabl ac mae’n penderfynu bod gwneud hyn yn addasiad rhesymol. Mae’r wefan newydd yn honni bod yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, pan mae’r wefan newydd yn mynd yn fyw, nid yw damaid yn fwy hygyrch na’r hen un. Nid yw’r busnes yn gwneud dim am hyn. Mae unigolyn anabl yn ysgrifennu at y sefydliad ac yn gofyn iddynt sicrhau bod eu gwefan yn cyrraedd y safon maen nhw’n hawlio ar ei chyfer. Nid yw’r sefydliad yn gwneud dim. Mesurir y cyfyngiad amser ar gyfer gwneud hawliad mewn llys o’r amser pan ellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod wedi gwneud gwelliannau i’r wefan.
Gall llys glywed hawliad os yw’n cael ei ddwyn y tu allan i’r terfyn amser os yw’r llys yn meddwl y byddai’n ‘gyfiawn ac yn deg’ (yn deg i’r ddwy ochr) iddo wneud hyn.
Os cyfeiriwyd hawliad at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer cymodi o fewn chwe mis i’r gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erledigaeth honedig ddigwydd, mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad mewn llys yn cael ei gynyddu i naw mis.
Safon a baich prawf
Safon y prawf mewn achosion o wahaniaethu yw’r un sy’n arferol mewn achosion sifil (heb fod yn droseddol). Mae’n rhaid i bob ochr geisio profi bod ffeithiau eu hachos yn wir yn ôl yr hyn sy’n debygol, mewn geiriau eraill, ei bod yn fwy tebygol na pheidio ym marn y llys neu dribiwnlys bod eu fersiwn o ddigwyddiadau’n wir.
Os bydd rhywun yn cyflwyno hawliad o wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu neu erlid yn eich erbyn, mae’r baich prawf yn cychwyn gyda nhw. Mae’n rhaid iddynt brofi digon o ffeithiau y gall y llys benderfynu arnynt, heb unrhyw esboniad arall, fod y gwahaniaethu, yr aflonyddu neu’r erlid wedi digwydd.
Wedi iddynt wneud hyn, ac yn absenoldeb unrhyw esboniad arall, mae’r baich prawf yn symud draw i chi i ddangos na wnaethoch chi nac unrhyw un arall yr oeddech yn gyfrifol am eu gweithredoedd neu eu methiant i weithredu wahaniaethu yn eu herbyn nac ychwaith aflonyddu arnynt neu eu herlid.
Beth all y llys eich gorchymyn i’w wneud
Yr enw ar yr hyn y gall y llys eich gorchymyn i’w wneud os enillwch eich achos yw ‘rhwymedi’.
Gall Llysoedd Sirol a Llysoedd Siryf sy’n gwrando hawliadau gwahaniaethu ganiatáu unrhyw rwymedi y gall yr Uchel Lys yng Nghymru a Lloegr neu’r Llys Sesiwn yn Yr Alban ei ganiatáu ar gyfer camwedd sifil neu mewn hawliad am adolygiad barnwrol.
Y prif rwymedïau sydd ar gael yw:
- Iawndal (gan gynnwys iawndal am glwyfo eich teimladau).
- Gwaharddeb yng Nghymru a Lloegr neu interdict yn Yr Alban – mae’r llys yn gwneud y gorchymyn hwn er mwyn atal unigolyn neu sefydliad rhag gweithredu mewn ffordd anghyfreithlon. Weithiau, gall gwaharddeb yng Nghymru a Lloegr fod yn orfodol; hynny yw, mae’n rhaid i’r unigolyn neu sefydliad wneud rhywbeth (er enghraifft, mae’n rhaid iddynt newid polisi neu wneud addasiad rhesymol). Yn Yr Alban, mae gorchymyn ar gyfer gweithred benodol yn gweithio yn yr un ffordd.
- Datganiad yng Nghymru a Lloegr neu declarator yn Yr Alban – mae hwn yn ddatganiad gan y llys sy’n dweud y gwahaniaethwyd yn erbyn rhywun.
Mewn achosion o wahaniaethu anuniongyrchol, os gallwch brofi nad oeddech yn bwriadu i’r hyn a wnaethoch fod yn wahaniaethol, mae rhaid i’r llys ystyried yr holl rwymedïau cyn edrych ar iawndal.
Gall y llys hefyd eich gorchymyn i dalu costau cyfreithiol a threuliau'r sawl sy’n dwyn yr achos. Byddai’n rhaid i chi dalu’r rhain ar ben eich costau cyfreithiol a threuliau eich hun.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am beth i’w wneud os bydd rhywun yn dwyn hawliad yn eich erbyn mewn llys oddi wrth:
- Yng Nghymru a Lloegr: Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi – gweler yr adran Rhagor o wybodaeth a chyngor am fanylion.
Last Updated: 28 Awst 2014