Cynllun Iaith Gymraeg

I gydymffurfio ag amodau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y cyd â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Fwrdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 25 Mawrth 2010. Cafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010. Mae'r cynllun wedi'i lansio ar draws y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac i'r cyhoedd.

Maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi mabwysiadu'r egwyddor, cyn belled ag y maen gyson â'r amgylchiadau a lle mae'n rhesymol ymarferol, y bydd y corff, wrth drefnu'i waith cyhoeddus yng Nghymru, yn delio â'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gyfartal. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r modd y bydd yn gweithredu ar yr egwyddor honno.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu fframwaith ar gyfer cyflwyno dyletswyddau ar bersonau ar ffurf safonau’r Gymraeg. Bydd y safonau yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Cynhaliwyd ymchwiliad safonau gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol rhwng Tachwedd 2014 a Chwefror 2015 a chafodd adroddiad ar gasgliadau’r ymchwiliad ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau y disgwylir i ddadl a phleidlais ar gymeradwyo’r rheoliadau yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ar 9 Chwefror 2016, ac y daw’r heoliadau hynny i rym ar 16 Chwefror 2016.

Mae’r rheoliadau yma yn pennu safonau mewn perthynas â 32 sefydliad, gan gynnwys y Comisiwn. Mae’r rheoliadau yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r sefydliadau hynny, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir yn y rheoliadau. Tan hynny, bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â'i Gynllun Iaith Gymraeg presennol.

Mae copi o'r Cynllun Iaith Gymraeg ar gael i'w lawr lwytho

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ar ol ei ddarllen, cysylltwch gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Bloc 1 Cainc D, Adeiladau'r Llywodraeth
Heol Santes Agnes
Caerdydd
CF14 4YJ

E-bost: [email protected]

Last Updated: 19 Ion 2016