Gweithio'n Well

Yn cyflwyno nodau ac amcanion y rhaglen Gweithio’n Well.

Beth yw Gweithio’n Well?

Nod Gweithio’n Well oedd nodi a hybu ffyrdd gweithio newydd arloesol sy’n helpu i ateb heriau’r unfed ganrif ar hugain.

Lansiom ni 'Gweithio’n Well' yn nhymor yr haf 2008, i archwilio sut y gallwn gydweddu dyheadau cyflogeion ag anghenion cyflogwyr. Gan adeiladu ar y prosiect ‘Trawsnewid Gwaith’ a ymgymerodd y cyn Comisiwn Cyfle Cyfartal, lledaenom baramedrau Gweithio’n Well i gynnwys anghenion rhieni, gofalwyr, pobl anabl, pobl ifanc a gweithwyr hŷn.

Nod Gweithio’n Well oedd nodi a hybu ffyrdd gweithio newydd arloesol sy’n helpu i ateb heriau’r unfed ganrif ar hugain.

Fel rhan o’n hymgynghoriad siaradom gyda phobl ym musnesau mawr a bach i ganfod sut maent yn cydbwyso gwaith a phrofiadau personol. Siaradom â chyflogwyr a’u staff fel ei gilydd am eu profiadau personol.

Edrychodd Gweithio’n Well ar gyfyngiadau polisïau ac arferion cyfredol, amlygodd feysydd lle'r oedd angen syniadau newydd ac atebion creadigol, a chynigodd ystod o opsiynau ac atebion er newid.

Canllaw gweithio’n well i gyflogwyr

A manager's guide to flexible working

Cynlluniwyd y canllaw hwn i helpu rheolwyr busnes i ddarganfod dulliau gweithio arloesol a’u rhoi ar waith a fydd yn cynyddu cynhyrchiant a gwella gwasanaeth cwsmeriaid, a galluogi cyflogeion i gydbwyso eu gwaith a’u bywydau personol.

Working better: the perfect partnership - workplace solutions for disabled people and business

Yn yr adroddiad hwn edrychom yn fanwl ar sut y dylem gefnogi uchelgeisiau a datblygiad gyrfa pobl anabl.

Ymchwil gweithio’n well

Ymchwil helaeth i rwystrau yn y gweithle a ffyrdd i’w goresgyn.

Adroddiad ymchwil 8: Mobility, careers and inequalities - A study of work-life mobility and the returns from education
Gan dynnu ar adolygiad eang o lenyddiaeth a’n dadansoddiad ein hunain ar gydbwysedd bywyd a gwaith rhwng 1991 a 2005, dangoswn fod anghydraddoldeb mewn rhagolygon grwpiau cydraddoldeb gwahanol yn fwy amlwg i weithwyr ifancach.

Adroddiad ymchwil 10: Equality group inequalities in education,employment and earnings: A research review and analysis of trends over time
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno adolygiad o ddata ar y berthynas rhwng addysg, cyflogaeth, incwm, dosbarth cymdeithasol ac anghydraddoldeb yn seiliedig ar grwpiau yn ymwneud â rhywedd, ethnigrwydd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol.

Adroddiad ymchwil 15: Work and care - a study of modern parents
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ‘Cyflwr y Genedl’ o ran rhieni a’u cyfrifoldebau gweithio a gofal yn 2009.

Adroddiad ymchwil 16: Flexible working policies - a comparative review
Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu i’r Institute for Women's Policy Research i archwilio effaith 'Right to Request, and Duty to Consider, Flexible Working' y Deyrnas Unedig ar gydraddoldeb rhyweddol a’r mynediad i weithio hyblyg o ansawdd i ddynion a menywod ill dau.

Adroddiad ymchwil 22: Older people inside and outside the labour market - a review
Wrth ymateb i bryderon na fydd systemau presennol yn gallu ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’r llywodraeth wedi targedu meysydd allweddol i’w diwygio, gan gynnwys: gofal cymdeithasol ac iechyd, addysg, budd-daliadau a phensiynau. Nod yr adroddiad hwn yw ymgymryd ag adolygiad o bobl hŷn o fewn a thu allan y farchnad lafur o ran cyfnodau gwahanol eu bywyd.

Adroddiad ymchwil 36: Integration in the workplace: emerging employment practice on age, sexual orientation and religion or belief
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu casgliadau ymchwil ar ran y Comisiwn gan yr Employment Research Institute (ERI) ym Mhrifysgol Napier Caeredin a’r Comparative Organisation and Equality Research Centre (COERC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain. Mae’r adroddiad yn archwilio arfer dda o ran recriwtio, dyrchafu ac hyrwyddo pobl yn y gwaith yn seiliedig ar y tri llinyn cydraddoldeb oed, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred.

Crynodeb ymchwil 41: Working Better: Fathers, family and work - contemporary perspectives
Mae’r papur hwn yn cynnig sylwadau newydd i brofiadau tadau o ran gwaith a gofal ym Mhrydain Fawr heddiw a’u barn arnynt. Ar rhai materion, mae gan dadau farn lai traddodiadol na mamau. Ond er bod tadau yn mynegi safbwyntiau egalitaraidd, mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf yn gweithio’n llawn amser a’u partneriaid sy’n gofalu am eu plant gan mwyaf. Fodd bynnag, mae arwyddion calonogol er newid. Mae tadau yn gwerthfawrogi gweithio hyblyg yn fawr iawn oherwydd y buddion a ddaw i fywyd y teulu ac maent yn obeithiol o’r cynigion ar gyfer mwy o ganiatâd absenoldeb o’r gwaith i dadau.

Adroddiad ymchwil 43: Older workers: employment preferences, barriers and solutions
Mae’r papur hwn yn nodi rhwystrau i gyflogaeth a hoffterau ac yn cynnig atebion posibl i’r rhain yn seiliedig ar: arolwg o 1,494 o unigolion hŷn 50 - 75 oed, adolygiad o arfer dda cyflogwyr, a chyfweliadau â rhanddeiliaid a chyflogwyr.

Adroddiad ymchwil 47: The equality impacts of the current recession
Gwyddys fod unigolion yn teimlo effeithiau cyflogaeth am gryn amser ar ôl cyfnod o ddirwasgiad, gan gynnwys nifer y di-waith yn codi, lefelau incwm yn gostwng, ac ati. Ni chaiff effeithiau’r rhain eu hwynebu’n gyfartal, gyda rhai grwpiau wedi’u heffeithio arnynt yn fwy nag eraill. Yn erbyn y cefndir hwn, gofynnodd y Comisiwn i Institute for Employment Research Prifysgol Warwick i edrych ar effaith y dirwasgiad o ran pedwar llinyn mandad y Comisiwn: rhywedd, hil/ethnigrwydd, oed ac anabledd.

Adroddiad ymchwil 77: Opening up work: The views of disabled people and people with long-term health conditions
Cafodd yr ymchwil hwn ei gynllunio i ddeall sut y gellid agor byd cyflogaeth i fwy o bobl anabl er mwyn iddynt allu cyfranogi’n llawn ac i fwy o gyflogwyr i wireddu potensial eu cyflogeion anabl. Ceisiodd edrych y tu hwnt i’r rhwystrau ac i nodi sut gallai gweithleoedd fod yn fwy cynhwysol.

Last Updated: 19 Meh 2015