Mae tair o bob pedair menyw sy’n gweithio yn dweud eu bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth

Mae tair o bob pedair menyw sy’n gweithio yn dweud eu bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw yn galw am weithredu brys wrth i ymchwil newydd awgrymu bod dros dri chwarter o fenywod beichiog a mamau newydd – sy’n cyfateb i 390,000 o fenywod ar draws Prydain a 17,000 yng Nghymru – yn cael eu trin yn negyddol ac o bosib yn wahaniaethol yn eu gwaith bob blwyddyn.

Mae’r Comisiwn heddiw yn cyhoeddi cynigion eang er newid, gan gynnwys sicrhau y gwneir iawn yn gyfreithiol i fenywod, wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad ymchwil terfynol ar brofiadau yn y gweithle o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Cynhaliwyd yr ymchwil cynhwysfawr Prydain eang (gyda chanfyddiadau yn benodol i Gymru) mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Yn ôl yr ymchwil, er bod 77% o famau ym Mhrydain sy’n gweithio yn adrodd profiadau sydd o bosib yn negyddol neu’n wahaniaethol, dim ond chwarter ohonyn nhw (28%) a soniodd wrth eu cyflogwr am y problemau, dim ond 3% a ymgymerodd â gweithdrefn gwyno fewnol y cyflogwr ac fe wnaeth llai na 1% fynd ati i ddilyn hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth.

Dengys yr arolwg o fwy na 3,000 o famau a 3,000 o gyflogwyr amrywiaeth o resymau dros hyn, gan gynnwys cost ariannol o ddilyn hawliad, ofn ôl-effeithiau negyddol yn y gwaith, diffyg gwybodaeth am eu hawliau, pwysau a blinder. Ers i ffioedd tribiwnlys o hyd at £1,200 gael eu cyflwyno yn 2013 mae nifer yr achosion gwahaniaethu ar sail rhyw wedi cwympo o 76% a’r rhai yn gysylltiedig â beichiogrwydd o 50%1.

Dengys yr ymchwil hefyd fod y rhan fwyaf o gyflogwyr (70%) o’r farn y dylai menywod ddweud wrthyn nhw yn y cam recriwtio os ydyn nhw’n feichiog a theimlai chwarter ohonyn nhw ei fod yn rhesymol yn ystod cyfweliad i ofyn i fenywod sydd mewn oed i gael plant ynglŷn â’u cynlluniau geni plant.

Yn ôl canfyddiadau ymchwil yn benodol i Gymru roedd:

  • 87% o gyflogwyr yng Nghymru o’r farn bod cefnogi menywod beichiog a’r rheini ar absenoldeb mamolaeth o fudd i sefydliadau, ond:
  • adroddodd 71% o’r mamau yn yr arolwg yng Nghymru am brofiadau negyddol neu o bosib gwahaniaethol
  • soniodd 46% o’r mamau yn yr arolwg yng Nghymru am effeithiau negyddol ar eu gyrfa (cyfle, statws, sicrwydd swydd)
  • dywedodd 36% o’r mamau yng Nghymru a fyddai wedi hoffi arfer gweithio hyblyg nad oedden nhw wedi gwneud cais amdano oherwydd iddyn nhw ofni y cai ei ystyried yn negyddol gan eu cyflogwyr
  • roedd canran uwch o sefydliadau yng Nghymru (10%) nad oedd yn cynnig arferion gweithio hyblyg o’u cymharu â Lloegr (4%) a’r Alban (3%).

Mae’r Comisiwn heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i:

  • gymryd camau mwy effeithiol i atal cyflogwyr, yn ystod y broses recriwtio, rhag gofyn am feichiogrwydd menyw neu ynglŷn â’u bwriad i gael plant.
  • archwilio posibilrwydd cael cynllun yswiriant ar y cyd, ar sail model llwyddiannus a ddefnyddir yn Denmarc, i gefnogi cyflogwyr sefydliadau maint bach a chanolig wrth iddyn nhw ddarparu taliadau chwyddo a darpariaeth cyflenwi ar gyfer absenoldeb mamolaeth;
  • newid y system ffioedd tribiwnlys cyflogaeth i sicrhau nad yw ffioedd yn rhwystro menywod beichiog a mamau newydd rhag cael cyfiawnder;
  • ystyried cynyddu’r terfyn amser i fenywod ddwyn achos tribiwnlys cyflogaeth yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth o dri mis i chwech.

Meddai Ann Beynon, Comisiynydd i Gymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

‘Ni ellir anwybyddu’r canfyddiadau hyn. Maen nhw’n dangos maint gwirioneddol y gwahaniaethu sy’n wynebu mamau yng Nghymru a ledled Prydain.

‘Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys i daclo’r rhwystrau y mae menywod beichiog a mamau yn eu hwynebu wrth geisio cyfiawnder.

Law yn llaw â’r argymhellion i Lywodraeth y DU, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ymyriadau effeithiol a fydd yn galluogi cyflogwyr i reoli a manteisio ar ddoniau a phrofiadau menywod beichiog a mamau newydd ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â nhw.

‘Mae gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ddrwg i unigolion, i sefydliadau ac i’r economi yng Nghymru. Rydym am i’r adroddiad hwn fod yn alwad ar gyfer gweithredu. Rhaid gwireddu newid.'

Dengys canfyddiadau Prydain-eang newydd cam olaf ymchwil y Comisiwn hefyd y:

  • soniodd tri chwarter y mamau a deimlai bod rhaid iddyn nhw ymddiswyddo am fwy na 10 math gwahanol o brofiadau negyddol;
  • disgrifiodd hanner y mamau ym Mhrydain (46% yng Nghymru) effaith negyddol ar eu gyrfaoedd, statws gwaith neu sicrwydd swyddi gan gynnwys heb gael gwybod am gyfleoedd dyrchafu; cyfleoedd hyfforddi heb eu cynnig iddyn nhw; cael bygythiadau o gael eu diswyddo neu eu rhoi dan bwysau i ymddiswyddo; a allai, o’i raddio i fyny i’r boblogaeth yn gyffredinol, effeithio ar 210,000 o famau’r flwyddyn;
  • soniodd 4% o famau eu bod wedi rhoi gorau i’w swyddi oherwydd risgiau iechyd a diogelwch na chafodd eu datrys; o’i raddio i fyny i’r boblogaeth yn gyffredinol gallai hyn effeithio ar 21,000 o famau’r flwyddyn;
  • nid oedd 67% o gyflogwyr wedi ceisio am wybodaeth neu arweiniad ar faterion cyflogaeth yn gysylltiedig â beichiogrwydd a mamolaeth ac ni wnaeth dros hanner ohonyn nhw (55%) ddarparu unrhyw ganllawiau, hyfforddiant neu gymorth i reolwyr ar reoli beichiogrwydd a mamolaeth; a
  • dim ond 4% o gyflogwyr oedd wedi ceisio gwybodaeth ar faterion megis amser o’r gwaith i fynychu apwyntiadau cyn geni neu i drin â cheisiadau gweithio hyblyg. Fodd bynnag, roedd 10% o’r mamau yn yr arolwg wedi cael problemau pan oedd angen amser o’r gwaith arnyn nhw i fynychu apwyntiadau cyn geni ac roedd 51% wedi dioddef canlyniadau negyddol ar ôl cael caniatâd i weithio hyblyg.

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth i’r wasg a chyfweliadau yng Nghymru, cysylltwch â 029 2044 7710.

Am ragor o wybodaeth ar yr ymgyrch #worksforme ymwelwch â: www.equalityhumanrights.com/worksforme

Darllen yr adroddiad ymchwil llawn

Comisiynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr ymchwil mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Cyfwelodd y cwmni ymchwilio IFF Research Ltd 3,254 o famau gyda phlenyn dan 2 oed a 3,034 o weithleoedd ar draws y DU yn yr arolwg fwyaf erioed o’i fath.

* Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2015) Ystadegau Tribiwnlys CSV: Gorffennaf i Fedi 2015
https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/fil...

Last Updated: